English

Mae'r Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghymru wedi ymuno â'r lleisiau sy'n galw ar Gyngor Sir Penfro i roi'r gorau i'w bygythiad i gael gwared ar statws eglwysig Ysgol Cilgerran.

Ar Fai 14eg, pleidleisiodd Cyngor Sir Penfro o blaid dileu statws Gwirfoddol a Reolir (VC) o'r ysgol Gymraeg ffyniannus hon er bod 97% o'r ymatebion i ymgynghoriad wedi gwrthwynebu newid y mae'r eglwys yn ei ddisgrifio fel un 'hollol ddiangen'.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi gwrthwynebu'r cynnig yn ffurfiol, gan ei gwneud yn glir y bydd yn cymryd camau cyfreithiol ar sail camliwio cyhoeddus a honiadau cyfreithiol anghymwys a wnaed gan swyddogion Cyngor Sir Penfro, a gwahaniaethu yn erbyn addysg ffydd.

Mae'r safiad yn erbyn symudiad y cyngor wedi denu cefnogaeth eang, gyda rhieni, athrawon a myfyrwyr yn protestio o flaen cyfarfod llawn o'r cyngor.

Yn y llythyr ffurfiol at Gyngor Sir Benfro, yn gwrthwynebu cynnig y cyngor, dywed Angela Keller, Cynghorydd Cymru y Gwasanaeth Addysg Gatholig: "... rydym yn cefnogi safbwynt yr Eglwys yng Nghymru nad yw'r cynnig wedi dangos bod y profion statudol a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion wedi'u bodloni. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd dileu statws crefyddol yr ysgol o unrhyw fudd addysgol gan fod yr ysgol eisoes yn perfformio'n dda ac mae ganddi broffil arweinyddiaeth sefydlog. Mae'r awdurdod lleol hefyd wedi cydnabod na fydd y cynnig, er ei fod yn achosi'r costau a'r aflonyddwch sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu ysgolion, yn darparu unrhyw fudd addysgol neu ariannol.

"Nid yw Cyngor Sir Penfro wedi rhoi ystyriaeth ddigonol i'w rwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r cynnig yn derbyn mai crefydd a chred yw'r unig nodwedd warchodedig sy'n profi effaith negyddol a bod yr effaith yn anghymesur. Mae'r cynnig yn dileu'r unig ysgol Eglwys yng Nghymru sy'n gwasanaethu'r rhan hon o ogledd Sir Benfro gyda'r ysgol amgen agosaf dros ugain milltir i ffwrdd. Bydd dewis rhieni mewn perthynas ag addysg sy'n seiliedig ar ffydd yn cael ei leihau'n sylweddol, yn enwedig i deuluoedd gwledig heb opsiynau trafnidiaeth realistig. Rydym yn cytuno â'r Eglwys yng Nghymru, bod gweithredoedd yr Awdurdod Lleol yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol o dan Adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan roi teuluoedd sydd â nodwedd warchodedig (crefydd a chred) dan anfantais ddifrifol.

"Mae gweithredoedd Cyngor Sir Penfro wrth gynnig dileu statws crefyddol Ysgol Cilgerran yn gosod cynsail pryderus i bob ysgol Eglwysig yn yr ardal. Mae'r cynnig yn gwneud datganiad negyddol am y gwerth strategol hirdymor a roddir gan yr Awdurdod Lleol ar gadw amrywiaeth o fewn darpariaeth addysgol leol.

"Mae'r Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig, fel darparwyr ysgolion, wedi gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ers blynyddoedd lawer. Mae'r cynnig hwn yn tanseilio'r berthynas gadarnhaol y mae'r Eglwysi wedi'i chael â Chyngor Sir Penfro. Rydym yn ymuno â'r Eglwys yng Nghymru i annog Cyngor Sir Penfro i dynnu'r cynnig hwn yn ôl."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn croesawu'r mynegiant pwerus diweddaraf hwn o gefnogaeth i'r ymgyrch i achub statws eglwysig Ysgol Cilgerran. Mae'r bygythiad i Gilgerran yn fygythiad i ysgolion ffydd, i amrywioldeb, i'r gymuned, ac i'r plant a’r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan weithredoedd cwbl ddiangen Cyngor Sir Benfro."

Mae'r Eglwys wedi mynegi pryder mawr am batrwm gweithredoedd diweddar Cyngor Sir Benfro ynglŷn ag Ysgolion yr Eglwys.

Ar Fehefin 15fed, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cau Ysgol Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, a gafodd ei difrodi gan dân yn 2022, ac sydd, er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro gan Aelodau'r Cabinet ac uwch swyddogion y byddai'n cael ei hailadeiladu, wedi cael caniatâd i eistedd yn wag tra bod nifer y plant, a orfodwyd ers blynyddoedd i ddysgu mewn llety dros dro, wedi gostwng. Mae'r Eglwys hefyd yn cymryd camau ffurfiol yn yr achos hwn.

Ar Orffennaf 16eg, mae'r cyngor hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynlluniau i gau ysgol Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru yn ei disodli gan ysgol nad yw'n eglwysig. Unwaith eto, fel Maenorbŷr, mae Ysgol VC Dinbych-y-pysgod wedi dioddef o broblemau strwythurol, diffyg buddsoddiad, a hanes o sicrwydd y byddai ei statws VC yn cael ei gadw – sicrwydd sydd bellach wedi profi i fod yn ddi-sail.