Cyn-Eglwysi a Neuaddau Eglwys
Mae Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am gyn-eglwysi ar ôl iddynt gau ar gyfer addoli a neuaddau eglwys sydd wedi cau.
Mae’r rhestr isod yn rhoi manylion y cyn-eglwysi a neuaddau sydd ar werth ar hyn o bryd. Cofiwch y gall rhai ohonynt fod â chynnig wedi’i roi amdanynt eisoes.
Gan amlaf mae’r eiddo yn cael eu cynnig fel rhai rhyddfraint gyda rhai cyfyngiadau ynglŷn â’u defnydd yn y dyfodol; gellir cael gwybodaeth bellach oddi wrth yr asiant sydd wedi’i benodi i’w gwerthu.
Mae’n ofynnol i Gorff y Cynrychiolwyr gydymffurfio â’r ddeddf elusennau wrth werthu ei eiddo. Ni ellir gwarantu cywirdeb y disgrifiadau o’r adeiladau a enwir isod.
Cyn-Neuadd Figure Four, Llanfarian
Mae cyn-neuadd Figure Four wedi’i lleoli ym mhentref Llanfarian, tua thair milltir o Aberystwyth.
Asiant - Morgan & Davies
12 Harford Square, Lampeter, Ceredigion, SA48 7DT
01570 423623
llion@morgananddavies.co.uk
Cyn-Gapel Dewi Sant, Llanwrda
Mae cyn-Gapel Dewi Sant wedi’i leoli ym mhentref gwledig Llanwrda yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin, yn agos at drefi marchnad Llandeilo a Llanymddyfri.
Asiant - Morgan & Davies
12 Harford Square, Lampeter, Ceredigion, SA48 7DT
01570 423623
llion@morgananddavies.co.uk
Cyn-Eglwys Sant Joseff, Cwmaman
Mae cyn-eglwys Sant Joseff wedi’i lleoli yng Nghwmaman, pentref bach cyn-fwyngloddio sydd wedi’i leoli yng Nghwm Cynon yn Ne Cymru.
Asiant - RJ Chartered Surveyors
Eastern Business Park, St Mellons, Cardiff, CF3 5EA
07792 504174
james@rj-cs.co.uk
Cyn-Eglwys Sant Marged, Ford
Mae cyn-eglwys Sant Marged wedi’i lleoli tua 300 metr i’r de o bentref bach Wolfscastle yng nghanol Sir Benfro.
Asiant - R K Lucas & Son
9 Victoria Place, Haverfordwest SA61 2JX
01437 762538
jack@rklucas.co.uk
Cyn-Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llanybri
Mae cyn-eglwys y Drindod Sanctaidd wedi’i lleoli ar gyrion pentref Llanybri, tua 2 filltir o bentref poblogaidd aberol Llansteffan ac 10 milltir o dref Caerfyrddin.
Asiant – Clee Tompkinson Francis
2 Stryd y Frenhines, Caerfyrddin, SA31 1JR
01267 230645
carmarthen@ctf-uk.com
Noder: Mae’r eglwys hon ar gynnig ar hyn o bryd.
Cyn-Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Isaf
Mae cyn-eglwys Sant Mihangel wedi’i lleoli ym mhentref bach Lower Chapel yng Nghwm Honddu, Powys, tua chwe milltir i’r gogledd o dref Aberhonddu.
Asiant – RJ Chartered Surveyors
Parc Busnes Dwyreiniol, Llaneirwg (St Mellons), Caerdydd, CF3 5EA
07792 504174
james@rj-cs.co.uk