English

Simon Lloyd - Prif Weithredwr

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Darparu arweinyddiaeth strategol i dîm staff Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.
  • Cefnogi'r Archesgob a Mainc yr Esgobion i gyflawni cenhadaeth a gweledigaeth yr Eglwys.
  • Goruchwylio gwaith y pedwar aelod o'r Tîm Arwain Gweithredol; Prif Swyddog Gweithredu, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth a Phennaeth Athrofa Padarn Sant.
  • Cefnogi gwaith Cronfa Twf yr Eglwys.

E-bost: chiefexecoffice@cinw.org.uk

Leon Hughes - Prif Swyddog Gweithredu

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Goruchwylio swyddogaethau gweithredol Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.
  • Rheoli adnoddau ariannol, eiddo a dynol i gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys.
  • Arwain cynllunio strategol a sicrhau gweithredu nodau sefydliadol yn effeithiol.
  • Cefnogi'r Archesgob ac uwch arweinyddiaeth gydag arbenigedd gweithredol.

E-bost: coooffice@cinw.org.uk

Matthew Chinery - Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Darparu cyngor a chefnogaeth gyfreithiol i'r Eglwys yng Nghymru, ei hesgobaethau a'i chlerigwyr.
  • Rheoli materion cyfreithiol sy'n ymwneud ag eiddo, llywodraethu a chydymffurfiaeth elusennol.
  • Sicrhau bod yr Eglwys yn gweithredu o fewn fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol.
  • Cefnogi'r Archesgob ac uwch arweinyddiaeth gydag arbenigedd cyfreithiol wrth wneud penderfyniadau.

E-bost: legaloffice@cinw.org.uk

Grahame Davies - Cyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Gweithio'n agos gyda'r Archesgob, Mainc yr Esgobion, a'r Prif Weithredwr i ddatblygu, gweithredu a monitro strategaethau cenedlaethol clir.
  • Strategaeth Cyfathrebu Taleithiol.
  • Rheoli'r wefan a'r tîm Cyfathrebu.
  • Materion Cyhoeddus.
  • Strategaeth ar gyfer Addysg, Datblygu'r Weinidogaeth, a Threfn ac Undod Ffydd.
  • Prosiectau arbennig, datblygu polisi a gweithredu.

E-bost: grahamedavies@churchinwales.org.uk

Lisa Taylor - Cyfarwyddwr Addysg

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer addysg ar draws yr Eglwys yng Nghymru; hyrwyddo rhagoriaeth addysgol, nodweddion Cristnogol a ffyniant plant a phobl ifanc.
  • Arwain datblygiad polisi addysg cenedlaethol, gwella ysgolion a datblygu arweinyddiaeth.
  • Dylanwadu ar strategaeth a pholisi addysgol i gryfhau effaith ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ledled Cymru.

E-bost: lisactaylor@cinw.org.uk

Anthony Griffiths - Cyfarwyddwr Diogelu

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar draws y dalaith drwy fod yn llysgennad rhagoriaeth mewn Diogelu ar draws pob agwedd ar fywyd yr Eglwys yng Nghymru.
  • Cefnogi'r Archesgob, Mainc yr Esgobion ac uwch dimau gyda'u harweinyddiaeth a'u dylanwad ar ddiwylliant ac arfer Diogelu yn eu hesgobaethau.
  • Gweithio gyda'r Pwyllgor Diogelu a'r Panel Diogelu Taleithiol trwy arwain y Tîm Diogelu Taleithiol i sicrhau arfer gorau wrth ddatblygu polisi, gweithdrefnau a chanllawiau; ymgysylltu a gwrando ar oroeswyr camdriniaeth; yr ymateb gweithredol i waith achos; dylunio a darparu hyfforddiant; archwilio rheolaidd a chadarn gyda gweithredu argymhellion a gwersi a ddysgwyd.
  • Cynnal perthynas waith gref gydag uwch weithwyr proffesiynol Diogelu mewn eglwysi eraill a sefydliadau sy'n seiliedig ar ffydd, asiantaethau statudol a sefydliadau'r trydydd sector.

E-bost: anthonygriffiths@churchinwales.org.uk

Claire Thompson - Cyfarwyddwr Cyllid

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Arwain strategaeth ariannol yr elusen a chynllunio ariannol hirdymor.
  • Goruchwylio cyllidebu, rhagolygon, cyfrifyddu rheoli ac adrodd statudol.
  • Sicrhau llywodraethu ariannol cryf, cydymffurfiaeth a rheolaethau mewnol.
  • Rheoli buddsoddiadau, llif arian, trefniadau pensiwn ac ymddiriedolaethau elusennol.
  • Cefnogi ymddiriedolwyr, pwyllgorau ac uwch arweinyddiaeth gyda mewnwelediad ariannol a gwneud penderfyniadau.
  • Arwain a datblygu'r tîm cyllid i ddarparu gwasanaethau ariannol o ansawdd uchel ar draws y sefydliad.
  • Gweithio gydag archwilwyr, bancwyr, rheolwyr cronfeydd a chynghorwyr proffesiynol eraill i ddiogelu adnoddau'r elusen

E-bost: clairethompson@churchinwales.org.uk

Jordan Hillebert - Pennaeth Athrofa Padarn Sant

Mae fy nghyfrifoldebau'n cynnwys:

  • Arwain Padarn Sant yn y gwaith o hyfforddiant gweinidogaethol a ffurfiant ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru; gyfarparu dysgwyr i dyfu yn eu gwybodaeth a'u cariad at Dduw, eu tebygrwydd i Grist, a'u gwasanaeth i'r Eglwys a'r byd.
  • Arwain y Tîm Arweinyddol Uwch o fewn Padarn Sant a goruchwylio'r gwaith ffurfio ar gyfer gweinidogaeth, datblygu gweinidogaethol, astudiaethau diwinyddol, a gweithrediadau cyffredinol yn Padarn Sant.
  • Arwain ar berthynas Padarn Sant â'r Eglwys ehangach yng Nghymru, achredu prifysgolion, a chyrff rheoleiddio.
  • Addysgu ar draws rhaglenni Padarn Sant a chyfrannu at fywyd ehangach yr Eglwys drwy ymchwilio, ysgrifennu a siarad.

E-bost: jordan.hillebert@stpadarns.ac.uk

Kathryn Delderfield - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Athrofa Padarn Sant

Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Bod yn rhan o'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn Padarn Sant.
  • Rheoli ansawdd yr holl raglenni.
  • Sicrhau bod Padarn Sant yn bodloni ei ofynion rheoleiddiol a statudol.
  • Goruchwylio rhedeg Padarn Sant, gan gynnwys polisïau a phrosesau, cyllid, data, adroddiadau rhedeg y safle.

E-bost: kathryn.delderfield@stpadarns.ac.uk