Swyddog Diogelu Taleithiol (Gogledd-ddwyrain Cymru)
Teitl y swydd: Swyddog Diogelu Taleithiol (Gogledd-ddwyrain Cymru)
Cyflog: Gradd E Cyfwerth ag amser llawn (FTE) Graddfa gyflog gynyddrannol £41,500 - £46,954
Lleoliad: Bydd y rôl yn cwmpasu Gogledd-ddwyrain Cymru yn bennaf a bydd y deiliad swydd yn gweithio o’i gartref gan mwyaf. Mae'r rôl yn gofyn am gryn dipyn o deithio, ac felly mae cael eich trafnidiaeth eich hun yn hanfodol.
Contract: Parhaol
Yn adrodd i: Rheolwr Diogelu
Oriau gweithio: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos) er bod rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith gyda disgwyliad gofynnol o 28 awr yr wythnos, yn cael eu gweithio dros 4 – 5 diwrnod rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn Dalaith o'r Cymundeb Anglicanaidd, sy'n cynnwys chwe esgobaeth, dros 1000 o eglwysi a 14 swyddfa ar wahân.
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Swyddog Diogelu Taleithiol. Mae'r rôl yn cynnwys derbyn ac ymateb i bryderon a honiadau diogelu ledled Talaith yr Eglwys yng Nghymru, yn unol â Pholisi Diogelu'r Eglwys yng Nghymru, a’r Gweithdrefnau a'r Canllawiau cysylltiedig. Bydd y Swyddog Diogelu yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y tîm Diogelu a'r sefydliad ehangach. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o gynnal ymchwiliadau diogelu a rheoli risgiau diogelu.
Hanfodol:
- Profiad helaeth o weithio gyda phlant a/neu oedolion mewn perygl mewn cyd-destun diogelu.
- Profiad o weithio’n amlasiantaeth ac amlddisgyblaethol, gan gynnwys gyda phartneriaid statudol yn y sector.
- Profiad o gynnal ymchwiliadau diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
- Profiad o gynnal ac adolygu asesiadau risg diogelu a datblygu cynlluniau rheoli risg.
- Gwybodaeth weithredol dda o ddeddfwriaeth allweddol a chanllawiau'r Llywodraeth gan gynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion cyfrinachedd, gan gynnwys pan fo'n briodol torri cyfrinachedd mewn amgylchiadau penodol.
- Gwybodaeth am y risgiau a gyflwynir gan gamdrinwyr a dealltwriaeth o ymddygiad troseddwyr.
- Dealltwriaeth o'r arfer da cyfredol wrth ymdrin â honiadau a wneir yn erbyn gweithwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn swyddi o ymddiriedaeth gyda phlant ac oedolion mewn perygl.
- Eich trafnidiaeth eich hun.
- Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Dymunol:
- Profiad o weithio gyda goroeswyr camdriniaeth.
- Profiad o weithio gyda throseddwyr.
- Profiad o weithio mewn neu gyda mudiadau gwirfoddol a/neu o weithio gyda gwirfoddolwyr.
- Cymhwyster perthnasol e.e. Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi'i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Siaradwr Cymraeg gyda Chymraeg llafar rhugl.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau at: HR@cinw.org.uk.
Cofiwch gynnwys yr holl feini prawf hanfodol yn eich cais.
Dyddiad cau
05 Mehefin 2026 am 10.00am.
Dyddiad y cyfweliad
Dydd Llun 15 neu Ddydd Mawrth 16 Gorffennaf.
Rhagor o wybodaeth
Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad [ac asesiad] yn seiliedig ar ofynion y swydd. Bydd yn cael ei gynnal mewn lleoliad addas o fewn swyddfeydd yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS manwl boddhaol.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar 02920 348200 neu HR@cinw.org.uk.
Lawrlwytho