Hafan Digwyddiadau bywyd Priodasau a Bendithio Priodas Y gwasanaeth priodas

Y gwasanaeth priodas

Yn draddodiadol, mae’r briodferch a’r priodfab yn cyrraedd yr eglwys ar wahân – y priodfab sy’n cyrraedd gyntaf gyda’r gwas, ac mae’r briodferch yn cyrraedd erbyn yr amser y trefnwyd i’r gwasanaeth ddechrau, ar fraich ei thad neu berthynas neu ffrind arall. Fodd bynnag, gall gyrraedd ar ei phen ei hun os yw’n dymuno, neu gallai’r pâr gyrraedd gyda’i gilydd.

Bydd y gweinidog yn croesawu’r gynulleidfa, ac yna’n darllen cyflwyniad yn esbonio’r hyn mae Cristnogion yn ei gredu am briodas. Bydd yn gofyn i’r gynulleidfa ac yna’r pâr, a oes unrhyw reswm cyfreithiol na ellir eu priodi.

Yn rhan gyntaf y gwasanaeth, bydd darlleniadau o’r Beibl, ac efallai y bydd y gweinidog yn rhoi anerchiad neu bregeth fer.

Yna, gofynnir i chi wneud eich datganiadau (wedi’u hailadrodd fesul cymal ar ôl y gweinidog) y byddwch chi’n cyd-fyw yn ôl glân ordinhad Duw; yn caru, anrhydeddu ac yn gofalu am eich gilydd, yn glaf ac yn iach; ac y byddwch yn ffyddlon i’ch gilydd hyd y’ch gwahano gan angau. Yna, gan ddal dwylo, rydych chi’n gwneud eich addunedau i uno mewn priodas:

I’th gadw a’th gynnal, O’r dydd hwn ymlaen, Er gwell, er gwaeth, Er cyfoethocach, er tlotach, Yn glaf ac yn iach, I’th garu a’th ymgeleddu, Tra byddwn ni’n dau byw, Yn ôl ewyllys a bwriad Duw. Dyma f’adduned i ti.
Addunedau priodas

Yna gallwch gyfnewid modrwy neu fodrwyau gyda’r geiriau hyn:

Derbyn y Fodrwy hon yn arwydd o’m cariad a’m ffyddlondeb. Anrhydeddaf di a’m corff, A rhannaf fy holl eiddo â thi.
Cyfnewid cylch(au)

Yna, bydd y gweinidog yn datgan eich bod yn ŵr a gwraig ac yn eich bendithio wrth i chi benlinio.

Gweddïo am eich bywyd gyda’ch gilydd yn y dyfodol yw trydedd ran y seremoni.

Pan ddaw’r gwasanaeth i ben, mae’n rhaid i’r briodferch, y priodfab a dau o’r tystion lofnodi’r Gofrestr Priodasau Sifil. Bydd y gweinidog yn rhoi copi o’r dystysgrif briodas i chi. Mae hyn yn cymryd ychydig funudau, ac felly’n aml bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae yn y cyfamser. Dylid trafod y dewis gyda’r gweinidog. Gellir chwarae cerddoriaeth ar yr organ neu ar offeryn(nau) arall, neu gall unawdydd neu gôr ganu’r gerddoriaeth.