Plant ysgolion i nodi Dydd Deiniol Sant gyda phererindod i Ganol y Ddinas

Bydd canol dinas Bangor yn cael ei drawsnewid gan orymdaith o blant ysgol ddydd Iau, 11 Medi, wrth i tua 200 o blant lleol arwain pererindod drwy ganol y ddinas i nodi Dydd Deiniol Sant a dathliadau pen-blwydd 1500 Bangor.
Bydd y daith gerdded, a fydd yn dechrau am 11:15yb yng Nghadeirlan Bangor, yn gweld disgyblion yn cael eu cefnogi gan egni rhythmig Gethin Thomas Cerdd Amdani wrth iddynt gerdded i lawr yr Heol Fawr, heibio’r cloc, trwy Ganolfan Siopa Deiniol ac i’r Ardd Feiblaidd. Anogir trigolion a ymwelwyr i sefyll ar hyd y llwybr a chefnogi’r plant wrth iddynt fyw stori hynafol Bangor.
Yn gynharach yn y bore, bydd y dathliadau yn dechrau am 10yb gyda gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor a arweinir gan offeiriaid y Gadeirlan, gan gynnwys perfformiadau gan Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars. Bydd wyth disgybl hefyd yn cael eu cydnabod am eu gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan y Gadeirlan, a grëwyd mewn gweithdai gyda Swyddog Ymgysylltu Pererindodau ysgolion, Nia Elain Roberts. Bydd arddangosfa lliwgar o faneri, a gynlluniwyd gan yr ysgolion cyfranogol yn lliwiau Bangor 1500, yn cael ei dangos y tu mewn i’r Gadeirlan.
Bydd y bore o ddathlu yn dod i ben gyda digwyddiad creadigol a arweinir gan Fran Wen, yn cyfuno cerddoriaeth a symudiad wedi’u hysbrydoli gan faneri’r disgyblion.
Mae Dathliad Dydd Deiniol Sant wedi’i drefnu gan Esgobaeth Bangor gyda chefnogaeth Cyngor Dinas Bangor a Menter Iaith Bangor, ac mae’n rhan o ddathliadau Bangor 1500.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf