Hafan Ymwadiad a hawlfraint

Ymwadiad a hawlfraint

Nid yw’r Eglwys yng Nghymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Nid oes rheolaeth gennym dros gynnwys na diogelwch gwefannau o’r fath a byddwch yn dilyn unrhyw ddolen i wefannau allanol o’r fath ar eich risg eich hun. Ni fyddwn yn gyfrifol am, ac nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth, addewid, argymhelliad na chymeradwyaeth mewn cysylltiad ag argaeledd unrhyw wefannau allanol o’r fath nac unrhyw gynnwys, hysbysebu, nwyddau neu wasanaethau ar unrhyw wefannau o’r fath neu sydd ar gael ohonynt.

Mae gwefannau unigol esgobaethol a phlwyfol yr Eglwys yng Nghymru yn annibynnol o’r wefan daleithiol. Mae esgobaethau a phlwyfi yn gyfrifol yn uniongyrchol am gynnwys eu gwefannau.

Rydym wedi ceisio cael caniatâd i ddefnyddio unrhyw ddeunydd hawlfraint sydd wedi ei gynnwys ar y wefan hon. Os, yn ddiarwybod, rydym wedi defnyddio deunydd heb gydnabyddiaeth, rydym yn ymddiheuro a byddwn yn cywiro hyn cyn gynted â phosib wedi inni gael gwybod.

Sylwer ein bod yn defnyddio ffeil “cookie” a gedwir ar eich cyfrifiadur er mwyn monitro dewis iaith Cymraeg/Saesneg defnyddwyr y wefan hon. Nid ydym yn defnyddio ffeiliau “cookie” at unrhyw ddiben arall ac nid ydym yn defnyddio ffeiliau “cookie” er mwyn hel data personol o’ch cyfrifiadur nac i hel gwybodaeth bersonol amdanoch chi.

Hysbysiad Hawlfraint

Os na nodir fel arall mae’r holl ddeunydd yn Hawlfraint © Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru 2008-2014. Cysylltwch â ni am ganiatâd i atgynhyrchu deunydd.