Hafan Digwyddiadau bywyd Bedydd Y Gwasanaeth Bedydd

Y Gwasanaeth Bedydd

Cyn bedyddio plentyn (gweler isod), gofynnir i rieni a rhieni bedydd gyfarfod â’r offeiriad neu aelodau’r eglwys leol a fydd yn cynorthwyo gyda’r paratoadau, gan roi esboniadau gofalus am ystyr bedydd ac am gyfrifoldebau rhieni a rhieni bedydd. Gwneir addewidion difrifol yn ystod Bedydd, ac mae’n bwysig bod rhieni a rhieni bedydd yn deall dyfnder ac arwyddocâd yr addewidion hyn. Efallai y bydd cwrs cyfarwyddo arbennig ac awgrym o’r adeg fwyaf addas i gynnal y bedydd. Os cynhelir Conffyrmasiwn Plwyf, efallai yr awgrymir y dylai’r bedydd fod yn rhan o ddathliad ehangach y plwyf, yn enwedig yn ystod Tymor y Pasg.

Pan fydd Bedydd a Chonffyrmasiwn yn cael eu cynnal yn yr un gwasanaeth, yr Esgob sy’n arwain y gwasanaeth. Pan fydd Bedydd yn cael ei gynnal ar ei ben ei hun, un o glerigwyr y plwyf fydd yn arwain.

Mae’r gwasanaeth yn dilyn trefn yr adrannau canlynol:

  • Y DOD YNGHYD Lle croesawir y teulu ac y dywedir wrthynt am lawenydd arbennig yr achlysur, iddyn nhw a’r teulu Cristnogol ehangach.
    • Gofynnir i’r rhieni dderbyn ar ran eu plant y gred bod bedydd yn ein haileni fel plant Duw, yn ein gwneud yn ddilynwyr Crist, yn aelodau o’i gorff, yr Eglwys ac yn etifeddion teyrnas nefoedd.
    • Gofynnir iddynt gynorthwyo eu plentyn i gadw gorchmynion Duw i garu Duw a’u cymydog. Gofynnir iddynt fod yn esiampl o’r ffordd Gristnogol o fyw i’w plant.
    • Gofynnir i rieni bedydd gefnogi rhieni’r plentyn ym mhopeth y ceisiant ei wneud. Gofynnir i’r gynulleidfa groesawu’r plentyn a’i gynnal yn ei fywyd yng Nghrist.
  • Mae CYHOEDDI’R GAIR yn rhoi’r Bedydd yng nghyd-destun y Beibl. Mae gwrando ar air Duw yn y Beibl a myfyrio arno’n ganolog i’r Ffydd Gristnogol.
    • Yn y rhan hon o’r gwasanaeth, rydyn ni’n gwrando ar yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud wrthym am waith achubol Duw trwy Iesu Grist.
  • Mae’r LITWRGI BEDYDD yn gofyn i rieni a rhieni bedydd ymateb i alwad Crist, gan droi at Grist ac edifarhau am eu pechodau ac ymwrthod â drygioni.
    • Yn y rhan hon, gweddïwn y bydd y plentyn sy’n cael ei fedyddio yn cael ei wared rhag drwg a, gyda goleuni a llawenydd, yn cael ei lenwi ag Ysbryd Glân Duw.
    • Gwneir arwydd y Groes ar y plentyn – eiliad hyfryd, lle mae’r Eglwys yn hawlio’r plentyn dros Grist yng ngrym ei gariad a ddangoswyd mor rhyfeddol ar y Groes.
    • Fel ymateb i hyn, gofynnir i’r rhieni a’r Rhieni Bedydd arddel y Ffydd Gristnogol gyda’i gilydd, gan siarad ar ran eu plentyn, gan gadarnhau gyda’r holl deulu Cristnogol Ffydd yr Eglwys mewn Un Duw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân.
    • Mae’r dŵr yn cael ei fendithio gyda geiriau sy’n dwyn i’r cof adegau o rym achubol sy’n gysylltiedig â dŵr yn y Beibl, yn cynnwys bedydd yr Iesu ei hun yn afon yr Iorddonen, a gofynnwn i Dduw eneinio’r plentyn gyda’r Ysbryd Glân a dod â’r plentyn i enedigaeth newydd yn nheulu’r Eglwys.
    • Yna, mae’r plentyn yn cael ei fedyddio gyda dŵr, a gellir ei eneinio gydag olew Crism fel arwydd a sêl yr Ysbryd Glân.
    • Mae cannwyll yn cael ei chynnau i ddangos bod goleuni Crist wedi dod i fywyd y plentyn sydd newydd gael ei fedyddio ac sy’n cael ei gymeradwyo i gerdded yn y goleuni hwn am weddill ei oes, gan ddisgleirio gogoniant Duw allan i’r byd.
  • Y TANGNEFEDD yw’r rhan o’r gwasanaeth lle cynigir tangnefedd Crist i bawb sy’n bresennol.
  • Adroddir GWEDDÏAU ar ran y plentyn sydd newydd gael ei fedyddio a’r rhai sy’n gofalu am y plentyn. Efallai yr adroddir gweddïau ar ran y teulu ehangach, gan roi diolch am y ffydd a’r anogaeth a ddangoswyd i ni yn ystod ein bywydau ein hunain.
  • Mae’r ANFON ALLAN yn cloi’r gwasanaeth gan ymddiried y gall pob un ohonom fyw yn y ffydd, cerdded mewn gobaith a chael ein hadnewyddu mewn cariad nes bod yr holl fyd yn adlewyrchu gogoniant Duw’n llawn.