Hafan Cyhoeddiadau Gair yr Arglwydd Blwyddyn A Y Sul Cyntaf wedi'r Drindod

Y Sul Cyntaf wedi'r Drindod

Gweddi am yr wythnos

Dduw Iachâd;
Mae eiddilwch ein natur feidrol wedi dod yn real i ni eleni, mewn modd eglur a thorcalonnus.
Dyro inni ddoethineb wrth inni ailadeiladu ein bywydau,
er mwyn inni ddysgu gwersi addfwynder a gofal,
ac adlewyrchu'n well dy gariad di tuag at dy bobl,
a thuag at y byd hardd a bregus o'n cwmpas.

Amen.

Canon Carol Wardman

Colect am yr wythnos

O Dduw,
nerth pawb sy’n ymddiried ynot,
derbyn yn drugarog ein gweddïau
a chan na allwn, gan wendid ein natur farwol,
wneud dim da hebot ti,
caniatâ inni gymorth dy ras,
fel wrth gadw dy orchmynion
y bo i ni dy foddhau ar ewyllys a gweithred;
trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.

Dydd Sul 14 Mehefin 2020

Prif Wasanaeth:

Gweld yr wythnos lawn: