Hafan Cyhoeddiadau Gweinyddiaeth a Busnes Arolwg yr Eglwys yng Nghymru 2012

Arolwg yr Eglwys yng Nghymru 2012

Yr oedd cyfarfod mis Medi 2010 o’r Corff Llywodraethol yn un nodedig oherwydd nifer y cyfraniadau gan aelodau â chanddynt yr un neges: “Ni all yr Eglwys yng Nghymru barhau i wneud yr un pethau yn yr un ffordd; rhaid i rai pethau newid, ac yr ydym yn agored i’r posibilrwydd hwnnw ac, yn wir, am ei annog”.

Ymatebodd y Pwyllgor Sefydlog a’r Fainc i’r alwad hon trwy gomisiynu arolwg allanol o’r Eglwys, i edrych yn arbennig ar ei strwythurau a’i defnydd o adnoddau ac i gynyddu effeithiolrwydd ei gweinidogaeth a’i thystiolaeth. Y mae aelodau Gweithgor yr Arolwg yn feddylwyr amlwg â chanddynt brofiad amrywiol o ddelio â materion eglwysig a threfniadol: yr Arglwydd Harries o Bentregarth, cyn-Esgob Rhydychen; yr Athro Charles Handy, awdur adnabyddus a chynghorwr ar fusnes a damcaniaeth drefniadol (a mab i archddiacon yn Eglwys Iwerddon); a’r Athro Patricia Peattie, cyn-Gynullydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Esgobol yr Alban a chadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbytai Prifysgol Lothian. Y nod oedd comisiynu arolwg a allai yn ddiymdroi gasglu a derbyn gwybodaeth am gyflwr yr Eglwys yng Nghymru, ac yna roi cyngor annibynnol ar sut y gallai’r Eglwys ei haillunio ei hun i fod yn fwy effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.

cyf: 1290