English

Polisi’r Eglwys yng Nghymru yw hyrwyddo diwylliant a fydd yn rhoi urddas, parch a thegwch i’w holl aelodau. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod doniau, talentau a galwedigaethau ei haelodau lleyg a chlerigol.

Ymrwymodd yr Eglwys yng Nghymru i sicrhau:

  • Bod gan bawb hawl gydradd i gyfranogi’n llawn ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb yn yr Eglwys yng Nghymru a’r gymuned ehangach.
  • Bod gan bawb hawl gydradd i gael eu cyflogi gan Gorff y Cynrychiolwyr a chyflogwyr neu asiantaethau eraill oddi mewn i’r Eglwys yng Nghymru.
  • Bod gan bawb hawl gydradd i gael eu dethol a’u hyfforddi at ordeinio neu at y weinidogaeth leyg.
  • Bod gan bawb gyfle cydradd i fod yn gynrychiolydd ar y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr a phwyllgorau a byrddau eraill oddi mewn i’r Eglwys yng Nghymru.
  • Bod hawl gydradd i dderbyn hyfforddiant ac addysg weinidogaethol barhaus i glerigion a lleygion hyfforddedig.

Rhydd y gyfraith hawl i’r Eglwys yng Nghymru (a chymunedau crefyddol eraill) i anffafrio mewn rhai amgylchiadau lle y byddai peidio â gwneud hynny yn peri tramgwydd i leiafrif sylweddol o’i haelodau. Yn y cyd-destun hwn bydd yr Eglwys yng Nghymru, cyn belled ag y mae’n rhesymol gwneud hynny a lle y bo’r gyfraith yn caniatáu, yn:

  • Gweithredu’n gadarnhaol i unioni’r anghydraddoldeb y mae grwpiau lleiafrifol oddi mewn i’r Eglwys yng Nghymru yn ei wynebu.
  • Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ym mhob ystyriaeth berthnasol o bolisi, gan gynnwys dyrannu adnoddau.
  • Ceisio gwrthweithio effeithiau anffafrio trwy’r iaith a’r delweddau y mae’n eu defnyddio.
  • Parhau i adolygu arferion, polisïau a gweithdrefnau i sicrhau na chaiff grwpiau lleiafrifol eu trin yn llai ffafriol.
  • Annog ei haelodau, ei gweithwyr cyflog ac eraill sy’n gweithredu ar ei rhan i weithio tuag at ddileu arferion ac agweddau y gellid ystyried eu bod yn anffafriol i eraill.

Bydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn monitro’r modd y gweithredir y polisi hwn ac yn annog cyflwyno gweithredu cadarnhaol os ymddengys nad yw’r polisi’n gwbl effeithiol.