Dechrau rhoi i'ch eglwys neu'ch plwyf

Os hoffech ddechrau rhoi i'ch eglwys neu'ch plwyf, llenwch y ffurflen isod. Gallwch ddewis lle mae eich rhodd yn mynd, faint i'w roi a pha mor rheolaidd yr hoffech roi.

Mae eich rhoddion yn cefnogi clerigwyr a hyfforddiant ledled Cymru, gweinidogaeth, a ddangosir gan bob person yr ymwelwyd â nhw, pob cwrs i dderbyn rhywun yn aelod a gynhelir, pob gwasanaeth a gymerir, pob teulu mewn galar ac sy’n cael eu cysuro. Mae hefyd yn cefnogi pob bedydd a gynigir; pob pregeth a roddir; pob cymun a ddathlir, a dangosir i bob person gariad Crist trwy ofal, cysur a thosturi.

Gallwch ychwanegu Rhodd Cymorth hefyd drwy dicio'r blwch ar y ffurflen hon. I gael rhagor o wybodaeth am Rodd Cymorth a sut mae'n gweithio, ewch i Cwestiynau Cyffredin Rhoi yn Syth.

Cymerir rhoddion ar y 6ed o bob mis neu ddiwrnod gwaith nesaf.

Os ydych chi'n profi unrhyw broblemau, anfonwch e-bost webmaster@churchinwales.org.uk


Y Warant Debyd Uniongyrchol

  • Cynigir y Warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy'n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol.
  • Os oes unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru (Elusen Gofrestredig rhif 1142813 (y Corff Cynrychiolwyr)) yn rhoi gwybod i chi ddeg diwrnod gwaith cyn i'ch cyfrif gael ei ddebydu neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch yn gofyn i'r Corff Cynrychiolwyr gasglu taliad, rhoddir cadarnhad o'r swm a'r dyddiad i chi adeg y cais.
  • Os bydd y Corff Cynrychiolwyr neu eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud camgymeriad gyda'ch taliad Debyd Uniongyrchol, mae gennych hawl i ad-daliad llawn ac uniongyrchol o'r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu;
    • Os byddwch yn derbyn ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Corff y Cynrychiolwyr yn gofyn i chi wneud hynny.
  • Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni hefyd.

Rhowch eich cyfeiriad, gan gynnwys y dref bost.

Rhaid i hyn fod yn y DU os yw Rhodd Cymorth i gael ei hawlio

Nid oes angen hyn, ond mae'n ddefnyddiol i ni rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi ynglŷn â'ch cais.

Hoffech chi i ni gysylltu â chi yn y Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog?

Hoffech chi i ni gysylltu â chi drwy e-bost, drwy'r post neu'r ddau?

Faint hoffech chi ei roi?

Dechreuwch deipio enw eich buddiolwr a'i ddewis o'r rhestr. Os na fydd y buddiolwr yr hoffech roi iddo yn ymddangos, peidiwch â dewis o'r rhestr ond llenwch y blwch isod.

Cwblhewch y maes hwn os na allwch chi ddod o hyd i'r buddiolwr o'ch dewis yn y rhestr uchod.

Fel arfer, rydym yn cymryd rhoddion unwaith y mis, ond efallai y byddwch chi'n dewis rhodd untro, bob yn ail fis, bob chwarter, ddwywaith y flwyddyn neu'n flynyddol mewn mis o'ch dewis.

Ticiwch y blwch hwn os hoffech chi ychwanegu Rhodd Cymorth at eich rhodd. Rwy'n drethdalwr yn y DU ac rwy'n deall, os ydw i'n talu llai o Dreth Incwm a / neu dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y Rhodd Cymorth a hawlir ar fy holl roddion yn y flwyddyn dreth honno, mai fy nghyfrifoldeb i yw talu unrhyw wahaniaeth.

Ticiwch y blwch hwn os hoffech chi i ni gynyddu eich rhodd yn awtomatig bob blwyddyn yn unol â'r CPI? Nid yw'n berthnasol i roddion untro

Rhowch union enw eich cyfrif fel y'i gwelir ar sieciau neu gerdyn banc.

Rhowch y cod didoli chwe digid (dim cysylltnodau) ar gyfer eich cyfrif banc

Rhowch rif y cyfrif (wyth digid), gan gynnwys unrhyw seroau ar y cychwyn.