English

Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Chynhadledd y Ddeoniaeth”, a draethir fel a ganlyn:

  • Rhan I: Aelodaeth
  • Rhan II: Hyd Aelodaeth
  • Rhan III: Busnes a Thrafodion

Rhan I: Aelodaet

1.

Yr aelodau yn rhinwedd swydd fydd pob Clerig ac eithrio Clerigion wedi ymddeol, sy’n gweinyddu gyda chaniatâd yr Esgob o fewn y Ddeoniaeth neu’n gweinyddu felly yn rhywle arall yn yr esgobaeth ond yn preswylio o fewn y Ddeoniaeth;

2.

2.1 Yr aelodau etholedig fydd y cyfryw nifer o etholwyr lleyg cymwys o bob Plwyf o fewn y Ddeoniaeth ag a bennodd Cynhadledd yr Esgobaeth ac wedi eu hethol gan y Cyrddau Festri Blynyddol.

2.2 Gwneir rhestr atodol gan bob Cwrdd Festri ar yr un amser ac yn yr un modd.

2.3 Os digwydd i unrhyw aelod etholedig fod yn analluog neu’n anfodlon i fynd i unrhyw un o gyfarfodydd y Gynhadledd, cymerir lle’r aelod hwnnw gan y cynrychiolydd lleyg cyntaf o’r Plwyf neu’r nesaf sydd ar gael yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr atodol.

2.4 Bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn llenwi o’r rhestr atodol unrhyw le gwag achlysurol ymhlith y rhai a etholwyd o dan Reoliad 2.1.

3.

3.1 Yr aelodau cyfetholedig fydd:

3.1.1 y cyfryw nifer (os oes rhai) o ddarllenwyr lleyg trwyddedig ag y pennodd Cynhadledd yr Esgobaeth ei gyfethol i’r Ddeoniaeth honno;

3.1.2 y cyfryw nifer (os oes rhai) ag y penderfynodd Cynhadledd y Ddeoniaeth ei gyfethol o Glerigion wedi ymddeol ac sy’n gweinyddu gyda chaniatâd yr Esgob o fewn y Ddeoniaeth neu’n gweinyddu yn rhywle arall yn yr esgobaeth ond yn preswylio o fewn y Ddeoniaeth.

4.

Ni bydd nifer yr aelodau clerigol yn fwy na nifer yr aelodau lleyg, na nifer yr aelodau cyfetholedig yn fwy na nifer yr aelodau etholedig.

Rhan II: Hyd Aelodaeth

5.

5.1 Bydd yr aelodau etholedig a’r cynrychiolwyr lleyg atodol o’r Plwyf yn dal eu swydd am gyfnod o dair blynedd a byddant ar dir i gael eu hail-ethol.

5.2 Bydd yr aelodau cyfetholedig yn dal eu swydd am gyfnod o dair blynedd.

Rhan III: Busnes a Thrafodion

6.

Y Deon Bro, neu os bydd ef neu hi’n methu, yr Is-Gadeirydd a benodwyd dan Bennod IV adran 10 (g) fydd yn llywyddu holl gyfarfodydd y Gynhadledd, a bydd ganddo/i bleidlais fwrw.

7.

Os digwydd i’r Deon Bro a’r Is-Gadeirydd fod yn absennol, bydd y Gynhadledd yn penodi aelod arall i lywyddu’r cyfarfod, a bydd gan yr aelod hwnnw, tra bo’n llywyddu, bleidlais fwrw.

8.

Ni bydd methiant Plwyf i ethol neu ddychwelyd aelodau nac i ddewis rhestr atodol o gynrychiolwyr lleyg yn rhwystro’r Gynhadledd rhag mynd ymlaen â’i gwaith.

9.

Ar gychwyn pob cyfnod o dair blynedd a grybwyllir yn Rheoliad 5.1, bydd yr Ysgrifennydd yn paratoi rhestr o aelodau’r Gynhadledd a bydd yn diweddaru’r rhestr pan lenwir unrhyw le gwag achlysurol.

10.

Bydd y Gynhadledd yn cyfarfod bob blwyddyn heb fod yn ddiweddarach na 31 Gorffennaf, a bydd tri chyfarfod chwarterol arall oni phenderfyna’r Gynhadledd o bryd i’w gilydd hepgor unrhyw un o’r cyfarfodydd chwarterol hynny.

11.

Er gwaethaf darpariaethau Rheoliad 10, gall y Deon Bro yn ôl ei ddoethineb alw cyfarfodydd ychwanegol o’r Gynhadledd, a bydd yn rhaid iddo wneud hynny os caiff gais gan yr esgob neu gais ysgrifenedig wedi’i arwyddo gan o leiaf chwarter aelodau’r Gynhadledd.

12.

12.1 Os bydd Cynhadledd yr Esgobaeth yn penderfynu dan Bennod IV adran 9 bod ei haelodau lleyg i’w hethol gan Gynhadledd y Ddeoniaeth, bydd aelodau lleyg Cynhadledd y Ddeoniaeth yn ethol i Gynhadledd yr Esgobaeth, yn y modd a benodir gan Gynhadledd yr Esgobaeth, y nifer o gynrychiolwyr lleyg a bennodd Cynhadledd yr Esgobaeth i’r Ddeoniaeth.

12.2 Bydd Ysgrifennydd y Gynhadledd yn anfon i Ysgrifennydd Cynhadledd yr Esgobaeth, o fewn saith diwrnod i gynnal yr etholiad, enwau’r rhai a etholwyd.

13.

Gall Cynadleddau Deoniaethol yn yr un esgobaeth gyfarfod ar y cyd, (ac os digwydd hynny y Deon Bro hynaf fydd fel rheol yn llywyddu ar y cyd-gyfarfod a chymhwysir Rheoliad 6), ar yr amod na cheir ethol cynrychiolwyr i Gynhadledd yr Esgobaeth mewn unrhyw gyd-gyfarfod o’r fath.