
Y Gwir Barchedig Ddr Manon Ceridwen James
Etholwyd yr Esgob Manon Ceridwen James fel Esgob Bangor ar 6 Gorffennaf 2026.
Magwyd yr Esgob Manon yn Nefyn, ym Mhen Llŷn, a chafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1994 yn Eglwys Gadeiriol Bangor cyn iddi fod ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio'n offeiriad yn yr esgobaeth yn 1997. Mae hi wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy yn ogystal â dal amrywiaeth o rolau esgobaethol mewn hyfforddiant, addysg a galwedigaethau, yr olaf ohonynt oedd fel Cyfarwyddwraig Gweinidogaeth.
Rhwng 2018 a 2025 yr Esgob Manon oedd Deon Hyfforddiant Gweinidogol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd. Yn ei hamser rhydd, mae’r Esgob Manon yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth a mynd i gemau pêl-droed Cymru a Wrecsam yn ogystal â digwyddiadau comedi gyda'i gŵr, Dylan, sy'n Rheolydd Cyllidol Grŵp Prifysgol Bangor. Mae gan yr Esgob Manon radd mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt a PhD mewn Diwinyddiaeth Ymarferol o Brifysgol Birmingham. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae llyfr yn seiliedig ar ei hymchwil PhD, Women, Identity and Religion in Wales a chasgliad o farddoniaeth - Notes from a Eucharistic Life. Mae sawl un o'i gwasanaethau ysgol hefyd wedi cael eu cyhoeddi gan SPCK.