English

Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Chynhadledd yr Esgobaeth”, a draethir fel a ganlyn:

  • Rhan I: Cynnull Cyfarfod Arbennig
  • Rhan II: Busnes a Thrafodion

Rhan I: Cynnull Cyfarfod Arbennig

1.

1.1 Gall yr Esgob yn ôl ei ddoethineb orchymyn i’r Ysgrifennydd alw cyfarfod arbennig o’r Gynhadledd, a bydd yn rhaid iddo wneud hynny os caiff gais ysgrifenedig wedi’i arwyddo gan o leiaf chwarter aelodau’r Gynhadledd.

1.2 Bydd yr Ysgrifennydd ar hynny yn cynnull y cyfarfod arbennig hwnnw trwy rybudd ysgrifenedig a fydd yn enwi’r materion a drafodir ynddo.

1.3 Anfonir y rhybudd am gyfarfod arbennig o’r fath at bob aelod o leiaf saith niwrnod cyn y diwrnod a bennwyd ar gyfer cynnal y cyfarfod.

1.4 Ni thrafodir mewn unrhyw gyfarfod arbennig unrhyw fater ac eithrio’r hyn a enwyd yn y rhybudd a’i cynullodd.

Rhan II: Busnes a Thrafodion

2.

Bydd gan y Llywydd bleidlais fwrw.

3.

Etholir y Gynhadledd bob tair blynedd a bydd yn cyfarfod o leiaf unwaith bob blwyddyn.

4.

4.1 O leiaf saith niwrnod cyn cyfarfod cyntaf pob eisteddiad o’r Gynhadledd, bydd Ysgrifennydd y Gynhadledd yn paratoi ac yn cyhoeddi rhestr o’i haelodau, a bydd y rhestr honno, wedi i’r Esgob ei harwyddo, yn dystiolaeth derfynol mai’r rhai a enwir ynddi, a hwy’n unig, yw aelodau’r Gynhadledd.

4.2 Bydd cywirdeb y rhestr honno yn agored i apêl at y Canghellor.

5.

Bydd yn rhaid wrth bresenoldeb yr Esgob neu ei Gomisari, neu Lywydd y Corff Llywodraethol, neu’r Esgob Cadeiriol nesaf mewn blaenoriaeth neu ei Gomisari, ynghyd â chwarter yr aelodau clerigol a phumed rhan yr aelodau lleyg cyn y gellir ffurfio cyfarfod o’r Gynhadledd.

6.

Ni fydd methiant ar ran unrhyw fro neu ardal i ddychwelyd aelodau yn rhwystro’r Gynhadledd rhag mynd ymlaen â’i gwaith.