English

Canllawiau ar gyfer gweinyddu Cynllun gan Esgobion Esgobaethol

Diffiniad
  • Diffinnir Absenoldeb Sabothol fel absenoldeb â thâl gyda’r clerig yn cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau gweinidogol er mwyn bwrw iddi i astudio, encilio a chyflawni datblygiad personol. Rhaid i Esgob yr Esgobaeth gyd-weld y bydd yr absenoldeb o fudd i'r clerig ac i’w weinidogaeth ac felly i'r Eglwys yn ehangach.
  • Ni fydd cyfnod Absenoldeb Sabothol fel arfer yn llai na chwe wythnos neu’n fwy na thri mis.
  • Lle bo modd, dylai’r absenoldeb fod yn ddi-dor ac ni ddylai clerigion plwyfi fel arfer fod yn eu plwyfi trwy gydol neu am y rhan fwyaf o'r amser.
  • Rhoddir Absenoldeb Sabothol yn ôl disgresiwn yr Esgob ac ni ddylid ei ystyried yn hawl
Cymhwysedd
  • Bydd Absenoldeb Sabothol ar gael i glerigion sydd wedi cwblhau o leiaf ddeng mlynedd yng ngweinidogaeth gyflogedig yr Eglwys yng Nghymru, neu sydd wedi cwblhau o leiaf bymtheng mlynedd mewn gweinidogaeth gyflogedig gydag o leiaf bum mlynedd ohonynt yn yr Eglwys yng Nghymru.
  • Gall yr awydd i wneud cais am Absenoldeb Sabothol godi yn sgil y broses MDR (Adolygiad Datblygu Gweinidogol) neu o ddyhead y clerig ei hun.
  • Ni roddir Absenoldeb Sabothol fel arfer os yw clerig wedi ymgymryd â'r cyfryw Absenoldeb o fewn y deng mlynedd blaenorol.
  • Yn gyntaf, mae'n ofynnol i glerig ymgynghori â'r Swyddog Datblygiad Gweinidogol Parhaus (DGP) gan amlinellu sut y mae am ddefnyddio’r cyfnod Sabothol. Dylai gynnwys tair prif elfen (a) cyfnod o adnewyddiad corfforol, (b) cyfnod o astudio (a all fod yn academaidd neu'n anacademaidd) ac (c) cyfnod o fyfyrio ysbrydol megis ar encil. Yna, bydd y Swyddog DGP yn cyflwyno'r cynnig a'i argymhelliad i'r Esgob i'w gymeradwyo.
  • Dylai ymgeiswyr roi (a) amlinelliad i'r Swyddog DGP o'u defnydd arfaethedig o'r Absenoldeb, (b) nodau ac amcanion yr astudiaeth, ac (c) nodi'r canlyniadau y maent yn gobeithio amdanynt.
  • Gall y Swyddog DGP gynghori rhai clerigion i gael ymgynghorydd i'w cynorthwyo i drefnu rhaglen ac awgrymu gwaith darllen a pharatoi priodol.
  • Dylai clerigion gyfarfod â'r Swyddog DGP cyn dychwelyd at ddyletswyddau’r plwyf (neu'n fuan ar ôl hynny) i drafod buddioldeb a’r hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod yr Absenoldeb Sabothol ac i fesur y canlyniadau yn erbyn eu cynnig gwreiddiol. Gall y myfyrdod fod ar ffurf papur ysgrifenedig neu sgwrs lafar.
  • Ni ddylid defnyddio Absenoldeb Sabothol fel cyfle i ennill arian
Gweinyddiaeth
  • Dylai clerigion plwyf wneud trefniadau addas ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau bugeiliol yn ystod eu habsenoldeb. Dylid rhoi manylion y cyfryw ddarpariaeth i'r eglwys, deon yr ardal a'r archddiacon.
  • Gall clerigion fod yn gymwys i gael grant ychwanegol i gynorthwyo gyda'u treuliau Absenoldeb Sabothol, a dylid gwahodd eu CPE i wneud cyfraniad ariannol. Ni fydd clerigion yn cael treuliau plwyfol yn ystod eu Habsenoldeb Sabothol er y disgwylir i blwyfi barhau i dalu eu cyfraniad arferol tuag at drethi dŵr, rhent y ffôn, a chyfraniadau tuag at wresogi a goleuo.
  • Dylai Swyddogion DGP annog clerigion addas i gymryd Absenoldeb Sabothol. Dylent hefyd fonitro canlyniadau'r rhai sydd wedi cwblhau eu Habsenoldeb Sabothol a sicrhau bod cofnod addas o'r Absenoldeb Sabothol yn cael ei roi yn eu ffeiliau personol.
  • Dylid gwneud ceisiadau erbyn diwedd y flwyddyn am Absenoldeb Sabothol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf e.e. erbyn diwedd 2011 ar gyfer Absenoldeb Sabothol yn 2013.