English
1.

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, bydd trefniadau tiriogaethol presennol y gwahanol Esgobaethau dan eu gwahanol Esgobion Cadeiriol, a’r gwahanol fröydd a Phlwyfi a Grwpiau o Blwyfi dan y gwahanol bersonau eglwysig sy’n gofalu amdanynt, yn parhau fel y maent ar hyn o bryd.

2.

Gall Esgob unrhyw Esgobaeth, gyda chaniatâd Cynhadledd ei Esgobaeth, wneud unrhyw newid a farno’n briodol i drefniant tiriogaethol ei esgobaeth.

3.

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 2, bydd Cynhadledd yr Esgobaeth, neu ei Phwyllgor Sefydlog os awdurdodwyd ef i hynny gan y Gynhadledd, yn cydweithredu â’r Esgob:

(a) i newid ffiniau unrhyw Blwyf;

(b) i ddaduno Plwyf unedig;

(c) i dynnu ymaith ddarn neu ddarnau o unrhyw blwyf a chorffori’r cyfryw mewn Plwyf cyffiniol;

(d) i droi rhan o fywoliaeth neu Blwyf, neu rannau o fwy nag un fywoliaeth neu Blwyf, yn fywoliaeth neu Blwyf ar wahân;

(e) i gasglu mwy nag un fywoliaeth neu Blwyf dan un Periglor;

(f) i ad-drefnu neu ddatod cyfuniadau o Blwyfi a fu neu sydd yn awr neu a fydd rhag llaw wedi’u cyfuno dan un Periglor;

(g) i uno neu gyfuno, yn barhaol neu dros dro, ddau neu fwy o blwyfi yn un Plwyf;

(h) i grwpio eglwys heb ardal ag unrhyw Blwyf (lle y dymunir hynny gan y clerigion-mewn-gofal o’r eglwysi);

(i) i osod unrhyw eglwys sydd heb ardal i fod yn eglwys neu gapel mewn bywoliaeth neu Blwyf; neu

(j) i ffurfio unrhyw ardal (boed yn un neu ragor o Blwyfi neu rannau o’r cyfryw) yn blwyf a fydd i’w adnabod fel Bywoliaeth Reithorol neu i ad-drefnu neu newid neu ddiddymu Bywoliaeth Reithorol;

ac eithrio na wneir byth unrhyw newid i ffiniau presennol Plwyfi nac unrhyw newid i unrhyw grŵp o Blwyfi, os golyga’r newid gostau ychwanegol, heb ganiatâd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth.

4.
  1. Gwneir unrhyw newid i drefniadau tiriogaethol presennol yr Esgobaeth trwy Orchymyn, na ddaw i rym nes ei arwyddo gan yr Esgob a’i osod yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth.
  2. Yn ddarostyngedig i is-adran (3), bydd gorchymyn o’r fath yn gwneud darpariaethau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynglŷn â:
    (a) yr hawl i ddefnyddio eglwys y Plwyf a phob eglwys arall yn yr ardal;
    (b) pa eglwys, mewn Plwyf a ffurfir trwy uno neu gyfuno dau neu ragor o Blwyfi, fydd eglwys y plwyf neu eglwysi’r plwyf;
    (c) bedyddio, priodi, a chladdu;
    (d) y modd yr etholir cynrychiolwyr lleyg, os bydd rhai, i Gynhadledd y Ddeoniaeth;
    (e) beth sydd i’w wneud ynglŷn â rhol yr etholwyr, y Festri a chyfarfodydd eraill, Wardeniaid eglwys, Ystlyswyr, a’r Cyngor Plwyf Eglwysig; a
    (f) gyda golwg ar grwpio Plwyfi, neu ad-drefnu neu ddiddymu grŵp, pa un o’r tai yn y grŵp fydd y persondy y disgwylir i’r Periglor fyw ynddo yn unol â Rhan VIII Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud a Phersondai.
    Ni bydd y gorchymyn yn ddilys heb y ddarpariaeth a’r cyfarwyddiadau hyn.
  3. Yn achos gorchymyn a fydd yn ffurfio neu ad-drefnu neu newid Bywoliaeth Reithorol, bydd gorchymyn o’r fath, yn ychwanegol at y materion a draethir yn is-adran (2), yn gwneud darpariaethau ac yn rhoi cyfarwyddiadau ynglyn ag:
    (a) awdurdod y Ficer, a’r swyddi, y dyletswyddau a’r gwasanaethau i’w cyflawni ganddo, yn cynnwys dyletswyddau neu gyfrifoldebau arbennig neu hebddynt;
    (b) cyfarfodydd rhwng y Rheithor a’r Ficer neu’r Ficeriaid, mewn cabidwl neu fel arall;
    (c) hawliau’r Rheithor a’r Ficer neu’r Ficeriaid ynglŷn ag offrymau Pasg a thaliadau gwenwisg a thaliadau eraill;
    (d) os bydd Bywoliaeth Reithorol yn cynnwys mwy nag un Plwyf, y materion y darperir ar eu cyfer yn adran 4(2), mutatis mutandis; a
    (e) y materion eraill hynny a farno’r Esgob yn angenrheidiol.
    Ni bydd y gorchymyn yn ddilys heb y ddarpariaeth a’r cyfarwyddiadau hyn.
5.

Bydd gan Gynhadledd yr Esgobaeth y gallu i wneud rheolau at gyflawni pob un o’r newidiadau a wneir dan yr adrannau blaenorol.