English

Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi uno gydag arweinwyr ffydd eraill yng Nghymru mewn datganiad grymus yn erbyn y Bil Cymorth i Farw arfaethedig, sy’n cael ei drafod yn y Senedd. Pe byddai’n cael ei basio, byddai’r ddeddfwriaeth yn caniatáu meddygon i ddarparu cyffuriau marwol i unigolion sydd â salwch anwelladwy gan yn ymarferol gyfreithloni hunanladdiad a gynorthwyir gan feddyg.

Mae’r datganiad yn canolbwyntio ar “dreftadaeth gyffredin” gwahanol grefyddau i ofalu am bobl sy’n fregus, yn wael neu yn marw. Dywed yr arweinwyr, “Dyna pam y teimlwn fod yn rhaid i ni siarad gyda’n gilydd yn erbyn y ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae tosturi wrth galon holl grefyddau mawr y byd. Mae bywyd yn gysegredig.”

Cafodd ei lofnodi gan gynrychiolwyr gwahanol draddodiadau ffydd yng Nghymru, yn cynnwys cymunedau Cristnogol, Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵ a Sikh.

Rhybuddiant fod hunanladdiad a gynorthwyir gan feddyg yn achosi peryglon i bobl fwyaf bregus cymdeithas. Gan ddefnyddio tystiolaeth o wledydd eraill, tebyg i Canada, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd, dywedant fod cyfreithiau tebyg wedi arwain dros amser at ehangu’r meini prawf ar gyfer cymorth gyda hunanladdiad.

“Ni all y mwyaf bregus gymryd mwyach fod cydbwysedd gofal iechyd o’u plaid,” esboniant. “Yn lle helpu’r rhai sydd mewn angen, gallai cyfreithiau o’r fath eu hannog i ddiweddu eu bywydau.”

Mae’r datganiad hefyd yn codi pryderon am effaith y Bil ar gymdeithas, yn arbennig ar y rhai sy’n oedrannus, anabl neu sydd â salwch difrifol.

“Pe byddai’r Bil hwn yn cael ei basio, byddai llawer ohonynt yn teimlo’n ansicr am y dyfodol ac yna ddod i’r casgliad eu bod yn faich ar anwyliaid a’r gwasanaeth iechyd,” yw rhybudd yr arweinwyr. “Mae’n rhaid i ni drysori a gwerthfawrogi’r unigolion hyn yn ein plith.”

Mae’r arweinwyr ffydd yn galw ar Aelodau Seneddol i wrthod y Bil. Maent yn annog hyrwyddo gofal tosturiol ar gyfer y rhai sy’n marw ac yn tanlinellu pwysigrwydd cymdeithas lle caiff pob unigolyn ei werthfawrogi a’i gefnogi.

“Mae’r Bil hwn yn codi cwestiynau difrifol am ba fath o gymdeithas yr ydym eisiau bod,” ysgrifennant. “Rydym yn annog pawb i weithredu drwy gysylltu â’u Haelodau Seneddol i fynegi eu gwrthwynebiad i’r ddeddfwriaeth beryglus hon.”

Mae’r datganiad llawn yn dilyn.

Datganiad ar y cyd gan arweinwyr ffydd

Cafodd bil ei gyflwyno i’r Senedd sy’n caniatáu meddygon i gyflenwi cyffuriau marwol i bobl gyda salwch anwelladwy, yn ymarferol hunanladdiad a gynorthwyir gan feddyg.

Fel pobl o ffydd, rydym yn rhannu treftadaeth gyffredin o ofalu am y bregus, y gwael a’r rhai sy’n marw. Dyna pam y teimlwn ei bod yn rhaid i ni siarad gyda’n gilydd yn erbyn y ddeddfwriaeth arfaethedig. Mae tosturi wth galon holl grefyddau mawr y byd. Mae bywyd yn gysegredig.

Cyfeiriwn ein neges yn fwy eang at bob person o ewyllys da, oherwydd bod y cynigion ar gyfer hunanladdiad a gynorthwyir gan feddyg yn ogystal â bod yn groes i urddas a sancteiddrwydd bywyd, yn achosi peryglon dwys i bobl fregus.


Mae tosturi wrth galon holl grefyddau mawr y byd. Mae bywyd yn gysegredig.

Mae coleddu bywyd yn golygu adeiladu cymdeithas lle caiff pob unigolyn ei gynnwys ac na chaiff amrywiaeth unigolion ei weld fel baich. Os daw’r Bil yn gyfraith, dengys profiad gwledydd tebyg i Canada, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd na all y mwyaf bregus mwyach gymryd bod cydbwysedd bod gofal iechyd o’u plaid. Mae’r meini prawf ar gyfer cymorth gyda hunanladdiad yn cael eu ehangu i gynnwys grwpiau o bobl sydd angen help cymdeithas, yn hytrach na chymorth i ddod â’u bywyd i ben.

Codwn ein lleisiau i atgoffa’r rhai sy’n gwneud deddfau am urddas cynhenid pob unigolyn, yn arbennig yng nghyswllt y rhai sy’n anabl, oedrannus neu fregus. Pe byddai’r Bil hwn yn cael ei basio, byddai llawer yn teimlo’n ansicr am y dyfodol ac yn dod i’r casgliad eu bod yn faich ar anwyliaid a’r gwasanaeth iechyd. Mae’n rhaid i ni drysori a gwerthfawrogi’r unigolion hyn yn ein plith.

Mae’r Bil newydd yn nodi moment ddifrifol iawn i’n gwlad. Mae’n codi cwestiynau difrifol am ba fath o gymdeithas yr ydym eisiau bod. O gonsyrn arbennig yw p’un ai a fyddwn yn parhau i hyrwyddo gofal cywir i’r rhai sy’n marw a’r rhai sy’n fregus oherwydd anabledd neu oedran. Mae’n dda gweld fod y rhai sy’n gwrthwynebu newid yn y gyfraith yn cynnwys grŵp amrywiol o weithwyr proffesiynol meddygol (yn arbennig, ond nid yn unig, o faes gofal lliniarol), mudiadau hawliau anabledd, ymchwilwyr, gofalwyr ac amrywiaeth o sefydliadau eraill sydd â chonsyrn.

Anogwn chi i ysgrifennu at, neu anfon e-bost, at eich Aelod Seneddol lleol i fynegi eich consyrn am y bil arfaethedig.

Llofnod:

Yn cynrychioli’r Eglwys Gatholig yng Nghymru

Archesgob Mark O’Toole, Archesgob Caerdydd-Mynyw

Esgob Peter Brignall, Esgob Wrecsam

Yn cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru

Archesgob Cymru, Andrew John

Esgob Llanelwy, Gregory Cameron

Esgob Mynwy, Cherry Vann

Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas

Esgob Llandaf, Mary Stallard

Esgob Tyddewi, Dorrien Davies

Esgob Enlli, David Morris

Yn cynrychioli’r Gynghrair Efengylol yng Nghymru, Tim Rowlands

Yn cynrychioli Synagog Unedig Caerdydd, Rabbi Michoel Rose

Yn cynrychioli Cyngor Cynrychioladol Iddewig De Cymru, Laurence Kahn

Yn cynrychioli Cyngor Mwslimiaid Cymru, Dr Abdul-Azim Ahmed

Yn cynrychioli’r Gymuned Mwslimiaid Ahmadiyya yng Nghymru, Imam Usman Manan

Yn cynrycholi Cyngor Sikh Cymru, Gurmit Singh Randhawa MBE

Yn cynrycholi Cyngor Hindŵ Cymru, Dr Sakti Guha Niyogi