Dathliadau i nodi pen-blwydd Ann Griffiths yn 250 oed
Cynhelir dathliad i nodi 250 mlynedd ers geni un o emynwyr pwysicaf Cymru y mis nesaf.
Ganwyd Ann Griffiths ar fferm ger Llanfihangel-yng-Ngwnfa ym Mhowys ym 1776 ac mae wedi’i chladdu ym mynwent Eglwys Sant Mihangel yn y pentref.
Cynhelir y dathliad ar 12 Gorffennaf am 7pm yn Neuadd Bentref Llanfihangel-yng-Ngwnfa am 7pm. Arweinydd y noson fydd yr Offeiriad Arloesol lleol a’r cerddor, y Parchedig Ddr Cass Meurig.
Dywedodd: “Mae Ann Griffiths yn ffigur eiconig yng Nghymru ac yn fardd Cristnogol o bwys cenedlaethol. Ystyrir ei hemynau ymhlith y gorau yn yr iaith Gymraeg, a daeth stori ei throedigaeth pwerus a’i bywyd byr yn ysbrydoliaeth i lawer.
“Noson o addoliad yn yr iaith Gymraeg fydd ‘Noson Ann’, i ddathlu ei genedigaeth; cyfle i ganu ei hemynau a gwrando ar eitemau gan gantorion lleol o’r ardal.”
Caeodd Eglwys Sant Mihangel yn Llangfihangel-yng-Ngwnfa ar gyfer addoliad yn 2021 ond mae mynediad i’r fynwent a bedd Ann yn parhau ar agor. Claddwyd Ann yn yr eglwys ym 1805 yn dilyn ei marwolaeth yn 29 oed.
Mae’r Parchedig Ddr Cass Meurig yn cynnal digwyddiadau a gwasanaethau mewn cymunedau o amgylch Dyffryn Tanat a Llyn Efyrnwy. Mae hi’n offeiriad yn Esgobaeth Llanelwy, un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy:
Esgobaeth Llanelwy - Y Newyddion Diweddaraf