Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth
Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth
Cyflog: £43,740 – £49,488
Lleoliad: Caerdydd – Athrofa Padarn Sant, Llandaf, CF5 2YJ
Mae'r rôl yn cynnwys rhywfaint o deithio ledled y DU ac ambell arhosiad dros nos
(costau bendant ar gael)
Math o Gontract: Parhaol
Yn atebol i: Deon Meithrin Disgyblion
Yn gyfrifol am: Tiwtoriaid Cyswllt (hyd at 5 y flwyddyn sy'n darparu arbenigedd mewn pwnc neu faes caplaniaeth)
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Pwrpas Swydd
Mae Athrofa Padarn Sant wedi meithrin enw da yn y DU ym maes Astudiaethau Caplaniaeth. Mae ei rhaglen MA hirsefydlog mewn Astudiaethau Caplaniaeth, a ddilysir gan Brifysgol Durham, wedi darparu datblygiad academaidd a myfyrdod athronyddol o’r radd flaenaf i gaplaniaid ers dros ugain mlynedd, yn enwedig i’r rhai yn y sector iechyd a'r fyddin. Ym Mhadarn Sant mae’r rhaglen hon ar gael ochr yn ochr â dwy raglen ôl-radd arall – MA eang mewn Diwinyddiaeth, Cenhadaeth a Gweinidogaeth a llwybr arbenigol ar gyfer gweithwyr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – dan arweiniad y Deon Meithrin Disgyblion. Mae'r tair rhaglen MA wedi'u cynllunio i gefnogi ymarfer myfyriol a datblygiad gweinidogol gweinidogion Cristnogol sy’n gwasanaethu. Mae gennym arbenigedd datblygedig o ran darparu rhaglenni MA trwy gyfnodau preswyl, a seilwaith cryf o gofrestru, sicrhau ansawdd a chynnig cymorth i fyfyrwyr. Rôl graidd y cyfarwyddwr yw arwain y rhaglen hon, addysgu ac ysbrydoli.
Gwybodaeth, Sgiliau, Cymwysterau a Phrofiad
Hanfodol
- Profiad helaeth fel Caplan.
- Doethuriaeth mewn diwinyddiaeth, astudiaethau caplaniaeth, neu faes perthnasol.
- Gallu amlwg i addysgu ac angerdd am hwyluso dysgu.
- Y sgiliau arwain a pherthnasol i greu, ennyn brwdfrydedd a siapio cymuned ddysgu.
- Profiad o reoli tîm o staff a/neu wirfoddolwyr.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i weithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth ag Esgobion, Penaethiaid Adrannau mewn Prifysgolion, partneriaid caplaniaeth (fel y Weinyddiaeth Amddiffyn a staff y GIG), ac arweinwyr gweinidogaeth o fewn sefydliadau eglwysig.
- Ymrwymiad i waith Caplaniaeth fel ffurf ar genhadaeth a gweinidogaeth Gristnogol, gan gynnwys lle caplaniaeth o fewn y Lluoedd Arfog.
- Profiad o gyhoeddi academaidd a phoblogaidd, o drefnu seminarau a digwyddiadau hyfforddi.
- Y gallu i arloesi gyda rhaglenni a chyfleoedd newydd.
- Sgiliau cynllunio busnes ac ariannol a'r gallu i yrru prosiectau ymlaen yn llwyddiannus o fewn fframwaith cyffredinol Athrofa Padarn Sant.
- Y gallu i ysbrydoli, ennyn brwdfrydedd a hyder ymhlith dysgwyr, gan gynnwys caplaniaid profiadol mewn cyd-destunau amrywiol (e.e. y fyddin, gofal iechyd, addysg, y gweithle a chwaraeon).
- Y gallu i arwain addoliad Cristnogol a darparu cymorth bugeiliol a ffurfiannol Cristnogol i’r rheiny ar raglenni caplaniaeth wrth iddynt fyfyrio a phrosesu eu profiadau fel caplaniaid.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac ar bapur ac ymrwymiad i weithio ar y cyd (gan fod yn esiampl o hyn i ddysgwyr).
- Y gallu i ddefnyddio pecynnau TGCh safonol a pharodrwydd i ddefnyddio’r dechnoleg gyfredol a newydd i hwyluso dulliau o weithio a dysgu ar wasgar.
- Sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i reoli llwyth gwaith cymhleth o sawl cyfeiriad
- Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ac i ffwrdd o'r brif swyddfa.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch llythyr eglurhaol, I’r cyfeiriad e-bost: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
10 Mai 2024 am 10.00
Dyddiadau Cyfweliad
23 – 24 Mai 2024
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Mark Griffiths, hr@cinw.org.uk
Lawrlwytho