Hafan Amdanom ni Gweithio gyda ni Gweinyddwr Cronfeydd Ddata

Gweinyddwr Cronfeydd Ddata

Teitl y Swydd: Gweinyddwr Cronfeydd Ddata

Cyflog: Gradd E - £41,500 - £46,954 y flwyddyn

Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT

Contract: Parhaol

Yn adrodd i: Cyfarwyddwr TG a Rhaglenni

Oriau gweithio: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn Dalaith o’r Cymundeb Anglicanaidd, sy'n cynnwys chwe esgobaeth, dros 1000 o eglwysi a 14 swyddfa ar wahân. Mae'r Adran TG yn cefnogi’r holl swyddfeydd ac mae wrthi yn ehangu gwasanaethau i'r chwe Eglwys Gadeiriol esgobaethol.

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Gweinyddwr Cronfeydd Ddata a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw, trawsnewid a datblygu saernïaeth, systemau a phrosesau ein data, a fydd yn sail i'r broses o wneud penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan ddata ledled yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth arwain y gwaith o drawsnewid saernïaeth data'r sefydliad a gweinyddu ein cronfeydd data a'n systemau gwybodaeth, gan sicrhau dyluniad, dibynadwyedd, diogelwch ac effeithiolrwydd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn diwallu anghenion y sefydliad.

Bydd y rôl hon yn gydweithredol (cydweithio â chydweithwyr a phartneriaid allanol) a bydd yn darparu atebion technegol cadarn a chefnogaeth o ansawdd uchel. Elfen allweddol o'r rôl yw'r gallu i gynhyrchu manylebau clir, cryno yn seiliedig ar anghenion busnes mewn seilwaith sy'n cefnogi gweithrediad busnes effeithiol a disgwyliadau cwsmeriaid.

Efallai y bydd natur y rôl hon yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith a lleoliad. Byddwn yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen; fodd bynnag, gall anghenion busnes gyfyngu ar y trefniadau a gynigir.

Hanfodol

  • Sgiliau mathemategol datblygedig iawn, gyda chymhwyster lefel gradd mewn mathemateg, gwyddoniaeth neu gyfrifiadureg i’w hategu.
  • Sgiliau rhaglennu lefel arbenigol gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad proffesiynol gydag ystod o ieithoedd rhaglennu.
  • Sgiliau codio SQL lefel arbenigol gydag o leiaf bum mlynedd o brofiad proffesiynol.
  • Gwybodaeth weithredol o PHP ac ASP gyda'r gallu i ddarllen a deall cod a gynhyrchwyd yn yr ieithoedd hynny.
  • Dealltwriaeth dechnegol ac ymarferol fanwl o ddadansoddi gofynion defnyddwyr, creu dogfennau manylebau, a datblygu rhaglenni.

Sgiliau a Chymwyseddau

  • Sgiliau ysgrifennu manylebau technegol datblygedig iawn.
  • Gwybodaeth gyfredol am feddalwedd sy'n gysylltiedig â rhaglennu.
  • Dull creadigol o ddadansoddi manylebau cleientiaid yn erbyn datblygu cronfeydd data priodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol.
  • Gwydnwch yn wyneb cyfathrebu gan ddefnyddwyr sy’n wrthwynebus.
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth dechnegol i ddefnyddwyr annhechnegol.
  • Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth dechnegol ar y lefel fanylder angenrheidiol i ddatblygwyr technegol a chysylltiadau allanol.
  • Gwybodaeth am VMWare ac Office 365.

Dymunol

  • Profiad blaenorol o reoli tîm.
  • Parodrwydd a gallu i deithio yn ôl yr angen.
  • Ymagwedd hyblyg ac ystwyth at oriau gwaith, gan gynnwys gyda’r nos neu ar benwythnos o dro i dro os bydd angen.
  • Ymrwymiad i gynnal gwerthoedd y sefydliad a hyrwyddo diwylliant tîm cadarnhaol.
  • Y gallu i siarad a deall Cymraeg.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol a'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau i: HR@cinw.org.uk.

Cofiwch gynnwys yr holl feini prawf hanfodol yn eich cais.

Dyddiad cau

26 Mehefin 2026 am 10:00am.

Dyddiad y cyfweliad

10 Gorffennaf 2026 yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar 02920 348200 neu HR@cinw.org.uk.

Lawrlwytho