Protestiadau cymunedol yn erbyn cynnig y cyngor i newid statws Ysgol Cilgerran
Mae cefnogwyr Ysgol Cilgerran, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yn Sir Benfro, wedi protestio yn erbyn cynlluniau'r Cyngor Sir i ddileu statws eglwysig yr ysgol.
Ar 14 Mai, pleidleisiodd Cyngor Sir Penfro o blaid dileu statws Gwirfoddol a Reolir (VC) o'r ysgol wledig gyfrwng-Cymraeg ffyniannus hon er bod 97% o'r ymatebion i ymgynghoriad wedi gwrthwynebu newid y mae'r eglwys yn ei ddisgrifio fel 'cwbl ddiangen'.
Mae'r Eglwys wedi gwrthwynebu'r cynnig yn ffurfiol. Mae llythyr hefyd wedi'i anfon at swyddogion y cyngor ar ran Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud yn glir, os bydd y cyngor yn parhau â'r cwrs hwn, y bydd yr Eglwys yn cymryd camau cyfreithiol ar sail: camliwio cyhoeddus a honiadau cyfreithiol anghyflawn a wnaed gan swyddogion Cyngor Sir Penfro, ac ar sail gwahaniaethu yn erbyn addysg ffydd.
Mae'r safiad yn erbyn symudiad y cyngor wedi denu cefnogaeth eang. Ddydd Iau, teithiodd rhieni, athrawon a myfyrwyr i Hwlffordd i brotestio wrth i’r cyngor llawn gyfarfod. Roedd eu harwyddion protest lliwgar, a wnaed gan fyfyrwyr, yn cario negeseuon fel "97% yn erbyn y cynnig – mae’r cyngor yn clatsio bant beth bynnag! ", "Cadw statws eglwysig ysgol wirfoddol Cilgerran", a "Colli ein treftadaeth – 180 o flynyddoedd. At ba bwrpas?"
Dywedodd un o'r protestwyr, cyn-ddisgybl a Llywodraethwr, Sarah Moore: "Rydw i yma heddiw oherwydd rwy'n dychryn bod y cyngor yn siarad am gymryd statws yr eglwys oddi ar ein hysgol. Rhoddodd yr eglwys y tir hwnnw i'r ysgol dros 180 mlynedd yn ôl. Mae 97% wedi pleidleisio yn erbyn hyn ac eto maen nhw'n dal i geisio ei wneud. Os ydym am i'n plant aros mewn ysgol eglwys, yr un agosaf yw Treletert. Felly ble fydd y plant hyn yn cael yr addysg dda honno y maen nhw'n ei gael nawr?"
Dywedodd Ffion, disgybl Blwyddyn 6 yn yr ysgol: "Mae gennym gysylltiad cryf rhwng yr ysgol a'r eglwys ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, nid I’w gymryd i ffwrdd. Rydyn ni yma yn protestio heddiw, dim ond er mwyn dangos iddyn nhw ein bod ni'n dal yma. Rydyn ni'n dal i ymladd ac ni fyddwn yn stopio nes bod penderfyniad gwahanol yn cael ei wneud."
Dywedodd Kelly Davies, rhiant a Llywodraethwr, "Rydym yn teimlo'n gryf iawn fel rhieni, y disgyblion a'r gymuned, nad ydym yn hapus iddyn nhw gymryd statws VC i ffwrdd. Mae gennym gysylltiadau cryf iawn gyda'r eglwys a'r ysgol a'r gymuned. Mae'n ymddangos eu bod yn cymryd hyn oddi wrthym yn barhaol am ddim rheswm."
Mae'r Eglwys wedi mynegi pryder dwys am batrwm gweithredoedd diweddar Cyngor Sir Benfro ynglŷn ag Ysgolion Eglwys. Ar Fehefin 15fed, pleidleisiodd cynghorwyr i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr, a gafodd ei difrodi gan dân yn 2022, ac sydd, er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro gan Aelodau'r Cabinet ac uwch swyddogion y byddai'n cael ei hailadeiladu, wedi cael ei gadael i eistedd yn wag tra bod nifer y plant, wedi'u gorfodi am flynyddoedd i ddysgu mewn lleoliad dros-dro, wedi lleihau. Mae'r Eglwys hefyd yn cymryd camau ffurfiol yn yr achos hwn.
Ac ar Orffennaf 16eg, cyhoeddodd y cyngor ymgynghoriad ar gynlluniau i gau ysgol Wirfoddol Dinbych-y-pysgod a'i uno mewn ysgol newydd heb gysylltiad eglwysig. Unwaith eto, fel Maenorbŷr, mae Ysgol Dinbych-y-pysgod wedi dioddef o broblemau strwythurol, diffyg buddsoddiad, a hanes lle y rhoddwyd sicrwydd y byddai ei statws eglwysig yn cael ei gadw – sicrwydd sydd bellach wedi profi i fod yn ddi-sail.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Mae'r bygythiad cwbl ddiangen i statws yr ysgol gymunedol boblogaidd hon wedi cael effaith ar blant, teuluoedd, a'r gymuned ehangach. Nid ydym yn barod i ganiatáu i ysgol wledig ffyniannus arall golli ei chymeriad gwerthfawr. Rydym yn cefnogi Ysgol Cilgerran i’r carn, ac rydym yn gobeithio y bydd Cyngor Sir Penfro yn gwrando ar leisiau'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu, ac yn dewis peidio â dileu statws eglwysig."