Hafan Cyhoeddiadau Gair yr Arglwydd Blwyddyn A Yr Nawfed Sul wedi'r Drindod

Yr Nawfed Sul wedi'r Drindod

Gweddi am yr wythnos

Dduw Heddwch
Rwyt ti'n closio atom,
gan anadlu llonyddwch i stormydd ein hofnau.
Yn dy bresenoldeb tawel, boed inni gamu ymlaen yn ddewr,
gan wybod y bydd dy ras a'th gryfder yn ein cynnal ym mhob sefyllfa,
ac na foed i'n ffydd fod i ni ein hunain yn unig,
ond boed iddo ddod â heddwch i eraill yng nghanol cythrwfl y byd. Amen.

Canon Carol Wardman

Colect am yr wythnos

Hollalluog Dduw,
a anfonaist dy Ysbryd Glân
i fod yn fywyd a goleuni i’th Eglwys,
agor ein calonnau i gyfoeth dy ras,
fel y dygwn ffrwyth yr Ysbryd
mewn cariad a llawenydd a thangnefedd;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.

Dydd Sul 9 Awst 2020

Prif Wasanaeth:

Gweld yr wythnos lawn: