English

I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiad swydd cyffredinol ar gyfer Archddiacon, Deon Bro a Pheriglor.

Swydd: Esgob Esgobaethol

Diben: Bod yn Ben Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.

Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol ar y cyd ag eraill am;

  • Bobl
  • Cenhadaeth
  • Dysgeidiaeth
  • Pregethu
  • Cyllid
  • Adeiladau

Swyddogaethau cyffredinol

  1. Arwain Clerigion a Lleygion yr Esgobaeth i wneud gwaith cenhadu a gweinidogaethu
  2. Cyhoeddi’r Efengyl
  3. Dysgu ac amddiffyn y Ffydd
  4. Gweinidogaethu’r Gair a’r Sacramentau
  5. Cadarnhau galwad gweinidogion newydd, eu hordeinio, eu hanfon allan a’u penodi
  6. Cynnal gwasanaethau conffyrmasiwn
  7. Arwain Clerigion a darparu adnoddau ar eu cyfer
  8. Disgyblu os oes angen
  9. Arwain pobl Dduw
  10. Gweithio er undod yr Eglwys

Swyddogaethau a Dyletswyddau Penodol

  1. Arwain a chydgysylltu staff yr Esgob i wneud gwaith gweinyddol Esgobol yr Esgobaeth.
  2. Gwneud cynlluniau ar gyfer yr Esgobaeth a’u hadolygu er mwyn sicrhau bod:
    1. Clerigion a Lleygion yn cael eu cynorthwyo a’u hannog i ddatblygu cenhadaeth a gweinidogaeth yr Esgobaeth
    2. Clerigion yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
  3. Gweithredu polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer clerigion gan gynnwys: –
    1. Penodiadau
    2. Gweithdrefnau dethol
    3. Hyfforddiant a datblygiad
    4. Rheoli analluogrwydd clerigion
    5. Cyfnodau Sabothol
    6. Cwyno
    7. Disgyblaeth
    8. Ymddeoliad
  4. Creu diwylliant sy’n galluogi clerigion i weithio hyd eithaf eu gallu fel unigolion ac aelodau tîm.
  5. Gwasanaethu fel Llywydd Cynhadledd yr Esgobaeth a Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth.
  6. Bod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
  7. Bod yn aelod o Fainc yr Esgobion a chynorthwyo i ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r dalaith ar gyfer amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar yr Eglwys yng Nghymru, a’r Cymundeb Anglicanaidd.
  8. Bod yn aelod o’r Coleg Etholiadaol.
  9. Bod yn aelod o Lys Arbennig y Dalaith.
  10. Ymgynghori â chyrff yr Eglwys ar faterion yn ymwneud â:
    1. Phersondai, gan gynnwys dileu swyddi, gwerthu a chaffael
    2. Creu Bywoliaethau Rheithorol
    3. Gwahardd periglorion
    4. Ad-drefnu bugeiliol
  11. Cyflwyno trwyddedau, goddefebau a chaniatâd (fel y’u pennwyd).
  12. Sicrhau bod ymweliadau’n cael eu cynnal mewn plwyfi.
  13. Datrys anghydfodau litwrgïaidd ac achosion o unigolion yn cael eu gwahardd rhag derbyn y Cymun Bendigaid.
  14. Gweithio gyda Mainc yr Esgobion i reoli cyfeiriad cyffredinol Cynghorwyr yr Esgobion, gan dderbyn cyfrifoldeb uniongyrchol (fel y cytunwyd) am reoli maes/meysydd penodol o waith y Cynghorydd.
  15. Ysbrydoli pobl Dduw yn eu haddoliad, eu tystiolaeth a’u gwasanaeth yn ei Enw ef.
  16. Hyrwyddo cysylltiadau da a chwrtais ag arweinwyr Eglwysi a Chymunedau Ffydd eraill.