English

I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiadau swydd cyffredinol ar gyfer yr Esgob, y Deon Bro a’r Periglor.

Swydd: Archddiacon

Diben: Cefnogi’r Esgob fel y Pen Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.

Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am arwain, cydgysylltu a gweinyddu’r Archddiaconiaeth ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr Esgob, y Deoniaid Bro, y Clerigion a’r Lleygion.

Prif Dasgau a Dyletswyddau

Talaith
  1. Cyfrannu at faterion y Dalaith yn ôl y gofyn.
  2. Mynychu cyfarfodydd Archddiaconiaid.
Esgobaeth
  1. Gweithio’n agos gyda’r Esgob fel ‘cyfaill beirniadol’ gan rannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer yr Esgobaeth ac ategu doniau’r esgobion ym meysydd:
  2. Gofal bugeiliol a chefnogi clerigion a’u teuluoedd
  3. Darparu hyfforddiant ac adnoddau i’r Eglwys mewn perthynas â thelerau gwasanaeth Clerigion yn y dyfodol
  4. Adolygiad yr Esgob
  5. Proffilio plwyfi
  6. Datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth yn yr Esgobaeth.
  7. Bod yn aelod o Staff yr Esgob yn yr Esgobaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso polisïau a gweithdrefnau’r Esgobaeth
  8. Cynrychioli’r Esgob a’r Esgobaeth mewn cyfarfodydd a digwyddiadau taleithiol yn ôl y gofyn
  9. Cymryd rhan yng ngweithdrefnau penodi’r Esgobaeth ar gyfer swyddi gwag
  10. Cyfrannu at reolaeth ariannol a threfniadaeth yr Esgobaeth trwy gymryd rhan mewn pwyllgorau priodol, helpu i bennu blaenoriaethau, cynorthwyo’r broses ysbrydoli a rhannu gweledigaeth.
Archddiaconiaeth
  1. Trefnu cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer Deoniaid Bro
  2. Cefnogi a hyrwyddo gwaith y Deoniaid Bro
  3. Sicrhau bod Deoniaid Bro yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd neu newidiol yn yr Esgobaeth a’r Archddiaconiaeth a chefnogi’r Deon Bro i’w gweithredu
  4. Gweithio’n agos gyda Deoniaid Bro er mwyn hyfforddi, cefnogi a chynnal gofal bugeiliol Cynorthwyo’r Esgob i benodi Deoniaid Bro.
Plwyfi
  1. Sicrhau bod plwyfi’n cydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â gweinyddu’r Gofrestr Etholwyr
  2. Gweithredu fel Llywydd Llys yr Archddiacon wrth ddatrys anghydfodau’n ymwneud â’r Gofrestr Etholwyr
  3. Ymgymryd â’r swyddogaethau a’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymweliadau
  4. Derbyn Wardeniaid Eglwys
  5. Sicrhau bod y stocrestr a’r persondy yn cael eu cynnal a’u cadw
  6. Cadeirio cyfarfodydd festri plwyf pan fydd y swydd Deon Bro yn wag yn ôl y gofyn
  7. Cynghori Clerigion, Cynghorau Plwyf Eglwysig a Lleygion ar faterion yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw ar yr eglwys, mynwent yr eglwys a neuadd yr eglwys
  8. Hwyluso adrefnu bugeiliol
  9. Cefnogi ac arwain plwyfi pan fydd swydd wag yn y plwyf a phan na fydd clerigion yn gallu gweithio
  10. Sicrhau bod clerigion yn ymwybodol o’u telerau swydd a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau penodedig, gan gynnwys disgyblu clerigion
  11. Hybu a chefnogi datblygiad gweinidogaethol parhaus ar gyfer clerigion drwy hyfforddiant a mentora.
Gweinidogaeth
  1. Cyfrannu at weinidogaeth plwyf
  2. Bod yn aelod o Gabidwl y Gadeirlan