Pennod VII: Rheoliadau yn ymwneud â Phersondai
Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Phersondai”, a draethir fel a ganlyn:
- Rhan I: Dehongli
- Rhan II: Bwrdd Persondai’r Esgobaeth
- Rhan III: Galluoedd, Dyletswyddau a Swyddogaethau’r Bwrdd
- Rhan IV: Arolygwyr, Archwiliadau ac Adroddiadau
- Rhan V: Gweithdrefn at Gyflafareddu
- Rhan VI: Plwyfi gwag
- Rhan VII: Tai Diangen a Gwerthu a Gosod
- Rhan VIII: Darpariaethau Cyffredinol yn ymwneud â Phersondai
- Rhan IX: Amodau a Thelerau ynglŷn â Phersondai
Rhan I: Dehongli
1.
Yn y Rheoliadau hyn:
1.1 Y mae cyfeiriadau at grŵp o Blwyfi neu at grwpio Plwyfi yn cynnwys uno neu gyfuno Plwyfi a chreu Bywoliaeth Reithorol.
1.2 Ni bydd dim yn y rheoliadau hyn yn effeithio ar alluoedd a dyletswyddau’r Bwrdd fel y traethir hwy ym Mhennod IV A adran 26.
Rhan II: Bwrdd Persondai’r Esgobaeth
2.
Aelodaeth y Bwrdd
2.1 Bydd y Bwrdd yn ethol Cadeirydd a bydd gan y cadeirydd yr awdurdod i alw cyfarfodydd o’r Bwrdd.
2.2 Llywyddir gan y Cadeirydd, neu yn ei absenoldeb, gan aelod o’r Bwrdd a etholir gan y cyfarfod ac y bydd ganddo ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
2.3 Bydd y Bwrdd, gyda chaniatâd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, yn penodi Ysgrifennydd a fydd, ar gyfarwyddyd y Cadeirydd, yn galw cyfarfodydd ac anfon allan yr agenda ar eu cyfer.
2.4 Bydd yr Ysgrifennydd neu, yn ei absenoldeb, aelod o’r Bwrdd yn cadw cofnod o’r trafodaethau.
2.5 ydd y Bwrdd yn cyfarfod mor aml ag sy’n angenrheidiol a hefyd pan fynnir hynny gan Gorff y Cynrychiolwyr.
2.6 Gyda chymeradwyaeth Corff y Cynrychiolwyr a Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, bydd y Bwrdd yn penderfynu ar ei weithdrefnau ei hun a bydd ganddo’r hawl i weithredu trwy bwyllgorau a phenderfynu pa sawl aelod sy’n gwneud corwm.
2.7 Telir costau gweinyddu angenrheidiol a rhesymol, gan gynnwys cyflogau os bydd angen, o Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth.
2.8 Bydd y Bwrdd yn gwneud adroddiad ysgrifenedig i Gorff y Cynrychiolwyr ac i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth o leiaf unwaith y flwyddyn.
3.
Cyfrifon y Bwrdd
Bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn cadw ar gyfer pob esgobaeth ar wahân Gyfrif Bwrdd Persondai, i’w alw y Cyfrif Bwrdd Persondai, y bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn cyfrannu iddo y swm a benderfyno Corff y Cynrychiolwyr o bryd i’w gilydd drwy reoliad dan y Cynllun Cynnal y Weinidogaeth sydd mewn grym ar y pryd.
Rhan III: Galluoedd, Dyletswyddau a Swyddogaethau’r Bwrdd
4.
Adeiladu, caffael a gwaredu Persondai
4.1 Yn ddarostyngedig i reolaeth Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth a Chorff y Cynrychiolwyr, dyletswydd y Bwrdd fydd cynnal trafodaethau rhagbaratoawl ynglŷn â:
4.1.1 gwerthu Persondy neu safle a gadwyd ar gyfer Persondy;
4.1.2 rhodd neu bryniad o Bersondy neu safle ar gyfer Persondy;
4.1.3 adeiladu Persondy newydd.
4.2 Ni cheir dechrau adeiladu’r un Persondy heb gydsyniad ysgrifenedig y Bwrdd.
4.3 Rhaid cyflwyno’r cynlluniau a’r manylebau ar gyfer Persondai newydd, a phob cyfnewidiad diweddarach i’r cynlluniau hynny, i’r Bwrdd i’w cymeradwyo.
4.4 Ar argymhellion y Bwrdd a Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, gall Corff y Cynrychiolwyr ryddhau arian allan o’r Gronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth, at brynu Persondy neu safle ar gyfer Persondy neu at adeiladu neu ailadeiladu Persondy.
4.5 Tra byddir yn adeiladu neu’n ailadeiladu Persondy, bydd gan yr Arolygwr neu gynrychiolwyr yr Arolygwr hawl i fynd i mewn i’r safle i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r cynlluniau a’r manylebau a gymeradwywyd gan y Bwrdd.
5.
Yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Corff y Cynrychiolwyr:
5.1 Gall y Bwrdd benderfynu fod unrhyw adeilad fferm neu fwthyn neu ddarn o dir sydd o fewn cwrtil Persondy yn peidio â bod yn rhan o’r Persondy; a
5.2 Bydd gan y Bwrdd hawl i orchymyn chwalu’r adeiladau hynny a farno’n ddianghenraid neu eu troi hwy neu ran ohonynt i ddibenion eraill.
6.
Atgyweirio a Gwella Persondai
6.1.1 Bydd y Bwrdd yn gorchymyn gwneud pob gwaith cynnal a chadw a farno’n angenrheidiol, a bydd ganddo’r gallu i orchymyn gwneud gwelliannau ac ychwanegiadau eraill a fydd yn unol ag arfer rheolaeth dda ar stadau.
6.1.2 Telir am atgyweirio a chynnal a chadw allan o Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth, ac am welliannau allan o Gronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth.
6.2 Rhennir yn gyfartal rhwng y Bwrdd a Chorff y Cynrychiolwyr gost atgyweiriadau angenrheidiol i fur neu glawdd terfyn rhwng y Persondy a thir arall sy’n eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr.
6.3 Bydd y Bwrdd o bryd i’w gilydd yn penderfynu’r uchafswm y gall Periglor ei wario ar unrhyw atgyweiriadau brys angenrheidiol a wnaed ganddo/i, ac ad-delir y costau hynny hyd at y swm a benodir gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth ar sail tystysgrif gan yr Arolygwr a gosodir y tâl yn erbyn Cyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth. Rhaid i’r Periglor roi gwybod i’r Arolygwr am bob atgyweiriad o’r fath cyn pen mis wedi cyflawni’r gwaith.
6.4 Bydd Corff y Cynrychiolwyr o bryd i’w gilydd yn rhoi i’r Bwrdd y cyfarwyddiadau hynny a farno yn angenrheidiol at gynnal a chadw ac atgyweirio Persondy yn briodol.
6(a) Darparu Swyddfa Plwyf
Gyda chydsyniad Corff y Cynrychiolwyr gall y Bwrdd darparu swyddfa blwyf mewn unrhyw adeiliadau eraill y mae Corff y Cynrychiolwyr yn berchen arnynt neu’n eu prydlesu pan bernir fod persondy’n anaddas i’w ddefnyddio ac am unrhyw ddarpariaeth felly allan o Gronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth.
7.
Rhannu Persondai
7.1 Gyda chydsyniad Corff y Cynrychiolwyr bydd gan y Bwrdd hawl i rannu Persondy yn ddau neu fwy o dai annedd. Os bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth hefyd yn cytuno, gellir gosod cost y rhannu hwnnw neu ran ohono yn erbyn Cronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth.
7.2 Pan osodir tŷ a ffurfiwyd felly i rywun heblaw un sy’n dal swydd eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru, pennir y rhent gan Gorff y Cynrychiolwyr, ac ychwanegir y rhent a delir at Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth; eithr pan fo’r rhan fwyaf o gost y rhannu wedi’i thalu o ffynonellau heblaw Cronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth, gall Corff y Cynrychiolwyr wneud trefniadau eraill ar gyfer y rhent a delir.
7.3 Pan fo’n ofynnol mai un sy’n dal swydd eglwysig sy’n meddiannu tŷ o’r fath, ni chodir rhent, na chydnabyddiaeth arall, a chymhwysir y Rheoliadau hyn.
7.4 Gan Gorff y Cynrychiolwyr y penderfynir pob mater arall ynglŷn â rhannu Persondy, na threfnwyd yn benodol ar ei gyfer yma.
Rhan IV: Arolygwyr, Archwiliadau ac Adroddiadau
8.
Penodi Arolygwr
Bydd Corff y Cynrychiolwyr ar argymhelliad y Bwrdd yn penodi un neu fwy o Arolygwyr, a gyflogir gan Gorff y Cynrychiolwyr, a daliadaeth y swydd, ei dyletswyddau a’i chyflog wedi’u pennu gan Gorff y Cynrychiolwyr.
9.
Adroddiadau
9.1 Bydd yr Arolygwr yn gwneud arolwg o gyflwr pob Persondy, gan gynnwys ei addurniadau mewnol, pan fo angen, ac o leiaf bob pum mlynedd a chyn gynted ag yr elo’n wag. Bydd yr Arolygwr yn anfon copi o’i adroddiad i’r Periglor.
9.2 Gall Corff y Cynrychiolwyr alw am arolwg arbennig ar unrhyw adeg a bydd yr Arolygwr yn anfon adroddiad ar hynny yn uniongyrchol i Gorff y Cynrychiolwyr; gall yr arolygwr ar unrhyw adeg wneud adroddiad yn uniongyrchol i’r Corff ond bydd hefyd yn anfon copi o’r adroddiad hwnnw i’r Bwrdd.
9.3 Gall y Bwrdd benodi un neu fwy o’i aelodau i fynd gyda’r Arolygwr i wneud arolwg.
9.4 Bydd pob Arolygwr yn anfon i Gorff y Cynrychiolwyr gopi o bob adroddiad a wnaeth ar yr adeg ac yn y modd a orchmynnir gan Gorff y Cynrychiolwyr.
9.5 Bydd yr Arolygwr yn ei adroddiad yn traethu canlyniadau unrhyw fethiant i gydymffurfio â darpariaethau 23.1 Rhan IX a chanlyniadau unrhyw esgeulustod neu ddifrod bwriadol a wnaed neu a oddefwyd i unrhyw ran o’r Persondy gan y Periglor neu unrhyw un o deulu neu dylwyth neu denantiaid y periglor, ynghyd ag amcangyfrif o gost atgyweirio hynny. Bydd yr Arolygwr anfon copi o’r adroddiad i’r Periglor.
10.
10.1 Os bydd y Periglor, cyn pen pythefnos wedi derbyn adroddiad o’r fath, yn hysbysu Ysgrifennydd y Bwrdd mewn ysgrifen ei fod yn gwrthwynebu’r adroddiad ac yn dymuno ymddangos gerbron y Bwrdd, bydd ganddo/ganddi hawl i ymddangos, ac fe’i rhybuddir yn briodol am gyfarfod y Bwrdd lle y trafodir yr adroddiad. Tynnir sylw’r Periglor at y Rheoliad hwn wrth anfon copi o’r adroddiad iddo/iddi.
10.2 Os digwydd bod hysbysiad o wrthwynebiad wedi’i roi, a bod y Periglor yn peidio â dod i gyfarfod y Bwrdd er cael rhybudd priodol amdano, cyfrifir yr hysbysiad o wrthwynebiad yn ddi-rym oni fydd y Bwrdd yn penderfynu’n wahanol.
10.3 Os digwydd bod hysbysiad o wrthwynebiad wedi’i roi, a bod y Periglor, ar ôl cyfarfod â’r Bwrdd, yn methu cytuno, cyflwynir y ddadl i Gyflafareddwr a benodir gan yr Esgob a bydd y weithdrefn at gyflafareddu fel y traethir hi yn Rhan V.
10.4 Onid anfonir rhybudd o’r fath, cyfrifir bod y Periglor yn derbyn yr adroddiad. Os bydd y Periglor yn byw yn y Persondy, bydd yn gyfrifol am wneud yr atgyweiriadau a enwir yn adroddiad yr Arolygwr i fodlonrwydd y Bwrdd cyn pen tri mis o ddyddiad yr adroddiad. Os bydd y Periglor yn methu gwneud hynny bydd gan y Bwrdd y gallu i beri gwneud y gwaith neu’r rhan ohono a farno’r Bwrdd yn gymwys; a bydd cost hynny’n ddyled ar y Periglor i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth a gellir ei gosod yn erbyn unrhyw swm sydd neu a fydd yn ddyled ar y Bwrdd i’r Periglor.
10.5 Ym mhob amgylchiad arall bydd gan y Bwrdd y gallu i beri gwneud y gwaith neu’r rhan ohono a farno’r Bwrdd yn gymwys, a gosodir y gost yn erbyn Cyfrif y Bwrdd Persondai. Bydd y gost honno’n ddyled ar y Periglor i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, a gellir ei gosod yn erbyn unrhyw swm sydd neu a fydd yn ddyled ar Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth i’r Periglor; a thelir y swm a geir felly i Gyfrif y Bwrdd Persondai.
Rhan V: Gweithdrefn at Gyflafareddu
11.
11.1 Bydd y Cyflafareddydd yn rhoi cyfle i’r pleidiau draethu eu hachos ac i ymddangos ger ei f/bron os dymunant, ond ar wahân i hynny bydd yn penderfynu ym mha fodd a thrwy ba weithdrefn y torrir y ddadl.
11.2 Yn ddarostyngedig i’r paragraff nesaf, bydd dyfarniad y Cyflafareddydd yn derfynol a bydd ganddo/ganddi y gallu i benderfynu sut a chan bwy y telir treuliau’r cyflafareddu a’r dyfarnu.
11.3 Gall y neb sy’n anfodlon ar ddyfarniad Cyflafareddydd ynglyˆn â threuliau apelio at Ganghellor yr esgobaeth, a bydd dyfarniad y canghellor ar y mater yn derfynol.
11.4 Bydd pob swm y cytuna’r Periglor i’w dalu neu y dyfernir i’r Periglor ei dalu yn ddyled ar y periglor i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, a gellir ei osod yn erbyn unrhyw swm sy’n ddyled neu a ddaw’n ddyled ar y Bwrdd i’r Periglor.
Rhan VI: Plwyfi Gwag
12.
12.1 Tra bo perigloriaeth, neu bersondy mewn perigloriaeth a ataliwyd, yn wag, y Deon Bro a’r Wardeniaid fydd gwarcheidwaid y Persondy, a hwy a fydd yn gyfrifol am ofalu amdano, ac eithrio i’r dibenion hynny sy’n gyfrifoldeb Bwrdd y Persondai.
12.2 Bydd y gwarcheidwaid yn gwneud trefniadau i rwystro tresbasu; yn gofalu bod y prif gyflenwadau dŵr, nwy, a thrydan wedi’u hatal; bod y dŵr wedi’i dynnu o’r tanciau a’r pibelli ar dywydd rhewllyd; bod cafnau a phibelli carthu wedi’u cadw’n glir; bod awyru’r tŷ o bryd i’w gilydd, a bod y gwres canolog yn cael ei gynnau’n rheolaidd; ac yn gwneud a ellir i rwystro i’r ardd fynd yn anialwch.
12.3 I’r dibenion hynny bydd gan y gwarcheidwaid awdurdod i dalu treuliau rhesymol, gan wario’r swm wythnosol y bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn ei benderfynu o bryd i’w gilydd ar gyfartaledd dros y cyfnod y bydd y tŷ’n wag.
12.4 Bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn ad-dalu’r swm a wariwyd pan gaiff gan y gwarcheidwaid ddatganiad o’r cyfrifon gyda derbynebau am daliadau a wnaed, a rhoddir y swm a ad-dalwyd yn erbyn Cyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth dan sylw.
12.5 Ni fydd y gwarcheidwaid yn gyfrifol am unioni canlyniadau unrhyw fethiant gan y cyn-Beriglor i gydymffurfio â gofynion paragraff 23.1 Rhan IX (sef cadw tu mewn y tŷ mewn cyflwr addurniadol da) nac am ganlyniadau unrhyw esgeulustod ar ran y periglor na thylwyth na theulu’r periglor nac am ddifrod bwriadol a wnaed neu a oddefwyd gan y periglor i unrhyw ran o’r Persondy.
12.6 Os gwneir niwed i’r Persondy gan storm neu ryw achos arall, bydd yn ddyletswydd ar y gwarcheidwaid i roi gwybod i Arolygwr yr esgobaeth ar unwaith.
Rhan VII: Tai Diangen a Gwerthu a Gosod
13.
Pan fo tŷ yn peidio â bod yn dŷ y mae gofyn iddo gael ei feddiannu gan Beriglor, y mae’n peidio â bod yn Bersondy ac y mae’r Bwrdd Persondai’n peidio â bod yn gyfrifol am ei gadwraeth, ac eithrio fel y darperir yma rhag llaw.
14.
Tai Diangen a Thai Gwag
14.1 Os oes tŷ o fewn Plwyf neu grŵp o Blwyfi nad oes gofyn i’r Periglor breswylio ynddo, cyfrifir y tŷ hwnnw’n ddiangen.
14.2 Bydd y Bwrdd yn argymell ar unwaith a ddylid gwerthu’r tŷ ai ynteu ei osod. Os cymeradwyir yr argymhelliad gan Gorff y Cynrychiolwyr neu’r pwyllgor addas ohono, bydd y Bwrdd yn cyfarwyddo priswyr proffesiynol i gyflwyno adroddiad i ystyriaeth Corff y Cynrychiolwyr neu’r pwyllgor addas ohono, a fydd yn penderfynu beth a wneir.
14.3 Wrth ddisgwyl gwerthu neu osod tŷ diangen, Periglor y Plwyf (os bydd Periglor) a’r Wardeniaid y Plwyf lle y mae’r tŷ fydd gwarcheidwaid yr eiddo.
14.4.1 Bydd y gwarcheidwaid yn gwneud trefniadau i rwystro tresbasu; yn gofalu bod y prif gyflenwadau dŵr, nwy, a thrydan wedi’u hatal; bod y dŵr wedi’i dynnu o’r tanciau a’r pibelli ar dywydd rhewllyd; bod cafnau a phibelli carthu wedi’u cadw’n glir; bod awyru’r tŷ o bryd i’w gilydd, a bod y gwres canolog yn cael ei gynnau’n rheolaidd; ac yn gwneud a ellir i rwystro i’r ardd fynd yn anialwch.
14.4.2 I’r dibenion hynny bydd ganddynt awdurdod i dalu treuliau rhesymol, gan wario’r swm wythnosol y bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn ei benderfynu o bryd i’w gilydd ar gyfartaledd dros y cyfnod y bydd y tŷ’n wag.
14.4.3 Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn ad-dalu’r swm a wariwyd pan gaiff gan y gwarcheidwaid ddatganiad o’r cyfrifon gyda derbynebau am daliadau a wnaed, a rhoddir y swm a ad-dalwyd yn erbyn Cyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth dan sylw.
14.4.4 Os gwneir niwed i’r eiddo gan storm neu ryw achos arall, bydd yn ddyletswydd ar y gwarcheidwaid i roi gwybod i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr ar unwaith.
15.
Gosod Persondai
Pan fo Corff y Cynrychiolwyr ar argymhelliad y Bwrdd yn gosod Persondy, a’r tenant heb fod yn gyfrifol am atgyweiriadau allanol dan amodau’r gosod, bydd y Bwrdd yn parhau i fod yn gyfrifol am yr atgyweiriadau hynny, a pharheir i dalu’r cyfraniadau priodol i gyfrif y Bwrdd Persondai.
16.
Gwerthu a Gosod Persondai
16.1 Credydir i Gronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth y derbyniadau o werthu Persondy a aeth yn ddiangen oherwydd grwpio plwyfi. Os ad-drefnir y grŵp hwnnw o blwyfi mewn rhyw fodd sy’n peri fod angen Persondy newydd yn lle un a werthwyd, cyfrifir fod cyfran briodol o’i gost i’w gosod yn erbyn yr adnoddau sydd ar gael yng Nghronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth.
16.2 Pan osodir Persondy gan Gorff y Cynrychiolwyr credydir y derbyniadau clir o’r gosod i Gronfa Bwrdd Persondai’r Esgobaeth.
17.
17.1 Gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth argymell ad-dalu cyfraniad y plwyf at gost gosod gwres canolog mewn Persondy, os:
17.1.1 cyhoeddir y Persondy’n ddiangen a’i werthu o fewn pum mlynedd i’r gosod; a
17.1.2 bod y derbyniadau o’r gwerthiant i’w credydu i Gronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth.
17.2 Uchafswm yr ad-daliad fydd cyfraniad y plwyf wedi ei leihau yn ôl 20 y cant am bob blwyddyn gyfan ers y gosod.
18.
Gwarcheidwaid cyn-Bersondai
18.1 Os ceir Persondy newydd ac nad yw’r cyn-Bersondy wedi’i werthu na’i osod cyn hynny, y Periglor a’r Wardeniaid fydd gwarcheidwaid y cyn-Bersondy, a byddant yn cyflawni’r dyletswyddau a ddisgrifir yn Rheoliad 14.4.
18.2 Bydd gan y gwarcheidwaid hawl i ad-daliad o’r treuliau rhesymol, heb fod yn fwy na’r cyfryw raddfa wythnosol y bydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn ei phenderfynu o bryd i’w gilydd, dros y cyfnod hyd ddyddiad gwerthu neu osod y cyn-Bersondy.
18.3 Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr hawl i gael y swm a ad-delir felly yn ôl o’r hyn a geir drwy werthu neu osod y cyn-bersondy.
18.4 Os gwneir difrod i’r cyn-Bersondy gan storm neu ryw achos arall, bydd yn ddyletswydd ar y gwarcheidwaid i roi gwybod i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr ar unwaith.
19.
Tai Gwag
19.1 Os bydd Periglor yn gadael Persondy’n wag mewn ufudd-dod i rybudd i ymadael a roddwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr dan baragraff 24 Rhan IX, ac y penderfynir ar argymhelliad y Bwrdd a Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth fod gwerthu neu chwalu’r tŷ bydd y tŷ’n peidio â bod yn Bersondy yn ystyr Pennod VII, a bydd y Bwrdd ar hynny yn peidio â bod yn gyfrifol am ei gynnal, megis o’r dydd y gadawyd ef yn wag.
19.2 Os rhoddir rhybudd i ymadael er mwyn galluogi cyflawni cynllun o ailadeiladu sylweddol, bydd cyfrifoldeb y Bwrdd yn parhau, ac yn ystod y cyfnod nad yw’r tŷ ar gael i breswylio ynddo parheir i dalu cyfraniadau Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth a Chorff y Cynrychiolwyr.
Rhan VIII: Darpariaethau Cyffredinol yn ymwneud â Phersondai
20.
Meddiannu Persondy
20.1 Pan grwpir Plwyfi dan un Periglor, bydd Esgob yr esgobaeth yn penderfynu, ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd, pa un o’r tai o fewn y grŵp fydd y Persondy y bydd gofyn i’r Periglor breswylio ynddo. Bydd yn ddyletswydd ar Gofrestrydd yr Esgobaeth i hysbysu’r Bwrdd a Chorff y Cynrychiolwyr ar unwaith o benderfyniad yr Esgob.
20.2 Bydd yr Esgob hefyd yn penderfynu, ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd, a oes tŷ o fewn y grŵp y dylid bod gofyn i gurad cynorthwyol neu rywun sy’n dal swydd eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru breswylio ynddo. Os bydd yr Esgob yn penderfynu hynny am ryw dŷ, bydd yn ddyletswydd ar Gofrestrydd yr Esgobaeth i hysbysu’r Bwrdd a Chorff y Cynrychiolwyr ar unwaith o benderfyniad yr Esgob.
Rhan IX: Amodau Meddiannu Persondai
21.
Pan fo gofyn i Beriglor breswylio mewn Persondy, bydd yn ei ddal heb dalu rhent na chydnabyddiaeth ar yr amodau a ganlyn.
22.
Ardrethi, Trethi a Threuliau
Y Periglor fydd yn talu pob ardreth, tâl, treth a’r holl dreuliau ynglŷn â’r feddiannaeth o’r Persondy, ac eithrio’r Dreth Cyngor a phremiymau yswiriant adeiladau.
23.
Cynnal a Chadw’r Persondy
23.1 Y Periglor fydd yn gyfrifol am addurniadau mewnol y Persondy, a bydd yn cadw a chynnal y rhan fewnol mewn cyflwr addurniadol da i fodlonrwydd y Bwrdd, ac wrth benderfynu maint y cyfrifoldeb bydd y Bwrdd yn cymryd i ystyriaeth oed a maint y Persondy. Golyga addurno mewnol beintio, papuro, lliwio a gwyngalchu, a bydd yn cynnwys peintio’r holl waith coed mewnol y mae’n arferol ei beintio. Pan fydd Periglor newydd yn cymryd meddiant o’r Persondy, bydd yr Arolygwr yn gwneud cofnod cyffredinol o addurniad mewnol y tŷ i gyfeirio ato yn y dyfodol, a bydd yn anfon copi o’r cofnod hwnnw i’r Periglor newydd.
23.2 Bydd y Periglor yn gyfrifol am ganlyniadau unrhyw esgeulustod o’r eiddo, ac am esgeulustod gan unrhyw un o dylwyth neu deulu neu denantiaid y Periglor, ac am ddifrod bwriadol a wnaeth neu a oddefodd i unrhyw ran o’r Persondy.
23.3 Bydd y Periglor yn gyfrifol am gadw mewn cyflwr da unrhyw glawdd sy’n rhan o’r Persondy neu yn perthyn iddo, ond bydd gan y Bwrdd y gallu i wneud grant at gost hynny o Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth. Ni chaiff y Periglor gwympo unrhyw goeden heb ganiatâd ysgrifenedig yr Archddiacon neu’r Arolygwr.
23.4 Ni bydd y Periglor yn gwneud unrhyw gyfnewidiad saernïol nac yn ychwanegu dim at y Persondy na’i ffitiadau parhaol heb ganiatâd y Bwrdd.
23.5 Bydd y Periglor yn caniatáu i Gorff y Cynrychiolwyr, y Bwrdd, a’r Arolygwyr, yr ymgymerwyr, y gweision, yr asiantwyr a’r gweithwyr a awdurdodir ganddynt, fynd i mewn i’r Persondy ar unrhyw bryd ar ôl rhybudd rhesymol i edrych cyflwr cyffredinol y Persondy, ac i atgyweirio a gwneud amcangyfrifon ar gyfer atgyweirio.
23.6 Penderfynir unrhyw ddadl ynglŷn ag offer sefydlog gan gyflafareddwr y cytunir arno gan y pleidiau, gan gynnwys Corff y Cynrychiolwyr ac, oni bydd cytundeb, penodir cyflafareddwr gan yr Esgob, a chymhwysir Rheoliad 11 at gyflafareddwr o’r fath.
23.7 Ni chaniateir cynnal arwerthiant dodrefn mewn Persondy.
Meddiannu
24.
24.1 Ni chaiff y Periglor osod y Persondy na’i ollwng o’i feddiant; ac ni chaiff osod rhan ohono na’i gollwng o’i feddiant, ond gyda chydsyniad ysgrifenedig Corff y Cynrychiolwyr.
24.2 Bydd y Periglor yn traddodi meddiant y Persondy i Gorff y Cynrychiolwyr:
24.2.1 pan ddaw’r berigloriaeth i ben;
24.2.2 ar ddiwedd rhybudd i ymadael o ddau fis a roddwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr ar unrhyw bryd; neu
24.2.3 ar ddiwedd rhybudd o bedwar diwrnod ar ddeg a roddwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr os bydd y Periglor yn methu neu’n esgeuluso cadw neu gyflawni unrhyw amod y mae’n dal y Persondy dani, a’r rhybudd yn mynegi mai ar y tir hwnnw y’i rhoddir.
25.
Yn ddarostyngedig i’r hyn a ddarperir yn nes ymlaen yma, cyfeirir i Esgob yr esgobaeth lle y mae’r Persondy unrhyw ddadl rhwng Corff y Cynrychiolwyr a’r Periglor ynglŷn â hawl Corff y Cynrychiolwyr i roi rhybudd ar y tir bod y Periglor wedi methu neu esgeuluso cyflawni unrhyw un o’r amodau y mae’n dal y Persondy danynt, a bydd dyfarniad yr Esgob yn derfynol, a bydd ganddo’r gallu i estyn yr amser a roddir at ollwng meddiant, ond i’r dyddiad ar gyfer gollwng meddiant beidio â bod yn ddiweddarach na thri mis wedi cyflwyno’r rhybudd i ymadael.
26.
Os bydd y Periglor yn methu neu’n esgeuluso traddodi meddiant y Persondy i Gorff y Cynrychiolwyr yn unol â’r darpariaethau a gynhwyswyd eisoes yma, gall Corff y Cynrychiolwyr adfeddiannu’r Persondy a symud oddi yno unrhyw beth sy’n eiddo i’r Periglor.
27.
Os bydd Periglor yn marw tra bo’n preswylio yn y Persondy, goddefir i’w gynrychiolwyr cyfreithiol personol ganiatáu i weddw neu riant neu chwaer neu blant y Periglor ddal meddiant ar y Persondy am ddau fis calendr wedi marwolaeth y Periglor, ar yr amod fod y cynrychiolwyr hyn yn cyflawni’r amodau a fyddai’n rhwymo’r Periglor petai fyw; ac os bydd y cynrychiolwyr yn gwneud cais am estyn y cyfnod bydd gan yr Esgob hawl i’w estyn am gyfnod heb fod yn fwy na mis. Torrir unrhyw ddadl rhwng Corff y Cynrychiolwyr a’r cynrychiolwyr hynny ynglŷn â meddiant ar y Persondy gan Esgob yr esgobaeth; a bydd dyfarniad yr esgob yn derfynol. Os digwydd na roddir unrhyw ganiatâd gan y cynrychiolwyr cyfreithiol personol, neu bod rhywun nad yw’n berthynas yn byw yn y Persondy adeg marw’r Periglor, gall yr Esgob, neu’r Archddiacon os rhoddwyd hawl iddo gan yr Esgob i weithredu ar y cyfryw fater, ganiatáu i’r personau hynny neu unrhyw rai ohonynt ddal meddiant ar y persondy am gyfnod hyd at ddau fis calendr; ac os bydd unrhyw un o’r personau hynny yn gwneud cais am estyn y cyfnod, bydd gan yr Esgob hawl i’w estyn am gyfnod heb fod yn fwy na mis.