Hafan Digwyddiadau bywyd Conffyrmasiwn Gwasanaeth Conffyrmasiwn

Gwasanaeth Conffyrmasiwn

Yn y Gwasanaeth Conffyrmasiwn (a gynhelir yng nghyd-destun y Cymun), gofynnir i ymgeiswyr ymateb gyda’i gilydd i gwestiynau y mae’r Esgob yn eu gofyn iddynt:

A ydych yn troi at Grist?
Yr wyf yn troi at Grist

A ydych yn edifarhau am eich pechodau?
Yr wyf yn edifarhau am fy mhechodau

A ydych yn ymwrthod â’r drwg?
Yr wyf yn ymwrthod â’r drwg

A ydych yn credu yn Nuw Dad, Creawdwr pob peth?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Dad

A ydych yn credu yn ei Fab Iesu Grist, Gwaredwr y byd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw Fab

A ydych yn credu yn yr Ysbryd Glân, Rhoddwr bywyd?
Yr wyf yn credu ac yn ymddiried yn Nuw’r Ysbryd Glân

Bydd yr Esgob wedyn yn bedyddio unrhyw ymgeiswyr i gael eu bedyddio.

Yna, bydd yn gweddïo ac yn erfyn ar yr Ysbryd Glân i agosáu at y rhai sy’n cael eu conffyrmio. Bydd wedyn yn arddodi ei ddwylo ar bob ymgeisydd (ac efallai y bydd hefyd yn eneinio pob un gydag olew sanctaidd) ac yn dweud, ‘y mae Duw wedi dy alw a’i wneud yn eiddo iddo’i hun’. Yna mae’n gweddïo:

Cyfnertha, Arglwydd, dy was/wasanaeth-ferch â’th ras nefol, ac eneinia ef/hi â’th Ysbryd Glân; galluoga ef/hi at dy wasanaeth a’i g/chadw yn y bywyd tragwyddol. Amen.
Gweddi

Mae’r gwasanaeth yn parhau ac mae’r ymgeiswyr yn derbyn Cymun Sanctaidd.