English

Roedd yr hawliau fel y darperir ar eu cyfer o dan Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn berthnasol i "weithwyr" yn unig. Fodd bynnag, o dan y darpariaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer Telerau Gwasanaeth clerigion yn yr Eglwys yng Nghymru, rhoddwyd hawliau cyfatebol i glerigion. Mae'r polisi hwn yn nodi'r hawliau hynny, a'r gweithdrefnau cysylltiedig.

Diben

Diben y polisi hwn yw cefnogi tadau newydd a phartneriaid mamau/rhieni sy'n rhoi genedigaeth, gan gynnwys rhieni sy'n mabwysiadu, drwy ddarparu amser o'r gwaith i ofalu am eu plentyn neu blant.

Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob clerig cyflogedig sy'n ddarostyngedig i Ganon Telerau Gwasanaeth Clerigion 2010, ledled y dalaith.

Er nad yw'r polisi'n uniongyrchol berthnasol i glerigion digyflog (na allant hawlio tâl tadolaeth statudol mewn perthynas â'u gweinidogaeth), dylai clerigion digyflog gael o leiaf gyfnod cyfatebol o amser i ffwrdd o’u dyletswyddau ag y mae gan glerigion cyflogedig yr hawl iddo o dan y polisi hwn.

Mae polisi ar wahân yn y Llawlyfr Clerigion mewn perthynas ag Absenoldeb Rhiant a Rennir.

Diffiniadau

  • Absenoldeb Tadolaeth - Cyfnod o absenoldeb o'r gwaith a roddir i dad neu bartner mam, rhiant sy'n rhoi genedigaeth neu riant sy'n mabwysiadu, ar ôl genedigaeth neu fabwysiadu plentyn neu blant.
  • Plentyn Cymwys - Plentyn sy'n cael ei eni i ddeiliad y swydd neu briod/bartner deiliad y swydd, neu sy'n cael ei fabwysiadu ganddynt.

Hawl

O 7 Ebrill 2024, mae gan glerigion cymwys yr hawl i'r canlynol:

Hyd Absenoldeb

Hyd at 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth y gellir ei gymryd fel un cyfnod, sy'n golygu'r pythefnos llawn mewn un bloc. Neu fel dau gyfnod absenoldeb, y ddau yn para wythnos ar y tro. Rhaid cymryd Absenoldeb Tadolaeth o fewn 52 wythnos i ddyddiad geni'r plentyn cymwys (neu'r dyddiad y cafodd ei leoli i'w fabwysiadu).

Tâl

Bydd clerigion cyflogedig yn cael eu cyflog arferol yn ystod absenoldeb tadolaeth.

Dychwelyd i'r Gwaith

Wrth ailddechrau gweithio ar ôl absenoldeb tadolaeth, mae gan y clerig yr hawl i ddychwelyd i'r un swydd ag yr oedd ganddo cyn dechrau ar ei absenoldeb tadolaeth ac ar yr un telerau ac amodau â phe na bai wedi bod yn absennol.

Marw-enedigaeth

Os yw plentyn yn farwanedig ar ôl 24 wythnos neu fwy o feichiogrwydd, gellir cymryd yr hawl lawn o hyd at 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth ar unrhyw adeg o fewn 52 wythnos i'r farw-enedigaeth.

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb a thâl tadolaeth, rhaid i glerigion:

  • Naill ai:
    • Fod wedi bod mewn swydd gyflogedig yn yr Eglwys yng Nghymru am o leiaf 26 wythnos yn barhaus, cyn y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (EWC); neu
    • Fod wedi bod mewn swydd gyflogedig yn yr Eglwys yng Nghymru am o leiaf 26 wythnos yn barhaus, cyn yr wythnos y cafodd ei baru â phlentyn i'w fabwysiadu.
  • Cael ei adnabod fel tad y plentyn, neu briod/partner y fam, y rhiant sy'n rhoi genedigaeth neu'r rhiant sy'n mabwysiadu.
  • Bwriadu cymryd yr absenoldeb i gefnogi ei briod/bartner neu i ofalu am y plentyn.

Bydd yn ofynnol i Glerig sy'n gwneud cais am absenoldeb tadolaeth gwblhau tystysgrif SC3 sy'n ardystio bod hawl i absenoldeb a thâl.

Gweithdrefn

Hysbysiad

Rhaid i glerigion roi gwybod i'w Harchddiacon am eu bwriad i gymryd absenoldeb tadolaeth erbyn y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth neu o fewn 7 diwrnod i gael eu paru â phlentyn i'w fabwysiadu.

Rhaid trafod a ffurfioli'r cais drwy e-bost. Bydd yr Archddiacon yn anfon gwybodaeth ymlaen i adran AD Corff y Cynrychiolwyr, a fydd yn cysylltu â'r tîm Cyflogau.

Dylai'r Clerig ddarparu dyddiad disgwyliedig ar gyfer dechrau absenoldeb tadolaeth, o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw, gan roi gwybod i'w Archddiacon am unrhyw newidiadau i'r dyddiad wrth iddynt godi.

Mae'n ofynnol i glerigion wneud trefniadau ar gyfer staff cyflenwi neu newidiadau priodol i batrymau gwasanaeth ar gyfer cyfnod disgwyliedig eu habsenoldeb tadolaeth. Os na fydd y clerig yn gallu trefnu staff cyflenwi neu os bydd yn cael trafferth gwneud hynny, gall ofyn i'r Archddiacon am gymorth. Pan fo cyfnod o absenoldeb tadolaeth yn dechrau'n annisgwyl ac na fu modd i'r Clerig wneud trefniadau ymlaen llaw, bydd yr Archddiacon yn gwneud trefniadau ar gyfer staff cyflenwi neu'n cysylltu ag Arweinydd Ardal y Genhadaeth/Weinidogaeth i wneud newidiadau priodol i batrymau gwasanaeth.

Ardal y Genhadaeth/Weinidogaeth fydd yn gyfrifol am dalu am wasanaethau a gofal bugeiliol yn ystod cyfnodau o absenoldeb tadolaeth.

Dogfennau

Efallai y bydd yn ofynnol i glerigion ddarparu dogfennau, megis ffurflen MATB1 neu dystysgrif paru, i gefnogi eu cais am absenoldeb tadolaeth.

Cyfrifoldeb y Clerig yw gofyn am ffurflen SC3 a'i chwblhau.

Cyfrifoldeb yr Archddiacon yw rhannu'r ffurflen SC3 wedi'i chwblhau gyda thîm AD Corff y Cynrychiolwyr.

Cyfrifoldeb tîm AD Corff y Cynrychiolwyr yw rhannu'r ffurflen SC3 gyda'r tîm Cyflogau.