English
Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti, neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth? Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
Job 12 7-10

Mae'r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o'r hyn sy'n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol' ac 'Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Gellir archwilio cysylltiadau gyda datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, ynghyd â Meysydd eraill, drwy'r is-lens hon hefyd.

Canllawiau ar yr Is-Lens

Gofal, Ystyriaeth a Pharch

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau dangos gofal a pharch tuag at y byd naturiol a'r pethau byw o'u cwmpas.
  • dechrau deall y cysylltiad rhwng y cread a gofalu am fyd Duw.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • adnabod sut a pham y byddan nhw ac eraill yn dangos gofal, ystyriaeth a pharch, yn ogystal ag ystyried safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
  • dechrau deall ymhellach y cysyniad o stiwardiaeth Gristnogol a sut mae'n cysylltu â dysgeidiaeth Iesu.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • godi cwestiynau moesegol mewn perthynas â gweithgarwch a natur ddynol a lle, a'u hystyried yn feirniadol, gan fynd i'r afael ag ymatebion crefyddol ac anghrefyddol yn ogystal â’u hymatebion nhw eu hunain.
  • dechrau ymgysylltu â damcaniaethau crefyddol.
Rhyfeddod

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau cael eu rhyfeddu gan fyd natur, a bydd hyn yn datblygu wrth iddyn nhw archwilio'r byd o'u cwmpas, gan arsylwi a gofyn cwestiynau.
  • dechrau datblygu sgiliau myfyrio trwy brofiadau awyr agored amrywiol.
  • dechrau adnabod yr hyn sy'n hardd iddyn nhw a pham.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • ddatblygu ymdeimlad o gymhlethdod bywyd a'i gydgysylltiad, yn ogystal ag ymdeimlad o gyfrifoldeb gweithredol.
  • dechrau cysylltu ysbrydolrwydd â harddwch a sut mae'n gwneud iddyn nhw deimlo.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • gael profiadau o ryfeddod sy'n fwy cynnil drwy ymgysylltu'n ddyfnach ac yn ehangach â lleoedd a phobl eraill, yn ogystal â'r byd naturiol a phethau byw.
  • esbonio pam mae rhywbeth yn hardd iddyn nhw, sut mae'n gwneud iddyn nhw deimlo a sut maen nhw'n cysylltu hynny â'u datblygiad ysbrydol personol.
Cyfrifoldeb a Gweithredu

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau dangos ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o bethau byw y tu hwnt iddyn nhw eu hunain, a'r ffaith y gall eu gweithredoedd effeithio arnyn nhw.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • ddod i wybod ‘straeon’ crefyddol ac anghrefyddol am leoedd lleol, y byd naturiol a phethau byw, a sut maen nhw’n gysylltiedig â nhw eu hunain ac eraill.
  • dysgu am athroniaethau gwahanol sy'n bwysig i'n dealltwriaeth o'r byd a lle bodau dynol ynddo, drwy gyfrwng straeon crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, am ddechreuad y byd).
  • dysgu am ddealltwriaeth Gristnogol o'r byd a lle pobl yn y byd drwy gwestiynu straeon Beiblaidd.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • adnabod sut y caiff gwerthoedd a chredoau eu hadlewyrchu mewn gweithredoedd o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a'r berthynas rhyngddyn nhw a'u profiadau nhw eu hunain.
  • dysgu am ddealltwriaeth Gristnogol o'r byd a lle pobl yn y byd, trwy astudio straeon Beiblaidd.
  • dysgu am ddealltwriaeth Gristnogol o'r byd a lle pobl yn y byd trwy ddadansoddi straeon Beiblaidd mewn ffordd feirniadol.
  • dangos dealltwriaeth o pam mae Cristnogion yn herio anghyfiawnder cymdeithasol a sut mae hyn yn cael ei wneud yn lleol ac yn fyd-eang.
  • trafod cysyniadau ewyllys rydd, penderfyniaeth gan gynnwys cyfrifoldeb moesol.
Lle a Gofod

Camau Cynnar

Gall dysgwyr:

  • ddechrau sylweddoli eu bod wedi'u lleoli mewn lle a gofod, a bod hyn ag ystyr iddyn nhw.
  • dod yn gyfarwydd â'u heglwys leol a pham ei bod yn lle arbennig i Gristnogion.

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Gall dysgwyr:

  • adnabod bod lleoedd a gofodau o'u cwmpas yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, yn ogystal ag ystyried lleoedd o arwyddocâd arbennig am resymau crefyddol ac anghrefyddol.
  • deall pam mae pobl yn teithio i leoedd arbennig.
  • nodi sut mae addoldai yn cefnogi ac yn gwella'r gymuned.
  • dod yn gyfarwydd â'u Cadeirlan fel Mam Eglwys Gristnogol.

Yn Ddiweddarach

Gall dysgwyr:

  • ddechrau adnabod ac esbonio lleoedd sy'n destun dadlau (crefyddol ac anghrefyddol), gan werthfawrogi materion sensitif mewn perthynas â lle.
  • dechrau archwilio mudo mewn perthynas â chrefydd a gwasgariad grwpiau crefyddol ledled Cymru a'r byd.
  • deall cymhlethdod dadleuon a dylanwadau megis hunaniaeth, awdurdod, gwerthoedd, moeseg ac ystyriaethau ynghylch ystyr a phwrpas mewn bywyd.

Dull Enghreifftiol

Mae'r adran hon yn darparu enghreifftiau o ffyrdd y gellid datblygu taith ddysgu blwraliaethol. Gallai'r daith ddechrau ar unrhyw gam ac ni ddylid ei chyfyngu i'r enghreifftiau a roddir. Anogir cwestiynau er mwyn hwyluso datblygiad sy'n cael ei ddylanwadu gan y dysgwr.

Mae pob enghraifft yn ymwneud â cham datblygu penodol ond dylid ei haddasu yn unol â gofynion dysgwyr.

road with signs

Camau Cynnar

Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Camau Cynnar
Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Camau Cynnar
Disgrifiwch sut y gallai Cristion ofalu am y byd.

Pwy sy'n gyfrifol am ofalu am ein byd?

Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. Genesis 1: 1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Beth mae Bwdhaeth yn ei ddysgu am ofalu am y byd a phethau byw?

Rhannwch stori Siddharta (Y Bwdha) a'r alarch. Meddyliwch am y stori hon mewn perthynas â'r safbwynt Cristnogol.

Sut oedd Siddharta yn gwybod sut i ofalu am yr alarch? Siaradwch am sut yr ymatebodd Siddharta i hunanoldeb ei gefnder.

Sut ydyn ni'n gwybod sut i ofalu am ein byd? Pwy sy'n dylanwadu arnom ni?

Rhannwch stori anghrefyddol am ein byd fel 'Here we are' gan Oliver Jeffers. Sut mae’r stori’n debyg/gwahanol i'r safbwyntiau Cristnogol a Bwdhaidd?

Ymhellach Ar Hyd y Daith

Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Ymhellach Ar Hyd y Daith
Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Ymhellach Ar Hyd y Daith
A yw crefyddau eraill yn credu mewn Duw, fel creawdwr? A oes gan bob ffydd straeon am y creu?

Mae straeon am y creu yn rhan o’r traddodiadau Iddewig, Sikh, Hindŵaidd ac Islamaidd.

Yn aml, mae'r straeon hyn yn anghytuno am sut a phryd y cafodd y byd ei greu, ond maen nhw i gyd yn dweud wrthym ni fod yna Dduw yn y cefndir. Dadansoddwch y straeon.

  • A yw'r straeon yn unochrog?
  • Pwy yw'r cymeriadau yn y straeon?
  • Pa themâu sy'n cael eu cyflwyno a sut ydych chi'n dehongli'r straeon?

Archwiliwch yr hyn y mae'n ei ddweud wrthych am stiwardiaeth a chrefyddau eraill.

Trafodwch y dyfyniad hwn mewn perthynas â'r argyfwng presennol sy'n wynebu ein planed:

Mae pwy bynnag sy'n plannu coeden ac yn gofalu amdani'n ddiwyd nes ei bod yn aeddfedu ac yn dwyn ffrwyth yn cael ei wobrwyo. Y Proffwyd Muhammad

Mae crefyddau eraill yn wynebu'r un problemau ond a yw eu barn am stiwardiaeth y blaned yn amrywio yn ôl ffydd? Gwahoddwyd Datganiadau Francis o Assisi (pum arweinydd pum prif grefydd y byd – Bwdhaeth, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam ac Iddewiaeth – i ddod i drafod sut y gallai eu crefyddau helpu i achub y byd naturiol a sut y dylent wneud hynny)…

Trafodwch y dyfyniad:

Mae gan y Ddaear ddigon o adnoddau ar gyfer ein hanghenion ond nid ar gyfer ein trachwant. Mahatma Gandhi
Os mai Duw wnaeth greu’r byd, a oes ots am hynny? Stori'r creu. Pam gall y byd fod yn arbennig i Gristnogion?

Stori'r creu – a yw'r Beibl yn ffeithiol gywir? Gair Duw.

Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Genesis 2:15
  • A yw'r stori'n unochrog?
  • Pwy yw'r cymeriadau yn stori'r creu?
  • Pa themâu sy'n cael eu cyflwyno, e.e. cwymp, cyfamod, achubiaeth, stiwardiaeth, a sut ydych chi'n dehongli'r stori?

Dadansoddwch stori'r Creu. Salm 104

Genesis – sut mae'n dechrau a'r cysylltiadau clir â Datguddiad a sut mae'n dod i ben. Trafod Genesis 1:1 a Datguddiad 21:1

Trafodwch y dyfyniad hwn mewn perthynas â'r argyfwng presennol sy'n wynebu ein planed:

Dygais chwi i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni; ond daethoch i mewn a halogi fy nhir, a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra. Jeremeia 2:7

Mae Cristnogion yn wynebu'r un problemau, felly sut ddylai Cristnogion drin y Ddaear?

Mae Salmau 8 a 104 yn siarad am yr Arglwydd yn creu'r Ddaear a’r ffaith mai Cristnogion sy'n gofalu amdani.

A oes gan Gristnogion gyfrifoldeb i'r byd naturiol neu a oes ganddyn nhw’r hawl i wneud fel y mynnan nhw a thrin adnoddau'r blaned fel nwyddau? Mae llyfr Genesis yn dweud bod gan Gristnogion awdurdod dros y greadigaeth yn hytrach na stiwardiaeth.

Trafodwch y dyfyniad

Fe wnaethom ymladd yn erbyn apartheid. Nawr, newid hinsawdd yw ein gelyn byd-eang. Desmond Tutu

Sut mae pobl â safbwyntiau athronyddol anghrefyddol yn esbonio sut y dechreuodd bywyd? Beth mae gwyddoniaeth yn ei ddweud wrthym?

Mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym beth ddigwyddodd a sut y digwyddodd ond nid y rheswm pam.

  • Pam mae'r byd yn arbennig os na wnaeth neb ei greu?
  • A yw'r straeon yn ymwneud â'r Creu yn unochrog?

Rhannwch naratif anghrefyddol fel y cyfyng-gyngor yn ymwneud â chreu a wynebodd yr ellyllon (trolls) yn y ffilm Trolls, sy'n herio safbwyntiau gwahanol.

Ewch ati i drafod ac ailysgrifennu'r hyn y mae'n ei ddweud wrthych am safbwyntiau a stiwardiaeth anghrefyddol.

Trafodwch y dyfyniad hwn mewn perthynas â'r argyfwng presennol sy'n wynebu ein planed:

Nid ydym yn etifeddu'r ddaear gan ein hynafiaid; rydym yn ei benthyg gan ein plant. Dienw

A yw'n gwneud gwahaniaeth os nad oes Creawdwr?

Trafodwch y dyfyniad:

Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes wedi'i ddatrys. Mae’r holl ffeithiau a'r atebion gennym ni’n barod. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw deffro a newid. Greta Thunberg

Yn Ddiweddarach

Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Yn Ddiweddarach
Y Byd Naturiol a Phethau Byw - Yn Ddiweddarach
A oes gan bob person gyfrifoldeb i ofalu am y byd waeth beth yw ei argyhoeddiadau crefyddol neu anghrefyddol?

Archwiliwch safbwynt argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol megis safbwynt Humanists for a Better World (H4BW) sy'n codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, cymdeithasol a byd-eang.

Archwiliwch un o'r saith datganiad sy'n rhan o agwedd Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain at yr amgylchedd, megis:

Dylai dyneiddwyr ddeall cyfrifoldebau pobl dros rywogaethau eraill.

Meddyliwch a ellid cael achosion posibl lle gellir dadlau nad oes gan rywun gyfrifoldeb dros ofalu am ein byd. Pryd a pham y gallai achosion o’r fath godi?

Archwiliwch y syniad o 'ryngberthynas' – syniad sy'n cael ei arddel gan rai Bwdhyddion.

Mae hyn yn golygu bod angen i bobl a natur fyw mewn cytgord â'i gilydd er mwyn i'r byd ffynnu.

Rhennwch y llwybr Wythplyg Nobl gyda dysgwyr – a oes unrhyw un o'r rhain yn gysylltiedig â'r syniad o ryngberthynas a bod yn gyfrifol am ofalu am y byd? Sut?

Canolbwyntiwch ar 'ymwybyddiaeth ofalgar gywir' – sut mae hyn yn cysylltu â chyfrifoldeb dros ofalu am y byd?

Sut allai Cristion ymateb i'r rhai sy'n mynegi barn neu agwedd ddifater tuag at ofalu am y byd?

Mae llawer o Gristnogion yn credu bod parch yn ganolog i ofalu am greadigaeth Duw, a bod rhaid iddyn nhw, fel stiwardiaid, ystyried beth maen nhw'n gallu ei wneud yn awr i ofalu am y byd a beth maen nhw'n gallu ei wneud i sicrhau bod y byd yn parhau i ffynnu yn y dyfodol. Pa dystiolaeth o hyn sydd i'w gweld yn y Beibl?