Hafan Digwyddiadau bywyd Priodasau a Bendithio Priodas Emynau, caneuon, cerddoriaeth a gweddïau

Emynau, caneuon, cerddoriaeth a gweddïau

Darlleniadau

Cerddoriaeth

Mae’r emynau a’r gerddoriaeth ganlynol ymhlith y rhai a ddewisir amlaf, er mae croeso i chi ddewis cerddoriaeth ac emynau eraill os ydych chi’n dymuno. Cofiwch, os byddwch chi’n cynnwys geiriau neu gerddoriaeth mewn trefn gwasanaeth sy’n cael ei argraffu, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r hawlfraint. Cewch gyngor gan eich gweinidog.

Cerddoriaeth Orymdeithiol pan fydd y Briodferch yn cyrraedd ac ar gyfer diwedd y gwasanaeth
  • The Bridal March (Wagner)
  • The Wedding March (Mendelssohn)
  • Canon (Pachelbel)
  • Jesu, Joy of Man’s Desiring (Bach)
  • Arrival of the Queen of Sheba (Handel)
  • Toccata (Widor)
  • Trumpet Tune (Purcell)
  • Trumpet Voluntary (Clarke)
  • Air from the Water Music (Handel)
  • Hornpipe from the Water Music (Handel)

Emynau

  • Arglwydd pob gobaith ac Arglwydd pob hoen
  • Clyma ni’n un, O Dduw
  • Deisyfwn am dy fendith fawr
  • Dyro gân dan fy mron, gad im foli
  • Dduw Dad, bendithia’r mab a’r ferch
  • F’enaid, mola Dduw’r gogoniant
  • Iôr, gwna fi’n offeryn dy hedd
  • O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn
  • O Arglwydd nef a daear
  • Ti yr hwn sy’n fôr o gariad
  • Tra bo adduned dau
  • Tyrd, Ysbryd cariad mawr