Cwestiynau cyffredin
Mesurau cyfreithiol rhagarweiniol cyn priodi mewn eglwys – dyna yw gostegion (banns). Datganiad ydynt o’ch bwriad i briodi a chyfle i unrhyw un ddatgan rheswm cyfreithiol pam na ellir cynnal y briodas. Darllenir gostegion ym mhrif wasanaeth y Sul yn y plwyf lle mae’r ddau ohonoch chi’n byw yn ogystal ag yn yr eglwys lle byddwch chi’n priodi, os yw honno mewn plwyf arall. Cyhoeddir y gostegion ar dri Sul (olynol fel rheol, ond nid o reidrwydd) yn ystod y ddeuddeng wythnos cyn y briodas.
Os ydych chi’n addoli’n rheolaidd mewn eglwys y tu allan i’r plwyf lle rydych chi’n byw, mae’n bosibl i chi briodi yno fel rheol. Os nad ydych chi’n addoli’n rheolaidd yno, beth am ddechrau mynychu? Fel rheol, bydd disgwyl i chi fynychu gwasanaethau am o leiaf chwe mis cyn y byddwch yn gymwys i briodi mewn eglwys heblaw eich eglwys blwyf.Os ydych chi am briodi mewn plwyf lle nad yw’r un ohonoch chi’n byw neu nad ydych chi’n addoli yno’n rheolaidd, bydd angen i chi gael sgwrs gydag offeiriad y plwyf. Gall parau wneud cais am Drwydded Arbennig Archesgob Caergaint, os oes gan un ohonynt gysylltiad gwirioneddol a hirhoedlog â’r Eglwys maen nhw’n dymuno priodi ynddi. I wneud cais neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â The Faculty Office, 1 The Sanctuary, Westminster, Llundain SW1P 3JT ffôn: 020 7222 5381.
Gallwch! Cofiwch fod naws Gristnogol bendant i seremoni briodasol mewn eglwys a bydd yn tybio eich bod yn derbyn y ddealltwriaeth Gristnogol o briodas.
Mae priodas am oes, ond mae’n ffaith drist bod rhai priodasau’n chwalu. O dan rai amgylchiadau, gall rhywun sydd wedi ysgaru briodi mewn eglwys eto. Os ydych chi’n ystyried priodi mewn eglwys a’ch bod wedi ysgaru, dylech drafod hyn gyda’choffeiriad plwyf. (Gweler mwy am yr hyn rydyn ni’n ei gredu am deuluoedd a pherthnasau.)
Mae costau cyfreithiol priodas yn cynnwys cyhoeddi’r gostegion, y gwasanaeth priodasol a thystysgrif briodas. Bydd costau ychwanegol am gôr, organydd, clochyddion, caniatâd i recordio’r briodas ar fideo ac ati. Trafodwch hyn gyda’ch offeiriad plwyf.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn priodi’n hyderus, gan dybio y bydd y briodas yn para, ond mae cyfran uchel iawn yn gwahanu ac ysgaru, gwaetha’r modd. Efallai y bydd eich priodas yn para blynyddoedd lawer tan i angau’ch gwahanu, felly mae’n gwneud synnwyr, waeth pa mor dda rydych chi’n adnabod eich gilydd, i roi ystyriaeth ddwys i’ch perthynas yn y dyfodol fel gŵr a gwraig. Bydd y rhan fwyaf o eglwysi’n eich gwahodd i baratoi ar gyfer eich bywyd gyda’ch gilydd.
Gallwch. Bydd y gweinidog yn trafod trefniadau’r gwasanaeth gyda chi ac yn eich cynorthwyo i benderfynu ar gerddoriaeth a darlleniadau addas. Efallai y byddwch chi am gynnwys teulu neu ffrindiau yn y gwasanaeth: e.e. trwy ddarllen neu ganu offeryn cerddorol.
Bydd angen i chi ofyn caniatâd yr offeiriad plwyf ac mae gan rai plwyfi bolisi o beidio â chaniatáu recordiadau fideo. Efallai y bydd ffi. Mae materion hawlfraint yn codi hefyd.
Bydd y gweinidog am ymarfer y gwasanaeth gyda chi a’r bobl eraill sy’n cymryd rhan fel bod pawb yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Cynhelir yr ymarfer yn yr eglwys fel rheol, rai dyddiau cyn y gwasanaeth.
Penderfynir ar ddiwrnod ac amser y gwasanaeth ar y cyd â’ch gweinidog, gan ystyried y patrwm arferol o wasanaethau yn yr eglwys. Er enghraifft, os oeddech chi am briodi ddydd Sul, byddai’n rhaid cynnal y briodas ar adeg nad yw’n gwrthdaro â gwasanaethau arferol y Sul a phan mae’r gweinidog ar gael. Yn ôl traddodiad, ni chynhelir priodasau fel arfer yn ystod y Garawys, sef yn ystod y chwe wythnos cyn y Pasg.
Ydy. Gofynnwch i’ch offeiriad plwyf neu’ch gweinidog am hyn. Nid oes angen unrhyw fesurau cyfreithiol rhagarweiniol.
Nid yw gostegion yn bosibl dan yr amgylchiadau hyn, felly bydd angen Trwydded Gyffredin. Bydd eich gweinidog yn eich cynorthwyo i wneud cais am y drwydded hon.
Os yw’r naill neu’r llall yn ddinesydd gwlad y tu allan i Ganada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, yr UE neu’r Unol Daleithiau, byddai’n ddoeth cael llythyr gan y llysgenhadaeth neu swyddfa’r is-gennad briodol yn dweud y bydd y briodas yn cael ei chydnabod yno. Mae’n rhaid i’r briodas fod trwy Drwydded Gyffredin ac nid trwy ostegion.