Cyfarwyddiadau i 2 Sgwâr Callaghan
Lleolir prif swyddfa weinyddol y Dalaith yng Nghaerdydd yn:
- 2 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 029 2034 8200
Os oes angen i chi ymweld â Swyddfa’r Dalaith, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus os yn bosibl. Mae gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn daith gerdded fer a hawdd i ffwrdd, ac mae yna lawer o arosfannau bysiau canol y ddinas gerllaw. Os oes angen i chi yrru, fodd bynnag, nodir rhai cyfarwyddiadau isod. Mae gan swyddfa’r dalaith un ar ddeg o leoedd parcio ceir ar gael y gellir eu cadw drwy ffonio'r dderbynfa (029 2034 8200), neu drwy'r aelod o staff yr hoffech ei weld neu sy'n trefnu'r cyfarfod yr ydych yn ei fynychu. Mae'r maes parcio mewn compownd diogel y tu ôl i adeilad y swyddfa ac mae ar gael oddi ar Hope Street, sy'n rhedeg ochr yn ochr ag adeilad y swyddfa.
I gael mynediad i'r maes parcio, pwyswch y gloch sy’n dweud "2 Sgwâr Callaghan" a siaradwch â Rheolwr yr Adeilad a fydd â rhestr o’r llefydd sydd wedi’u cadw. Nodwch fod posibl cael mynediad i'r maes parcio rhwng 07:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych yn bwriadu gadael y maes parcio ar ôl 18:00, gwnewch drefniadau gyda’r Dderbynfa.
Mae holl leoedd parcio'r Eglwys yng Nghymru wedi'u marcio. Mae 10 lle parcio ceir wedi'u lleoli ar lawr uchaf y maes parcio, ac mae 1 lle parcio i'r anabl ar y llawr gwaelod, ar yr ochr chwith wrth i chi fynd i mewn drwy’r gatiau.
Mae cyfleusterau parcio amgen ar gael gerllaw yn John Lewis ac yng ngorsaf Caerdydd Canolog.
Cyfarwyddiadau gyrru i 2 Sgwâr Callaghan
Mae Swyddfa’r Dalaith yn 2 Sgwâr Callaghan. Mae Sgwâr Callaghan ar ochr ddeheuol canol dinas Caerdydd, a’r tirnodau defnyddiol gerllaw yw gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gwesty'r Marriott a siop John Lewis.
Os oes angen i chi ymweld â Swyddfa’r Dalaith, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus os yw'n bosibl: mae gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn daith gerdded fer a hawdd i ffwrdd, ac mae llawer o arosfannau bysiau canol y ddinas gerllaw. Os oes angen i chi yrru, fodd bynnag, nodir rhai cyfarwyddiadau isod. Mae gan y Swyddfa Daleithiol un ar ddeg o leoedd parcio ceir ar gael y gellir eu cadw drwy ffonio'r dderbynfa (02920 348 200), neu drwy'r aelod o staff yr hoffech ei weld neu pwy bynnag sy'n trefnu'r cyfarfod yr ydych yn ei fynychu. Mae'r maes parcio mewn compownd diogel y tu ôl i adeilad y swyddfa ac mae ar gael oddi ar Hope Street, sy'n rhedeg ochr yn ochr ag adeilad y swyddfa. Mae cyfleusterau parcio eraill ar gael yn John Lewis a gorsaf Caerdydd Canolog.
Cyfarwyddiadau gyrru
O'r gogledd a'r gorllewin
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 33 (arwydd gorllewin Caerdydd) a dilynwch yr A4232 tuag at ganol dinas Caerdydd, am tua wyth milltir, tan Dwnnel Butetown. Ewch drwy'r twnnel a'r cadwch i'r chwith wrth y gylchfan sy'n ei ddilyn.
Ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan ganlynol (dylech fod yn y lôn ganol o draffig) i'r ffordd gyswllt ganolog, gan ddilyn arwyddion ar gyfer canol y ddinas. Cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ac ewch i lawr i gylchfan. Cymerwch yr allanfa gyntaf wrth y gylchfan hon, gan droi i'r chwith i Stryd Tyndall.
Ewch ymlaen i ddiwedd Stryd Tyndall (sy'n newid i fod yn Stryd Herbert), sy'n mynd o dan bont reilffordd, i gyffordd gyda goleuadau traffig: dylech fod yn y lôn ganol o draffig yma, gan fynd yn syth ymlaen i Sgwâr Callaghan. Cadwch yn y lôn dde i symud ar hyd un ochr i Sgwâr Callaghan ac o amgylch y gylchfan ar y pen arall. Ewch i'r dde o amgylch y gylchfan hon (trydedd allanfa) i fynd yn ôl ar hyd ochr arall Sgwâr Callaghan. Cadwch yn y lôn chwith ac, ychydig cyn y goleuadau traffig, trowch i'r chwith i Stryd Hope, y stryd fach sy'n rhedeg rhwng yr adeiladau mawr ar Sgwâr Callaghan.
Mae maes parcio'r swyddfa y tu ôl i'r giât fawr yn syth ar ochr chwith Stryd Hope. Defnyddiwch yr intercom wrth y giât i gyfathrebu â derbynfa'r adeilad i agor y giât a'ch cyfeirio at eich man parcio.
O'r dwyrain
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 29 (arwydd Dwyrain a de Caerdydd) a dilynwch yr A48(M) am tua chwe milltir, heibio arwydd diwedd y draffordd pan fydd y ffordd yn dod yn A48. Byddwch yn pasio dwy allanfa oddi ar y ffordd hon: gadewch yr A48 wrth y drydedd allanfa, gydag arwydd i ddwyrain Caerdydd, dociau a Bae Caerdydd. Cadwch yn y lôn chwith (bwrpasol) i fyny'r slipffordd a chadwch i'r chwith wrth y gylchfan. Rydych chi nawr ar yr A4232: dilynwch y lôn bwrpasol tuag at ddociau Caerdydd. Dilynwch yr A4232 am tua phum milltir gan fynd drwy bedair cylchfan a dilyn arwyddion Bae Caerdydd bob amser.
Yn y bumed gylchfan cymerwch yr ail allanfa i Ocean Way (gan ddilyn arwyddion canol y ddinas) a pharhau'n syth ymlaen wrth y gylchfan sy'n dilyn yn fuan wedyn (yr ail allanfa): parhau ar hyd Ocean Way nes i chi gyrraedd cylchfan arall. Wrth i chi nesáu, symudwch i'r lôn chwith bwrpasol i droi i'r chwith i East Tyndall Street: ewch yn syth ymlaen wrth y gylchfan nesaf (ail allanfa) lle mae East Tyndall Street yn troi'n Stryd Tyndall. Ewch ymlaen â'ch taith gan ddefnyddio paragraffau 3 a 4 uchod.