Yr Eglwys yng Nghymru

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist. Mae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein annog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod â iachâd i’r byd.

Y mae’r Eglwys yng Nghymru yn benderfynol o atal camdriniaeth, ac i helpu goroeswyr. Darganfod mwy:

Ewch i'n tudalen diogelu

Mae Llithiadur newydd yr Eglwys yng Nghymru ar gael i'w archebu ar-lein gan ein cyhoeddwr, Y Lolfa.

Archebwch Nawr!

Newid yn yr hinsawdd

Mae God’s Earth yn gweiddi am ein gofal ac os na fyddwn yn cyfyngu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys a dinistrio rhywogaethau byddwn yn anffurfio ein cartref cyffredin yn barhaol gan atal biliynau o blant Duw rhag ffynnu. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod stiwardiaeth gyfrifol y greadigaeth yn rhan annatod o ddisgyblaeth Gristnogol.

Y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yn yr Eglwys yng Nghymru wrth i Gristnogion ledled y wlad addoli, tystio a gwasanaethu Duw a’u cymunedau. Ein gobaith ydy parhau i ddatblygu ein darpariaeth fel y bydd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth yn y Gymraeg yn cryfhau ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu.

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd

Ymweliad: www.anglicancommunion.org

Gweddi'r wythnos

Colect 266 Hollalluog a thragwyddol Dduw, a elwaist dy was Ninian i bregethu’r efengyl i bobl gogledd Prydain: cyfod yn y wlad hon ac ym mhob gwlad ragredegwyr ac efengylwyr dy deyrnas, fel y bydd i’th Eglwys hysbysu cyfoeth anhraethol dy Fab ein Gwaredwr Iesu Grist, sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Ninian ~ Esgob Galloway / Bishop of Galloway ~ Medi 16 September

Colect yr wythnos

Colect 265 Hollalluog Dduw, gwnaethost i offeryn angau dolurus fod i ni yn fywyd a thangnefedd trwy ddioddefaint dy Fab gwynfydedig: caniatâ i ni orfoleddu yng nghroes Crist fel y bydd i ni ddioddef yn llawen er ei fwyn ef; sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gwelwch LITHIADUR yr wythnos hon