English

Mae'r trefniadau ar gyfer cyfethol i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi newid a gwahoddir ymatebion i'w hystyried ar gyfer cyfethol.

Mae gwybodaeth gefndir ar gael am y newidiadau hyn, gan gynnwys categorïau cyfethol a threfniadau ar gyfer etholiadau, yn y ffurflen gyfethol (gweler isod).

Mae rhai y cyfetholedigion i gael eu hethol gan y Corff Llywodraethol ei hun.

Os ydych yn barod i gael eich ystyried fel ymgeisydd ar gyfer eich ethol yn aelod cyfetholedig o'r Corff Llywodraethol, cwblhewch y ffurflen hon. Mae'r ffurflen yn cynnwys lle i ddarpar gyfetholedigion roi gwybodaeth a manylion bywgraffyddol amdanynt eu hunain. Mae cyfarwyddyd ar lenwi'r ffurflen hon, ynghyd â gwybodaeth am y Corff Llywodraethol a'r ymrwymiad sydd ei angen fel aelod, ar gael hefyd yma.

Gofynion Cyfethol ar gyfer 2026

Bydd y canlynol o swydd wag cyfethol yn cael eu hethol gan y Corff Llywodraethol ar gyfer dechrau’r trieniwm 2026-2028:

  • Un leygwr o dan 30 oed; (gwag).

Sut i gyflwyno'r ffurflen

Anfonwch ffurflenni wedi'u llenwi at John Richfield, johnrichfield@churchinwales.org.uk heb fod yn hwyrach na hanner dydd, dydd Gwener 13 Chwefror 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â John Richfield, gweler uchod.

Proses ac amserlen ar gyfer rheoli cyfethol aelodau

Dyma'r amserlen sy'n nodi'r broses ar gyfer rheoli'r trefniadau cyfethol newydd.

  • 13 Chwefror - Canol dydd – Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymgeiswyr cymwys ar gyfer etholiad (trwy enwebiad neu hunan-enwebiad) i'r categorïau perthnasol.
  • 16-24 Chwefror – etholiadau i’w cynnal trwy e-bost.