Beth yw Pobl Fy Eglwys?
Pobl Fy Eglwys (PFE) yw'r gronfa ddata hyfforddiant diogelu a DBS taleithiol sydd wedi'i chynllunio i'ch galluogi i storio cofnodion eich pobl a chadw golwg arnynt. Mae Pobl Fy Eglwys yn caniatáu i chi ychwanegu eich pobl, mewn unrhyw rôl, edrych ar gofnodion hyfforddiant diogelu i gynllunio ar gyfer hyfforddiant ac, os oes angen, cychwyn gwiriad DBS.

DBS
Fe ddaeth data Pobl Fy Eglwys yn uniongyrchol o gronfa ddata'r esgobaeth, gan ymgorffori rolau a thystysgrifau DBS a ddychwelwyd yn flaenorol. Gellir rhannu'r data hwn i’r categorïau canlynol:
- Cywir heb fod angen unrhyw gamau, gan fod y wybodaeth yn bodloni meini prawf diogelu a DBS ar gyfer y rôl bresennol/rolau presennol.
- Data hŷn y mae gofyn ei lanhau. Pobl a rolau yw’r cofnodion hyn fel arfer.
- Gwiriadau DBS y mae angen eu hadnewyddu.
Efallai y gwelwch chi nad yw Pobl Fy Eglwys yn cadw cofnodion ar gyfer pobl rydych yn eu hadnabod. Dydy hyn ddim yn broblem. Gallwch ychwanegu pobl, eu rôl ac, os oes angen, dechrau gwiriad DBS ar eu cyfer. Cyn i chi ddechrau'r broses DBS, rhaid i chi fod yn sicr o'r gwiriad DBS sydd angen i'r person a nodi pa lefel, a oes angen gwiriad manylach ac a oes angen unrhyw wiriadau gwahardd. Gallwch ddod o hyd i gymorth ym Mhecyn Cymorth Cymhwystra y DBS
Mae Pobl Fy Eglwys yn gweithio mewn partneriaeth ag APCS (Mynediad at Wasanaethau Gwirio Personol) fel ein corff ymbarél gwiriad DBS.
Am ragor o wybodaeth am DBS, gweler y deunydd darllen Cysylltiedig. Y ddolen i gael mynediad i wefan y DBS yw https://www.gov.uk/government/organisations/disclosure-and-barring-service.
Noder bod yn rhaid cwblhau gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn enw cyfreithiol yr ymgeisydd, sef yr union wybodaeth â’r hyn a geir yn y dogfennau adnabod swyddogol. Os yw sefyllfa eich ymgeisydd yn newid, er enghraifft os oes newid i’w enw cyfreithiol, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i chi a rhaid cychwyn gwiriad newydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os yw rôl yr ymgeisydd yn newid, chi sy’n gyfrifol am benderfynu a oes angen gwiriad newydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rôl. Os yw’r ymgeisydd yn derbyn rhybuddiad neu euogfarn ar ôl cyhoeddi gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, bydd y tîm diogelu yn derbyn hysbysiad ac yn cysylltu â’r ymgeisydd i weld y dystysgrif er mwyn cwblhau asesiad risg. Cysylltir â chi hefyd, a rhaid i chi atal y broses recriwtio ac aros i glywed gan y swyddog diogelu taleithiol.
Polisi'r Eglwys yng Nghymru yw adnewyddu tystysgrifau DBS bob tair blynedd.
Gwasanaeth Diweddaru
Dydy’r Eglwys yng Nghymru ddim yn derbyn gwiriadau DBS sydd wedi'u cyhoeddi gan unrhyw sefydliad arall. Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cyhoeddi gwiriad DBS ar gyfer ymgeiswyr sydd â rôl sy'n gofyn am un.
Mae Gwasanaeth Diweddaru'r DBS yn eich galluogi i sicrhau bod eich tystysgrifau DBS yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, ac yn sicrhau y gall cyflogwyr wirio tystysgrifau DBS. Mae ein polisi yn annog unrhyw un sydd angen gwiriad DBS Manylach er mwyn cael rôl yn yr Eglwys yng Nghymru i danysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru fel rhan o'r broses ymgeisio.
Ar ôl i chi dderbyn cadarnhad bod eich gwiriad DBS wedi'i gwblhau, byddwch yn derbyn e-bost yn eich arwain trwy'r broses o gofrestru i'r Gwasanaeth Diweddaru. Mae’n costio £13 y flwyddyn i gofrestru. Ni chodir tâl os ydych yn wirfoddolwr.
Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Diweddaru'r DBS, gweler y deunydd darllen Cysylltiedig. Y ddolen i gael mynediad i wefan Gwasanaeth Diweddaru'r DBS yw https://www.gov.uk/dbs-update-service.
Diogelu
Mae Pobl Fy Eglwys hefyd yn caniatáu i chi wirio a yw rhywun wedi cwblhau ei Hyfforddiant Diogelu yn llwyddiannus. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon wrth ymyl eu statws DBS yn y system. Mae'r bathodynnau lliw ger yr adran 'Diogelu' yn adlewyrchu unrhyw Hyfforddiant Diogelu presennol y mae'r person hwnnw wedi'i gael. Mae'r bathodynnau coch yn nodi nad yw person wedi mynychu ei fodiwlau Diogelu priodol yn y tair blynedd flaenorol, tra bod y bathodynnau gwyrdd yn nodi bod person wedi cwblhau ei fodiwlau Diogelu priodol yn y tair blynedd diwethaf. Mae'r system yn caniatáu i chi weld pa gwrs y gwnaethon nhw ei fynychu, y statws, a'r canlyniad.
Am ragor o wybodaeth am Hyfforddiant Diogelu, gweler ein tudalen Diogelu.
Mynediad
I gael mynediad i'r wefan, ewch i https://mcpwales.dioce.se neu defnyddiwch y botwm isod. Os ydych yn mewngofnodi am y tro cyntaf, gofynnir i chi newid eich cyfrinair dros dro i rywbeth mwy personol i chi. Am ragor o arweiniad ar sut i fewngofnodi i Pobl Fy Eglwys, gweler y Canllaw Defnyddwyr isod am gymorth pellach.
Canllaw i Ddefnyddwyr
Am gymorth pellach ar sut i fewngofnodi i'r system a’i llywio, gweler Canllaw Defnyddwyr (PDF).
Cwestiynau Cyffredin
Mae gan rywun gofnod ar y system ond nid yw'n ymddangos o dan fy rhestr. Sut mae gosod cofnod yr unigolyn yno?
Gweler adran 'Dod o hyd i Rywun / Ychwanegu Rhywun' y Canllaw Defnyddwyr am eglurhad pellach.
Beth mae'r darian wag gyda'r tic gwyrdd y tu mewn iddi yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu bod y gofynion DBS wedi'u gosod. Gweler adran 'Diffinio'r Gofynion DBS' y Canllaw Defnyddwyr am eglurhad pellach.
Beth mae'r darian wag gyda'r tic coch y tu mewn iddi yn ei olygu?
Mae hyn yn golygu nad yw'r gofynion DBS wedi'u gosod. Gweler adran 'Diffinio'r Gofynion DBS' y Canllaw Defnyddwyr am eglurhad pellach.
Mae gan y person hwn DBS dilys, ond mae'n dweud "DBS ddim yn ddilys.” Beth mae hyn yn ei olygu?
Gallai hyn olygu un o ddau beth. Yn y lle cyntaf, efallai na fydd y system yn gallu alinio'r dystysgrif â'r gofynion DBS penodol. Os felly, gweler adran 'Diffinio’r Gofynion DBS' y Canllaw Defnyddwyr am gymorth pellach. Os yw'r gofynion eisoes wedi'u gosod a bod y system yn dal i fethu paru'r ddau gyda'i gilydd, mae’n dra thebygol bod hynny’n digwydd oherwydd bod lefel mynediad neu weithlu benodol ar goll o'r dystysgrif. Yn yr achos hwn, awgrymir sefydlu un newydd.
A oes unrhyw adnoddau neu hyfforddiant ar gael i helpu i ddiffinio gofynion y rôl.
Oes, mae siartiau llif 'Plant' ac 'Oedolion' ar gael i'w cyrchu ar y system. Gweler y Canllaw Defnyddwyr i gael rhagor o wybodaeth ar sut i'w cyrchu.
Mae timau PFE a’r DBS yn deall bod dod o hyd i’r lefel gwiriad DBS angenrheidiol ar gyfer rhai rolau yn anodd. Felly, mae ein rheolwr DBS rhanbarthol wedi cynllunio sesiwn hyfforddi ar-lein ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru sy'n rhyngweithiol. Am ragor o wybodaeth am y sesiynau hyn a sut i archebu lle, cysylltwch â ni drwy'r ffurflen gyswllt isod.
Beth mae "Gwahardd Plant" a "Gwahardd Oedolion" yn ei olygu?
Mae Gwahardd Plant a Gwahardd Oedolion yn diffinio a yw person yn cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi'i reoleiddio gydag oedolion neu blant agored i niwed. Gweler adran Llywio siartiau llif Plant ac Oedolion y Canllaw Defnyddwyr.
Mae Fy ymgeisydd wedi ymuno â'r Gwasanaeth Diweddaru. Sut gellir adlewyrchu hyn ar Pobl Fy Eglwys?
Gweler adran 'Paratoi ar gyfer y Gwasanaeth Diweddaru' yn y Canllaw Defnyddwyr.
Mae eicon y Gwasanaeth Diweddaru yn ymddangos ar eu cofnod, ond mae'r system yn dal i ddweud "DBS ddim yn ddilys.” Sut mae modd i mi ddatrys hyn?
Gweler adran 'Ailwiriadau'r Gwasanaeth Diweddaru' y Canllaw Defnyddwyr.
Rydw i wedi anfon dolen y cais yn llwyddiannus at fy ymgeisydd. A oes dyddiad dod i ben ar y ddolen hon?
Mae gan yr ymgeisydd 90 diwrnod i gwblhau ei gais a'i gyflwyno. Os na fydd y cais yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen hon, bydd y ddolen i wneud cais yn dod i ben a bydd gwiriad newydd yn cael ei sefydlu. Gall defnyddwyr anfon negeseuon e-bost atgoffa at eu hymgeiswyr i gadw golwg ar eu cynnydd. Os yw'r ymgeisydd yn honni nad yw wedi derbyn e-bost i wneud cais, dylech ei gynghori i wirio ei ffolder sbam rhag ofn.
A oes angen i mi gwblhau camau prosesu DBS cyn i ymgeisydd ddechrau yn ei rôl?
Nid oes unrhyw gyfraith sy'n eich gwahardd rhag dechrau swydd heb wiriad DBS, oni bai ei fod yn weithgaredd a reoleiddir fel y'i diffinnir gan y DBS. Efallai y bydd gan y rhan fwyaf o gyflogwyr eu polisïau eu hunain sy'n gofyn am wiriad DBS cyn i chi ddechrau cyflogaeth, ac efallai y byddai'n well gan rai gwblhau tystysgrif DBS ar-lein. Mae'n bwysig adolygu eich polisïau eich hun, oherwydd mewn rhai sefyllfaoedd, mae cael tystysgrif DBS ddilys yn ofyniad cyfreithiol cyn dechrau gweithio, yn enwedig mewn rolau sy'n ymwneud â phlant neu oedolion agored i niwed.
Oes dewis Cymraeg?
Oes. Os cliciwch chi lle mae'n dweud 'Cymraeg' ar gornel dde uchaf y sgrin, dylai gyfieithu'r dudalen.
Cwestiynau Cyffredin ar Ddata
A yw eich system diogelu data/GDPR y DU yn cydymffurfio?
Ydy. Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn cydymffurfio â GDPR y DU a deddfwriaeth arall fel Deddf Diogelu Data 2018. Hefyd, penodwyd Swyddog Diogelu Data i oruchwylio'r holl weithgaredd diogelu data. Gellir cysylltu â'r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@churchinwales.org.uk
Sut ydw i'n gwybod bod fy nata yn ddiogel?
Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi sefydlu system gadarn o ddiogelu data trwy ddylunio, Ar-lein ac All-lein, sy'n gweithredu mewn modd sy'n sicrhau diogelwch priodol y data personol dan ei reolaeth, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colli, dinistrio neu ddifrodi damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol a sefydliadol priodol, systemau electronig a llaw ac sy’n cynnwys hyfforddiant priodol ar gyfer aelodau staff dan sylw.
Pwy, yn yr Eglwys yng Nghymru, fydd yn gallu gweld fy nata personol?
Bydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn dilyn yr egwyddorion cyfyngu diogelu data a nodir yn y gyfraith ac yn sicrhau mai dim ond y lleiafswm o bobl all gael mynediad at y data a gasglwyd. Mae'r mynediad at ddata yn cael ei reoli, yn cael ei warchod gan gyfrinair ac mae ar sail 'angen gwybod' yn unig.
Pam mae angen fy nata personol ar y swyddfa genedlaethol pan mae fy ymwneud â'r eglwys ar lefel esgobaethol?
Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn rheoli gwahanol agweddau ar weithgareddau'r Eglwys gan gynnwys diogelu data. Mae'r data a gedwir gan 'Pobl Fy Eglwys' mewn man canolog er mwyn gwarchod yr unigolion dan sylw, er mwyn rhwyddineb rheoli ac er mwyn diogelu’r data.
Rydw i wedi gwirfoddoli gyda'r Eglwys ers sawl blwyddyn, a does neb erioed wedi gofyn am fy nata personol. Pam mae angen i mi roi fy nata personol yn eich system?
Mae gan yr Eglwys nifer o gyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau diogelwch ei hamgylchedd a'r bobl sydd yn yr amgylchedd hwnnw. Hefyd, mae casgliadau'r ymchwiliad cenedlaethol diweddar i gamdriniaeth hanesyddol (IICSA) yn gosod canllawiau ychwanegol a fframwaith ar gyfer amddiffyn. Mae'r gronfa ddata 'Pobl Fy Eglwys' yn rhan o ymateb eang i'r gofynion hyn.
Pam y gofynnir i mi ddarparu fy nata personol pan fyddwch eisoes yn gwybod amdanaf o'm hanes gyda'r Eglwys?
Mae'r Swyddfa Genedlaethol yn rheoli'r data a ddarparwyd yn flaenorol ac yn ei symud ar draws i system newydd Pobl Fy Eglwys. Felly mae dull cyson o arfer da o safbwynt diogelu data ar draws pob agwedd ar systemau'r Eglwys yng Nghymru sy'n cael eu cynnal yn broffesiynol gyda'r lefelau gofynnol o ddiogelwch a chydymffurfedd.
Beth wnaethoch chi gyda'r data rydych wedi'i storio ar fy nghyfer?
Mae'r swyddfa Genedlaethol yn glanhau'r gronfa ddata ac yn cael gwared ar ddata sy'n hŷn na 3 blynedd i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r egwyddorion lleihau data, storio a chywirdeb. Dim ond Data a ddarparwyd o fewn y tair blynedd diwethaf fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer system newydd Pobl Fy Eglwys, felly efallai y gofynnir i chi ail-anfon data a ddarparwyd cyn y dyddiad hwnnw.
A fyddwch chi’n rhannu fy nata gydag unrhyw un arall?
Dim ond dan amgylchiadau penodol a ragnodwyd y caniateir i Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru rannu Data Personol sydd o dan ei reolaeth. Gelwir y bobl a'r sefydliadau y caniateir iddynt gyrchu'r data yn Broseswyr Data ac yn ôl y gyfraith mae'n rhaid iddynt fod o dan gytundebau contractiol llym gyda'r Eglwys. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar yr Hysbysiadau Preifatrwydd amrywiol a gyhoeddir gan yr Eglwys sydd i'w gweld ar y brif wefan.
Am ba mor hir y byddwch chi’n cadw fy nata?
Mae am ba mor hir y cedwir data yn amrywio yn dibynnu ar y rôl dan sylw. Gellir dod o hyd i fanylion yr amserlen(ni) cadw data ar yr Hysbysiad Preifatrwydd a gyhoeddir ar y brif wefan.
Beth sy'n digwydd i'm data/cofnod pan nad ydw i bellach mewn rôl?
Bydd y Data Personol a gesglir ar gyfer Pobl Fy Eglwys yn cael ei gadw yn unol â'r Atodlen Cadw Data sydd ar gael ar yr Hysbysiad Preifatrwydd ar y brif wefan.
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen ganlynol.
Datganiad Preifatrwydd
Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol (PDF) yma.