Lansio cyngor ariannol newydd ar gyfer aelodau cynllun pensiwn clerigion

Gall aelodau cynllun pensiwn clerigion nawr gael mynediad at gyngor ariannol annibynnol arbenigol trwy bartneriaeth sydd newydd ei chyhoeddi gyda Gwasanaethau Cynghori Ariannol Eglwysig (EFAS).
Mae EFAS yn gynghorwyr ariannol annibynnol, sy'n darparu cyngor ac arweiniad ar draws y farchnad gwasanaethau ariannol gyfan. Mae hyn yn golygu y gallwch gael mynediad at gyngor cyfeillgar, diduedd yn seiliedig ar yr hyn sy'n iawn i chi ac nad yw'n gysylltiedig ag ystod gyfyngedig o gynhyrchion neu ddarparwyr.
Efallai y bydd llawer o aelodau eisoes yn gyfarwydd ag EFAS trwy ddigwyddiadau clerigol blaenorol a gynhaliwyd ledled y dalaith. Mae'r sefydliad yn dod â phrofiad helaeth o gefnogi clerigion, gweithwyr lleyg, a'r gymuned eglwysig ehangach. Gyda dealltwriaeth gref o'r heriau ariannol unigryw sy'n wynebu aelodau, mae EFAS mewn sefyllfa dda i gynnig arweiniad perthnasol, ymarferol.
Ar gyfer mwy o wybodaeth a sut i gael gafael ar gyngor ariannol gan EFAS
Mwy o wybodaeth