English

Rhan I: Cyffredinol

1.

Ym mhob Deoniaeth bydd Cynhadledd Ddeoniaethol (“y Gynhadledd”).

2.

Bydd y Gynhadledd yn cydymffurfio ag unrhyw orchymyn neu gyfarwyddyd oddi wrth Gynhadledd yr Esgobaeth ac yn ei gyflawni.

3.

Bydd y Gynhadledd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau a wnaed gan y Corff Llywodraethol.

Rhan II: Aelodaeth

4.
  1. Bydd y Gynhadledd yn cynnwys:
    (a) aelodau yn rhinwedd swydd, y traethir eu swyddi yn Rhan I Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Chynhadledd y Ddeoniaeth;
    (b) aelodau etholedig, wedi eu hethol yn unol â darpariaethau Rhan I y Rheoliadau; ac
    (c) aelodau cyfetholedig, wedi eu cyfethol yn unol â darpariaethau Rhan I y Rheoliadau.
  2. Os nad ydynt eisoes yn aelodau o’r Gynhadledd caiff cynrychiolwyr y ddeoniaeth ar fyrddau esgobaethol, aelodau o’r Corff Llywodraethol sy’n preswylio o fewn y Ddeoniaeth ac aelodau o Gorff y Cynrychiolwyr sy’n preswylio o fewn y Ddeoniaeth, ar wahoddiad y Gynhadledd, fod yn bresennol yn unrhyw gyfarfod ohoni a siarad ond ni chânt bleidleisio.

Rhan III: Cymwysterau Aelodaeth

5.

Bydd holl aelodau’r Gynhadledd yn Gymunwyr a thros ddeunaw mlwydd oed.

6.

Bydd pob aelod lleyg o’r Gynhadledd, cyn gweithredu fel y cyfryw, yn arwyddo datganiad mewn cofrestr a gedwir at hynny gan Ysgrifennydd y Gynhadledd, yn y ffurf hon:

Yr wyf fi, J … S … o … trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn Gymunwr dros ddeunaw mlwydd oed, ac yn gymwys i fod yn aelod o Gynhadledd Deoniaeth yn unol â Phennod IV Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.

Rhan IV: Galluoedd

7.

Yn ddarostyngedig i reolaeth y Corff Llywodraethol a Chynhadledd yr Esgobaeth, bydd y Gynhadledd yn rheoli ei materion ei hun.

8.

Gall y Gynhadledd benodi pwyllgor gwaith.

9.

Bydd y Gynhadledd yn penodi Ysgrifennydd.

10.

Bydd swyddogaethau’r Gynhadledd yn cynnwys:

(a) hyrwyddo holl genhadaeth yr Eglwys: yn fugeiliol, efengylaidd, cymdeithasol, ac eciwmenaidd;

(b) asesu anghenion y Ddeoniaeth ynglŷn â chyllid, personél ac adeiladau;

(c) cynllunio strategol at addoli a gofal bugeiliol ledled y Ddeoniaeth;

(d) cynghori ar unrhyw fater a gyfeiriwyd yn briodol i’r Gynhadledd;

(e) gweithredu ar unrhyw ohebiaeth oddi wrth Gynhadledd yr Esgobaeth neu unrhyw Gyngor Plwyf Eglwysig o fewn y Ddeoniaeth ar y cyfryw faterion ag a ystyria’r Gynhadledd yn gymwys;

(f) rheoli a chodi cyllid i’r Ddeoniaeth;

(g) ethol Is-Gaderiydd lleyg o blith aelodau’r Gynhadledd ac, fel y bo angen, pan fydd y swydd honno’n wag; ac

(h) trafod materion yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru, neu sydd o ddiddordeb crefyddol neu gyhoeddus arall, ac eithrio na chaiff trafod unrhyw faterion athrawiaethol gan y Gynhadledd fynd mor bell â llunio neu ddatgan athrawiaeth.