Anerchiad Llywyddol yr Archesgob i'r Corff Llywodraethol

Mae Archesgob Cymru, y Parchedig Cherry Vann, yn myfyrio ar fywyd a chenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru yn ei Anerchiad Arlywyddol i aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.
Gan osod gobaith yr atgyfodiad yn gefndir, mae'r anerchiad yn siarad yn onest am fyd wedi'i nodi gan ryfel, ofn a rhaniad, tra'n cadarnhau galwad yr Eglwys i dystiolaeth trwy dosturi, gwasanaeth a chariad. Gan dynnu ar wrthdaro byd-eang, etholiad nesaf y Senedd, a phrofiadau byw o fewn yr Eglwys ei hun, mae’r Archesgob yn herio’r Eglwys i fwrw ymaith ofn, i wrthsefyll ymraniad, ac i dyfu mewn ymddiriedaeth, cynhwysiant, a chariad.
Yr hyn sy'n dilyn yw testun llawn anerchiad yr Archesgob.
Anerchiad Llywyddol i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru - Ebrill 2026
Alelwia. Atgyfododd Crist. Atgyfododd yn wir. Alelwia!
Rydyn ni'n ymgynnull yma fel pobl y Pasg gyda geiriau'r angel wrth y bedd yn dal i atseinio yn ein clustiau: 'Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi.' 'Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.'
Rwy’n gobeithio bod pob un ohonoch chi wedi cael Pasg llawn llawenydd ac wedi cael cip o realiti’r Crist atgyfodedig yn eich bywydau wrth i chi ddathlu'r atgyfodiad yn eich eglwysi ac ymhlith eich cynulleidfaoedd.
Rydyn ni’n ymgynnull yma dros y dyddiau nesaf i addoli ac i ddwys ystyried gyda’n gilydd yn yr un ysbryd o ddathlu llawen, gan wybod bod y Crist atgyfodedig yn dod i’n plith fel y gwnaeth gyda’r disgyblion cyntaf hynny y Pasg cyntaf hwnnw. Rydyn ni’n dod ynghyd gyda ffydd newydd bod yr Iesu atgyfodedig gyda ni yn nhywyllwch anobaith fel yr oedd gyda'r rhai a ddaeth ynghyd yn yr oruwch ystafell; ei fod yn cwrdd â ni yn ein galar a'n tristwch fel y gwnaeth gyda’r teithwyr ar y ffordd i Emaus; ei fod yn ymddangos i ni yn ein gwaith cymaint ag yn ein gweddi, fel y gwnaeth i'r rhai a oedd wedi dychwelyd i’w gwaith fel pysgotwyr, wedi’u drysu, a heb ddeall o hyd mewn gwirionedd.
Rydyn ni'n ymgynnull fel pobl y Pasg gydag Alelwia yn gân i ni, gan ymddiried y gall ac y bydd Iesu yn trawsnewid y tywyllwch yn oleuni, yr anobaith yn obaith, y tristwch yn llawenydd. Gan wybod, hyd yn oed yn anghyflawn, ei fod yn cynnig bywyd newydd, geiriau o groeso a gwahoddiad, a chynhaliaeth i’r hyn oll y mae'n ei ofyn gennym ni. Oherwydd dyna’r hyn y mae'r Pasg yn ei gyhoeddi.
Mae Crist wedi atgyfodi. Atgyfododd yn wir. Alelwia!
Ond wrth i ni ymgynnull, yn niogelwch cymharol y lle hwn, y wlad hon, rydyn ni’n ymwybodol bod Cristnogion mewn mannau eraill wedi dathlu'r Pasg mewn cyd-destun tra gwahanol; yng nghanol rhyfeloedd a dinistr, yng nghanol ofn ac ansicrwydd; yng nghanol dioddefaint a galar sydd bron y tu hwnt i'n hamgyffred. Ni allwn ac ni ddylem anghofio am ein chwiorydd a'n brodyr yng Nghrist yn Wcráin ac yn Ne Sudan, yn Iran, yn y dwyrain canol a gwladwriaethau’r Gwlff, ac yn yr union leoedd hynny lle cafodd Iesu ei eni, lle bu'n byw ac yn gweinidogaethu, lle bu farw ac yr atgyfododd eto. Daw ystyr ac arwyddocâd y Pasg i ffocws yn y cyd-destunau hynny sydd heddiw yn teimlo'n debycach i Ddydd Gwener y Groglith na Dydd Sul y Pasg. Er ein bod yn gweddïo'n ddyddiol am heddwch ac am ddiwedd i drais a rhyfel, gweddïwn hefyd dros ein chwiorydd a'n brodyr yng Nghrist, y gallant ddod o hyd i nerth, dewrder a gobaith i barhau’n ffyddlon ac i dystio bod Crist yn wir wedi atgyfodi. A bod ei gariad wedi cario’r dydd ar ddrygioni, pechod a marwolaeth.
Gwn fod llawer ohonom yma hefyd yn ceisio cefnogi teuluoedd, ffrindiau a chymunedau yn ymarferol yn rhai o'r lleoedd hynny, trwy gyswllt personol, trwy roi arian a thrwy ysgrifennu at wleidyddion etholedig yn y Senedd ac yn San Steffan. Gall gweithredoedd o'r fath deimlo'n fach iawn, yn ddibwys ac yn annigonol yn wyneb yr erchyllterau rydyn ni'n eu gweld ac yn clywed amdanyn nhw ar ein ffrydiau newyddion. Maen nhw, serch hynny, yn weithredoedd o ofal a thosturi, ac yn fynegiant o undod sydd mewn rhyw ffordd fach yn gallu bod yn arwyddion o obaith, gan ddod â llygedyn o oleuni i'r tywyllwch.
Yn nes at gartref, er efallai nad ydyn ni’n rhan o ryfel, rydyn ni’n sicr yn teimlo effeithiau'r rhyfeloedd sy’n cael eu hymladd dramor ac mae llawer yma yn dioddef caledi ychwanegol o ganlyniad. Yng nghanol yr aflonyddwch a'r ansicrwydd, mae'n galonogol gweld cymaint o'n heglwysi ar hyd a lled y wlad yn byw eu ffydd yn y Pasg trwy estyn allan yn genhadol a gwasanaethu eu cymunedau. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n bywyd fel Cristnogion; ein tystiolaeth fel Eglwys Crist. Heb weithredu cymdeithasol, bydd ein neges y Pasg yn swnio’n wag. Heb neges y Pasg, ni fydd ein gweithredu cymdeithasol ni’n ddim gwahanol i unrhyw elusen neu gangen arall o’r gwasanaethau cymdeithasol. I ni, mae'r ddau yn mynd law yn llaw. Efengyl Iesu Grist yw’r ysgogydd, y sbardun, yr hyn sy’n siapio ein bywydau a'n tystiolaeth fel unigolion ac fel eglwys. Rydyn ni'n byw ac yn rhannu'r newyddion da trwy wasanaethu eraill. Ac, wrth wasanaethu eraill, rydyn ni'n eu tynnu tuag at gariad Iesu a'r iachawdwriaeth y mae'n ei gynnig.
Mewn cwta dair wythnos, cynhelir etholiad yma yng Nghymru. Beth bynnag fo’r canlyniad, bydd yn etholiad hanesyddol. Senedd newydd a fydd yn cynnwys 96 aelod yn hytrach na'r 60 presennol, ac 16 etholaeth newydd, pob un â 6 aelod. Am y tro cyntaf, bydd pobl ifanc 16 oed a throsodd yn gallu pleidleisio. Fel bob amser, mae'n bwysig pwyso a mesur yn ofalus sut rydyn ni'n mynd i ddefnyddio ein pleidlais a sut y gallai ein ffydd lywio ein dewis. Wrth gwrs, mae yna Gristnogion yn y rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol. Dydw i ddim am eiliad yn dweud bod un blaid yn fwy Cristnogol na'r lleill. Ond fe allai’r gwerthoedd y mae ein ffydd yn eu dysgu i ni lywio ein pleidlais, fel y maen nhw’n llywio ein hymddygiad; y gwerthoedd hynny sy'n ein hannog i edrych y tu hwnt i ni ein hunain a'n buddiannau personol at fuddiannau eraill ac at les cyffredin. Caru ein cymydog. Croesawu'r dieithryn. Gofalu am y weddw a'r amddifad a'r rhai sydd angen cymorth gan eraill. Mae dameg yr Iesu am y defaid a'r geifr yn fy herio bob amser. Yr hyn sy'n bwysig i'r brenin yw nid pa mor grefyddol ydyn ni, ond ein bod yn darparu bwyd i'r newynog, diod i'r sychedig, dillad i'r noeth; ein bod yn gofalu am y sawl sy’n glaf ac yn ymweld â'r sawl sydd yn y carchar.
Rydyn ni’n ethol ein gwleidyddion, boed yn Gristnogion ai peidio, i feithrin cymdeithas lle mae pawb yn cael ei werthfawrogi, lle gall pawb ddod o hyd i le a lle gall pawb gael ymdeimlad o alluogedd ac o berthyn. Mae'n ddarlun cymhleth heb atebion na datrysiadau hawdd, ond mae'r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, sydd wedi’i chynnal ers 5 mlynedd, yn sicr yn ein hatgoffa’n amserol bod casineb, ofn a diffyg ymddiriedaeth nid yn unig yn brifo'r bobl neu'r grwpiau sy'n dargedau penodol, ond ei fod yn brifo pob un ohonon ni; y wlad gyfan. Oherwydd ei fod yn magu amheuaeth, rhaniad ac, yn rhy aml, trais; sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae ein strydoedd yn mynd yn llai diogel ac rydyn ni ein hunain yn teimlo'n llai diogel.
Rydyn ni'n bobl y Pasg ac Alelwia yw ein cân. Ond dydy hynny ddim yn golygu na fyddwn ni byth yn cael teimladau o ofn a diffyg ymddiriedaeth, hyd yn oed yn ein heglwys. Rydw i wedi cael sgyrsiau dros y 6 mis diwethaf gyda nifer o grwpiau ac unigolion sy'n bryderus, yn ofnus, ac yn ansicr o'u dyfodol yn ein heglwys. Maen nhw’n bryderus nad yw eu presenoldeb yn cael ei dderbyn yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n nhw ofni cael eu hallgáu neu eu hallgáu ymhellach o fywyd a gweinidogaeth yr eglwys. Maen nhw’n ansicr beth fydd eu sefyllfa mewn 12 mis. Ac er mwyn bod yn glir, cafwyd y sgyrsiau hyn gyda phobl o begynau catholig ac efengylaidd y sbectrwm eglwysig. Yr hyn a’m calonogodd oedd eu bod yn teimlo y gallen nhw ddod i rannu eu hofnau a'u pryderon; y gallen nhw fod yn agored ac yn onest – yn feirniadol, hyd yn oed – am eu profiadau fel clerigion a lleygion. Yr hyn a'm digalonnodd yn fawr oedd clywed mai dyma, yn wir, oedd eu profiad, eu pryder, eu hofn.
Yn llythyr cyntaf Ioan darllenwn fod 'cariad perffaith yn bwrw allan ofn'. (1 Ioan 4:18) Os oes ofn yn ein plith, yna awgrymaf ei fod yno oherwydd nad ydyn ni wedi dysgu caru ein gilydd yn ddigon da. Nad ydyn ni wedi dysgu caru fel y mae Iesu yn ein caru ni. Ac mae'r cariad hwnnw nid yn unig yn ymwneud ag ymddwyn yn garedig ac yn gwrtais i'n gilydd – yn hytrach, mae’n golygu ein bod ni wir yn dymuno’r gorau i'n gilydd; ein bod ni wir eisiau creu eglwys lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw’n ddilys, yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu am bwy ydyn nhw yng Nghrist, ac am y doniau a’i ras a’i drugaredd a geir ynddyn nhw. Un o'r ymrwymiadau a nodir yn Siarter Urddas yr Eglwys yng Nghymru yw ‘hyrwyddo amgylchedd sy’n rhoi gwerth ar wahaniaethau pob unigolyn’. Mae hyn hefyd, fel mae'n digwydd, yn Feiblaidd iawn os ydyn ni’n cymryd y ddelwedd o gorff Crist o ddifrif. Mae Sant Paul yn ein hatgoffa, ‘Ni all y llygad ddweud wrth y llaw, “Nid oes arnaf dy angen di” na’r pen chwaith wrth y traed, “Nid oes arnaf eich angen chwi”. (1Corinthiaid 12:21)
'Carwch eich gilydd fel y cerais i chwi’, meddai Iesu wrthym (Ioan 15:12) Dyma'r gorchymyn newydd a roddodd Iesu i ni y noson cyn iddo gael ei fradychu gan un o'i ffrindiau agosaf, ei adael gan bawb yr oedd wedi treulio ei dair blynedd olaf gyda nhw, a’i wadu gan Pedr, ei Graig, a'i ladd.
Ond dydyn ni ddim yn caru ein gilydd. Yn sicr nid fel y gorchmynnodd Iesu i ni garu. Mae yna duedd i geisio sgorio pwyntiau, ymladd ein rhyfeloedd bach ein hunain, ceisio ein buddiannau ni ein hunain yn hytrach na buddiannau ein chwiorydd a'n brodyr yng Nghrist. Fel y dywedodd rhywun y gwnes i gwblhau ei Adolygiad o Ddatblygiad yn y Weinidogaeth yn ddiweddar, ‘Mae diffyg hyblygrwydd a’r awydd dwfn i ennill pob dadl yn nodwedd ddinistriol yn yr eglwys rwy’n ei charu...dydw i ddim yn gwybod sut y gallwn fod yn eglwys gynhwysol os ydyn ni ar yr un pryd yn credu ein bod yn hollol iawn ar bob mater diwinyddol. Mae bod yn eglwys gynhwysol yn golygu gorfod cyfaddef i'n gilydd ein bod ni'n ddiffygiol ac mai dim ond Duw sy'n berffaith; y gallwn anghytuno ond parhau i garu ein gilydd; nad oes angen i neb fod y tu allan i gariad Duw.'
'Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad.' (1 Ioan 4:7) Gadewch i ni weithio i feithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth a pharch, y naill tuag at y llall, a fydd, bob yn dipyn, yn bwrw allan yr ofn a'r diffyg ymddiriedaeth sydd rhyngom ac yn ein galluogi i ddysgu yr hyn a olyga i 'garu fel y mae'n ein caru ni'. Oherwydd dim ond wedyn y gallwn dystio i'r byd bŵer trawsnewidiol cariad Duw a dorrodd drwy farwolaeth, drygioni, dioddefaint a phechod y Pasg cyntaf hwnnw.
Oherwydd pŵer trawsnewidiol cariad Duw yw’r hyn sy'n bwysig. Dyna’r hyn y cawn ein galw i'w rannu er mwyn y byd. Dydyn ni ddim yn cyhoeddi ein hunain, fel y mae Sant Paul yn ein hatgoffa mewn llythyr arall. Rydyn ni’n cyhoeddi Iesu Grist yn Arglwydd. Dyna'r trysor sydd wedi'i ymddiried i ni – mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, sef ein dynoliaeth doredig a diffygiol, ‘i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni.' (2 Corinthiaid 4:7) Nid y llestri pridd rydyn ni'n eu cynnig, ond y trysor y tu mewn; nid y gragen allanol sef pwy ydyn ni, ond efengyl gogoniant Crist sydd ar lun a delw Duw; llawenydd y Pasg pan ffrwydrodd Crist o'r bedd; y newyddion da rydyn ni wedi'i dderbyn ac sydd wedi trawsnewid ein bywydau.
Gallwch fod yn sicr o'm gweddïau dros bob un ohonoch chi, a thros eich eglwysi a'ch esgobaethau, ac o'm hymrwymiad o'r newydd i hyrwyddo amgylchedd sy'n anrhydeddu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau pob unigolyn fel y gallwn gyda'n gilydd fod yn gorff Crist a chyflawni cenhadaeth Duw yma yng Nghymru.
Atgyfododd Crist. Atgyfododd yn wir. Alelwia!
Y Parchedicaf Cherry Vann – Archesgob Cymru
The Most Reverend Cherry Vann – Archbishop of Wales