English

I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiadau swydd cyffredinol ar gyfer yr Archddiacon a’r Periglor.

Swydd: Deon Bro

Diben: Cefnogi’r Esgob a’r Archddiacon fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.

Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am arwain, cydgysylltu a gweinyddu’r Ddeoniaeth ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr Esgob, yr Archddiacon, y Clerigion a’r Lleygion.

Prif Dasgau a Dyletswyddau

Deoniaeth
  1. Cydgysylltu â’r Esgobaeth ynglŷn â materion polisi a strategaeth cenhadaeth yr Esgobaeth.
  2. Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng y Ddeoniaeth a’r Esgobaeth.
  3. Galw a llywyddu cyfarfodydd Cynhadledd y Ddeoniaeth.
  4. Trefnu a chadeirio cyfarfodydd Cabidwl y Ddeoniaeth.
  5. Trefnu a/neu wneud cyfraniad allweddol at ddigwyddiadau’r Ddeoniaeth.
  6. Hyrwyddo mentrau fel rhan o’r diwylliant mentro mewn cenhadaeth.
  7. Gweithio gyda’r Esgob a’r Archddiacon i hyrwyddo cenhadaeth y Ddeoniaeth.
Plwyfi
  1. Rheoli materion plwyfi â swyddi gwag gan gynnwys:
    1. Cadeirio cyfarfodydd festri plwyf mewn plwyf gwag, yn ôl yr angen
    2. Gweithredu fel ceidwad y persondy gyda Wardeniaid yr Eglwys pan fydd swydd yn wag
    3. Gwrando ar achosion apêl yn ymwneud â’r hawl i fynychu cyfarfod festri a’r hawl i siarad a phleidleisio mewn cyfarfod festri
    4. Galluogi Wardeniaid Eglwys i gyflawni eu swyddogaethau pan fydd swyddi heb eu llenwi gan gynnwys ymgynghori ar drefniadau ar gyfer gwasanaethau
    5. Penodi Warden Eglwys pan fydd swydd heb ei llenwi os oes angen.
  2. Cyfrannu at y broses o ddewis staff newydd a threfnu gwasanaethau croeso a sefydlu ar ôl ymgynghori â’r Archddiacon.
  3. Cynorthwyo’r Esgob neu’r Archddiacon gydag ymweliadau, yn ôl yr angen.
  4. Cynorthwyo’r Archddiacon yn ôl yr angen i hwyluso a monitro’r gwaith o ad-drefnu plwyf.
Clerigion
  1. Cynorthwyo Clerigion y Ddeoniaeth yn eu gweinidogaeth trwy ddiwylliant o ddysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol.
  2. Darparu cymorth bugeiliol i Glerigion a sicrhau bod unrhyw broblemau sy’n codi yn cael eu rheoli’n effeithiol mewn ymgynghoriad â’r Archddiacon.
  3. Sicrhau bod Clerigion y Ddeoniaeth yn ymwybodol o’r rheolau a’r safonau disgwyliedig ac yn cydymffurfio â nhw, yn enwedig mewn perthynas ag analluogrwydd clerigion.