‘Peidiwch â rhoi terfyn ar dosturi’, dywed esgobion wrth iddynt wrthwynebu cymorth i farw
Bydd pobl ddiamddiffyn yn cael eu rhoi mewn perygl os bydd cymorth i farw yn cael ei gyfreithloni, y mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn rhybuddio.
Maen nhw’n ofni y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig, sy’n cael ei chyflwyno yn y Senedd yr wythnos hon, yn “dibrisio bywyd dynol i gyd” os caiff ei phasio a bydd bwriadau da yn “arwain yn gyflym at ganlyniadau gwael ac anfwriadol”.
Mae’r esgobion yn galw yn lle hynny am ymestyn y gofal lliniarol gorau posibl “fel na roddir unrhyw derfynau ar y tosturi a ddangoswn.”
Mae datganiad llawn yr esgob yn dilyn.
Datganiad yr Esgobion
Mae hwn yn fater hynod o boenus y bydd gwahanol bobl, gan gynnwys Cristnogion, wedi dod i farn wahanol yn ei gylch, a hynny gyda’r bwriadau gorau. Serch hynny, mae’n rhaid mai’r flaenoriaeth bennaf yw i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag y risgiau sy’n gynhenid yn y mesur hwn. Am y rheswm hwnnw, ni allwn, mewn pob cydwybod dda, gefnogi’r ddeddfwriaeth arfaethedig. Yn y gwledydd hynny lle mae’r mesur hwn wedi’i dod i rym, ceir tystiolaeth helaeth o’r modd y gall bwriadau da arwain yn gyflym at ganlyniadau gwael ac anfwriadol, ac at ddibrisio bywyd dynol fel y cyfryw. Mae ein ffydd Gristnogol bob amser wedi'i gwreiddio mewn realiti poen a marwoldeb, ond hefyd yng ngwerth anfesuradwy pob person dynol, waeth beth fo'u statws cymdeithasol, eu mynediad at adnoddau, neu eu gallu corfforol neu feddyliol. Yn yr ysbryd hwnnw, a ddangosir inni ym mherson Iesu, rhown ein cefnogaeth ddiffuant i ymestyn y gofal lliniarol gorau posibl i bawb sydd ei angen, fel nad oes unrhyw derfynau ar y tosturi a ddangoswn fel unigolion ac fel cymdeithas.
Archesgob Cymru, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Esgob Tyddewi, Dorrien Davies
Esgob Enlli, David Morris