Telerau Gwasanaeth
Y Datganiad hwn
Cyflwynir y Datganiad hwn yn unol â Chanon Telerau Gwasanaeth Clerigion 2010. Rheolir amodau a thelerau eich penodiad ar gyfer gwasanaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru gan:
- Y Datganiad hwn
- Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
- Canllawiau Gweinidogaethol Proffesiynol
- Y Disgrifiad Swydd
Gellir diwygio telerau’r Datganiad hwn yn unol â Chanon Telerau Gwasanaeth Clerigion 2010 a bydd yn cael ei addasu i adlewyrchu penodiadau unigol.
Gweinidogion digyflog
Mae hawl gan Glerig nad yw’n derbyn cyflog i gael yr un amodau a thelerau â Gweinidogion Cyflogedig, ac eithrio lle y penodir yn wahanol yn y Datganiad hwn ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r penodiad.
Penodiadau rhan-amser
Mae hawl gan Glerig rhan-amser i gael yr un amodau a thelerau â’r rhai a benodir i wasanaeth llawn amser ar sail pro rata, fel y darperir yn y Datganiad hwn ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r penodiad.
Curadiaid cynorthwyol dan hyfforddiant
Mae’r amodau a’r telerau a amlinellir yn y Datganiad hwn yn berthnasol i guradiaid cynorthwyol yn yr Eglwys yng Nghymru, yn ogystal â’r trefniadau penodol a bennwyd gan Gynllun yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer Cychwyn Gweinidogaeth Gyhoeddus.
Cyflog
Adolygir lefelau isafswm cyflog bob blwyddyn ar 1 Ionawr gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru (“Corff y Cynrychiolwyr”) ac fe’u nodir yn y Cyfansoddiad.
Telir cyflog bob mis calendr trwy drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif personol, a dylid cyflwyno manylion y cyfrif i Gorff y Cynrychiolwyr. Cyfrifoldeb y Clerig yw gwirio’r datganiad cyflog eitemedig a rhoi gwybod i Gorff y Cynrychiolwyr os oes unrhyw wall posibl cyn pen chwe mis i ddyddiad y datganiad cyflog eitemedig sy’n cynnwys y gwall. Os na thalwyd digon o gyflog, dylid unioni hynny cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Os talwyd gormod o gyflog, byddwn yn adennill yr arian trwy ddidynnu’r swm o’r cyflog dros yr un cyfnod ag y bu gordaliad.
Mae’r Clerig drwy hyn yn caniatáu i Gorff y Cynrychiolwyr ddidynnu unrhyw symiau o’r cyflog sy’n ddyledus i Gorff y Cynrychiolwyr.
Llety
Darperir llety i’r Clerig yn ystod ei gyfnod yn y swydd oni chytunwyd fel arall gyda’r Esgob. Bydd y Clerig yn ddeiliad gwasanaeth ac nid yn denant yn y llety dan sylw. Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn trefnu i dalu unrhyw Dreth Gyngor. Nodir telerau a rhwymedigaethau deiliadaeth ym Mhennod VII y Cyfansoddiad. Os nad yw’n derbyn cyflog, nid oes rhwymedigaeth ar y clerig i fyw mewn persondy oni chytunwyd ar hynny’n benodol gyda’r Esgob.
Ymddeol
Gall Clerig ddal swydd tan ei fod yn 70 oed fel arfer.
Pensiwn
Gall Clerig sy’n derbyn cyflog ymuno â Chynllun Pensiwn Clerigion yr Eglwys yng Nghymru (heb ei gontractio allan) neu barhau yn y cynllun. Nodir darpariaethau’r Cynllun yn y Cyfansoddiad ac yn yr Arweiniad i Gynllun Pensiwn yr Eglwys yng Nghymru.
Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith ac Oriau Gwaith
Nid yw’r terfynau uchaf, a nodir yn y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith, yn berthnasol i ‘rai â phwerau annibynnol i wneud penderfyniadau na ellir mesur neu ragbennu eu horiau gwaith, neu rai a all bennu eu horiau gwaith eu hunain’. Mae Clerigion yn perthyn i’r categori hwn.
Dylai Clerig sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a bod yr wythnos waith arferol yn cynnwys un diwrnod rhydd rheolaidd o bedair awr ar hugain. Dylai Clerig drefnu ei ddiwrnod gwaith fel bod ganddo/ganddi amser rhesymol ar gyfer seibiant a hamdden.
Gwyliau
Mae gan Glerig hawl i gael pedair wythnos o wyliau’r flwyddyn, gan gynnwys pedwar dydd Sul y flwyddyn a’r Gwyliau Banc hynny nad ydynt yn cyd-daro â Dydd Nadolig a Gwener y Groglith. Hefyd, mae gan Glerig yr hawl i gael dau gyfnod o chwe diwrnod o wyliau i’w cymryd wedi’r Nadolig a’r Pasg. Rhaid i’r Clerig drefnu staff cyflenwi ar gyfer y nifer arferol o wasanaethau dros y gwyliau. Os bydd unrhyw anawsterau, dylid gofyn am gyngor gan y Deon Ardal a/neu’r Archddiacon. Ni ellir cymryd gwyliau blynyddol yn ystod y prif wyliau Cristnogol sef Dydd Nadolig, Gwener y Groglith neu Sul y Pasg. Rhaid hysbysu’r Deon Ardal am bob gwyliau.
Mae’r flwyddyn wyliau yn para rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr. Bydd Clerig a benodir yn ystod y flwyddyn hon yn cael hawlio cyfran gronedig o’r hawl gwyliau. Ni cheir cario unrhyw wyliau drosodd i’r flwyddyn wyliau nesaf heb ganiatâd yr Archddiacon.
Mae gan Glerig digyflog hawl i gael hyd at bedwar Sul y flwyddyn i ffwrdd gan gynnwys Gwyliau’r Banc fel uchod, a chyfnodau eraill y cytunwyd arnynt mewn achosion unigol – gan ystyried dyletswyddau unrhyw swydd gyflogedig neu benodiad penodol y Clerig dan sylw, ac anghenion y swydd fel Clerig.
Absenoldeb Sabothol
Gall Esgob yr Esgobaeth ganiatáu absenoldeb sabothol i’r clerig yn unol â Chynllun Mainc yr Esgobion ar Absenoldeb Sabothol.
Hyfforddiant ac Enciliad
Rhaid i Glerig fod yn ymwybodol o’r materion diweddaraf sy’n effeithio ar y weinidogaeth a chymryd rhan mewn Datblygiad Gweinidogaethol Parhaus a chyrsiau hyfforddi a mynychu Ysgolion i Glerigion a Chyfarfodydd Cabidylau, cyn belled â’u bod, yn achos Clerigion digyflog, yn cael eu cynnal ar adegau sy’n addas i ddyletswyddau unrhyw waith cyflogedig neu benodiad y Clerig hwnnw.
Gofynnir i Glerig adolygu a diweddaru ei weinidogaeth (er enghraifft trwy enciliadau a chynadleddau). Anogir Clerig i dreulio hyd at bum niwrnod ar encil blynyddol (dydd Llun i ddydd Gwener). Dylid cael caniatâd Esgob yr Esgobaeth yn gyntaf cyn cael cyfnod absenoldeb o fwy na phum niwrnod. Dylai’r Clerig drefnu cymorth cyflenwi ar gyfer yr ystod arferol o wasanaethau yn ystod absenoldebau o’r fath.
Darpariaethau Absenoldeb Arbennig
Ceir darpariaeth ar gyfer cyfnod absenoldeb arbennig sy’n adlewyrchu’r ddarpariaeth statudol ar gyfer y canlynol yn unig:
- Absenoldeb a Thâl Mamolaeth
- Absenoldeb a Thâl Rhiant
- Absenoldeb a Thâl Mabwysiad
- Absenoldeb mewn Argyfwng
- Absenoldeb ar sail Dosturiol
- Dyletswyddau Statudol e.e. gwasanaeth rheithgor
Mae’r trefniadau absenoldeb arbennig hyn yn berthnasol i Glerigion digyflog hefyd, ar wahân i’r ddarpariaeth yn ymwneud â thâl.
Treuliau
Y Cyngor Plwyf Eglwysig sy’n gyfrifol am dreuliau Clerig wrth gyflawni dyletswyddau’r plwyf, ac am gynnal adolygiad blynyddol o’r treuliau hyn. Mae manylion y gweithdrefnau i’w mabwysiadu yn ogystal â’r cyfraddau a argymhellir i’w gweld yn “Arweiniad – Treuliau Plwyfol Clerigion”.
O ran Clerig sy’n cyflawni gweinidogaeth ddeublyg (h.y. â chyfrifoldeb sector/esgobaethol/taleithiol yn ogystal â phlwyfol, neu sy’n gyfrifol am fwy nag un plwyf) dylai’r esgobaeth/y dalaith fod yn gwbl glir ynghylch treuliau’r swydd.
Iechyd a Diogelwch
Dylai Clerig gydweithio â Chorff y Cynrychiolwyr a’r Esgobaeth o safbwynt unrhyw ddyletswydd neu ofyniad cyfreithiol ynghylch unrhyw ddarpariaeth iechyd a diogelwch statudol.
Salwch
Dylai Clerig sy’n sâl ac sy’n methu cyflawni dyletswyddau arferol oherwydd gwaeledd, ddilyn y gweithdrefnau hysbysu a nodir yn y ddogfen “Salwch ac Analluogrwydd Clerigion”.
Taliadau Salwch
Nodir polisi’r Eglwys yng Nghymru ar dalu cyflog yn ystod cyfnodau absenoldeb oherwydd salwch yn y ddogfen “Salwch ac Analluogrwydd Clerigion” y cyfeirir ati uchod. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol i Glerig nad yw’n derbyn cyflog.
Disgyblaeth
Cyfeirir at y safonau a ddisgwylir gan Glerig yn y Datganiad hwn, y Canllawiau Gweinidogaethol Proffesiynol a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd Clerig sy’n ymddwyn yn groes i’r safonau yn destun ymchwiliad a Pholisi a Gweithdrefnau Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru (atodedig). Gall gweithredoedd neu esgeulustod difrifol arwain at symud clerig o’i swydd a’i ddiswyddo o’i Urddau Sanctaidd.
Cwynion
Mae gan Glerig yr hawl i gwyno yn unol â’r Weithdrefn Gwyno atodedig, os yw’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg.
Bwlio a Harasiaeth
Nid yw’r Eglwys yng Nghymru yn goddef bwlio neu harasiaeth o unrhyw fath. Mae gennym Bolisi ar Fwlio a Harasiaeth a Gweithdrefn Gwyno.
Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol
Rhaid i Glerig fynychu cyfarfod adolygu gyda’r Esgob neu gynrychiolydd yr Esgob wedi chwe mis yn y swydd. Wedyn, rhaid i’r Clerig gymryd rhan mewn Cynllun Esgobaethol ar gyfer Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol. Ceir copi o’r cynllun hwn gan yr Esgob.
Gofynion Medrusrwydd
Os gwelir bod angen i Glerig feddu ar sgil penodol, mynychu cwrs hyfforddi neu ailhyfforddi mewn maes arbennig o’r Weinidogaeth, rhad i’r Clerig fodloni’r gofynion hynny o fewn amser rhesymol y cytunwyd arno gyda’r Esgob. Dylid darparu’r cyfryw adnoddau sy’n briodol yn nhyb yr Esgob, fel y gall y Clerig gydymffurfio â’r gofynion hyn. Ystyrir methiant i gydymffurfio â hyn yn fater disgyblu.
Swydd neu Benodiad arall
Ni ddylai Clerig cyflogedig dderbyn unrhyw swydd neu benodiad arall – gwirfoddol ai peidio – heb ganiatâd yr Esgob.
Rhaid i glerig digyflog roi digon o rybudd ymlaen llaw i’r Esgob ynglŷn â’i fwriad i dderbyn swydd neu benodiad arall, gwirfoddol ai peidio. Dylai’r Esgob benderfynu a yw’r swydd neu’r penodiad arfaethedig, yn gydnaws â dyletswyddau’r Clerig.
Darpariaethau Rhybudd
Rhaid i Glerig sy’n bwriadu ymddiswyddo neu ymddeol o’i waith roi tri mis o rybudd i’r Esgob, oni chytunwyd ar gyfnod llai o rybudd.
Mae hawl gan Glerig i dderbyn chwe mis o rybudd os yw’r Esgob yn bwriadu aildrefnu cyfrifoldebau’r plwyf.
Os penderfynwyd cyflwyno cosb ddisgyblu o Wahardd, Atal, Diarddel neu Ddiswyddo, yna bydd y ddaliadaeth swydd yn dod i ben heb rybudd.
Aelodaeth Undeb Llafur
Mae hawl gan Glerig i ymuno ag undeb llafur.
Hysbysiad o Newid
Mae’r Telerau Gwasanaeth a amlinellir yn y Datganiad hwn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd er mwyn diwygio, amrywio, dileu ac ychwanegu fel bo’r angen.
Gwneir hysbysiadau o unrhyw newidiadau a gymeradwywyd gan y Corff Llywodraethol trwy lythyr neu drwy gyflwyno dogfen arall (e.e. diwygio Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru).
Cyflwynir Datganiad newydd pan fydd Clerig yn symud i swydd/benodiad newydd yn unig.
Cydnabod Derbyn
Trwy lofnodi a dychwelyd y Datganiad hwn, mae’r Clerig yn cydnabod ei fod wedi’i dderbyn ac yn deall y darpariaethau sydd ynddo.