Coroni y Brenin Charles III
Deunydd litwrgaidd i nodi Coroni
Dydd Sadwrn 6 Mai 2023
Nodyn rhagarweiniol
Bydd coroni Ei Fawrhydi y Brenin Charles III yn achlysur cenedlaethol llawen a hanesyddol. Mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru am annog ein heglwysi i weddïo dros y Brenin, y Teulu Brenhinol, ein cenedl a’r Gymanwlad ar yr adeg hon ac yn falch o gymeradwyo’r deunydd litwrgaidd a ganlyn.
Seilir rhai o’r gweddïau ar ddeunydd a gyhoeddwyd gan Eglwys Loegr yn 1977 i nodi Jiwbilî Arian y Frenhines Elizabeth II. Mabwysiadwyd y gweddïau bryd hynny gan yr Eglwys yng Nghymru a’u cyhoeddi mewn fformat dwyieithog. Gobeithir y bydd naws a chynnwys yr adnoddau, yn eu ffurf ddiwygiedig, yn parhau i fod yn briodol bron i hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Gwnaethpwyd rhai newidiadau sylweddol, er enghraifft drwy gynnwys testun newydd sbon sydd yn offrymu gweddi dros y Senedd a thros San Steffan ac yn cydnabod natur gyfansoddiadol y frenhiniaeth Brydeinig. Mae’r gweddïau yn addas i’w harfer yn y Cymun Bendigaid, yn ogystal â’r Foreol a’r Hwyrol Weddi.
Mae Eglwys Loegr wedi cynhyrchu nifer o adnoddau ychwanegol a gellir dod o hyd i’r rhain ar www.churchofengland.org/coronation.
Yn ogystal, mae Esgobion Cymru wedi awdurdodi rhestr o newidiadau i weddïau brenhinol yn litwrgïau yr Eglwys yng Nghymru sydd yn angenrheidiol yn sgil esgyniad y Brenin Charles. Cewch hyd i’r rhain ar: Gwelliannau Gweddi Frenhinol.
Gweddi agoriadol (colect) a addaswyd o adnoddau a gynhyrchwyd gan Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru i nodi Jiwbilî Arian y Frenhines Elizabeth II (1977), yn ogystal â gweddi o’i Choroni (1953)
Hollalluog Dduw ein Tad nefol,
bendithia Charles ein Brenin,
yr ydym yn awr yn dathlu ei Goroni.
Cynorthwya ef i gyflawni ei ddyletswyddau,
er mwyn iddo drwy ei ddylanwad
gynnal undeb, ewyllys da a heddwch
ymhlith ei bobloedd,
ac fel, trwy ddyfalbarhad mewn gweithredoedd da tan y diwedd,
y daw trwy dy drugaredd i’th deyrnas dragwyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân
yn un Duw yn awr ac am byth. Amen.
Ymbiliau a addaswyd o adnoddau a gynhyrchwyd gan Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru i nodi Jiwbilî Arian y Frenhines Elizabeth II (1977)
DIOLCHGARWCH AC EIRIOLAETH
Gweddïwn.
Dad nefol, diolchwn i ti am ryfeddod y greadigaeth, am rodd bywyd ac am fendith cyfeillach dynol; am Grist, dy Air bywiol, sydd yn dysgu i ni ffordd y bywyd a natur frenhinol gwasanaeth; ac am dy Ysbryd sy’n dwyn ffrwyth cariad, llawenydd a thangnefedd. Trwy dy ras bydded i ni ddefnyddio dy roddion helaeth er lles pawb.
Arglwydd, yn dy drugaredd:
Gwrando ein gweddi.
Heddiw yn arbennig gweddïwn dros y Brenin Charles, am nerth i wasanaethu teulu byd-eang y cenhedloedd; am ddewrder i amddiffyn y Ffydd mewn gair a gweithred; am ysbryd ymroddiad a dyletswydd; ac am ras i ofalu am ei bobl.
Arglwydd, yn dy drugaredd:
Gwrando ein gweddi.
Dyro iddo a’i deulu, gweddïwn, dy ddoniau brenhinol mewn gwasanaeth; gweledigaeth o’th ewyllys ar gyfer ein cenedl; doethineb i gyflawni ei alwedigaeth i arwain mewn Cymanwlad o lawer hil; nerth a dewrder i gyflawni dyletswyddau ei alwedigaeth; a dyro iddo bob amser sicrwydd o’th bresenoldeb, dy nerth, a’th gariad.
Arglwydd, yn dy drugaredd:
Gwrando ein gweddi.
Gweddïwn dros bawb sy’n ein gwasanaethu ni (yn enw’r Goron) yn ein Senedd ac yn San Steffan. Gofynnwn i ti eu harwain a’u goleuo â doethineb yn eu holl benderfyniadau i geisio lles y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Arglwydd, yn dy drugaredd:
Gwrando ein gweddi.
Gweddi dros y Brenin Charles ar achlysur ei Goroni
Hollalluog Dduw, ti sy’n llywodraethu y nef a’r ddaear
ac y mae dy orsedd yn gadarn ac yn dragwyddol:
dyro i’th was Charles ein Brenin,
wedi ei eneinio, ei orseddu a’i goroni i deyrnasu drosom
y grasusau angenrheidiol i gyflawni ei ddyletswyddau,
fel y ffynno gwirionedd a chyfiawnder,
sancteiddrwydd ac uniondeb,
heddwch a chariad yn ein tir,
ac y bydd ei fywyd o wasanaeth
yn adlewyrchiad o’th gariad aberthol di
a welwn ni yn Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd gyda thi a’r Ysbryd Glân yn teyrnasu’n un Duw
yn oes oesoedd. Amen.
Gweddi o ddiolch am wasanaeth y Brenin Charles fel Tywysog Cymru
Arglwydd ein Duw a brenin y bydysawd,
wrth inni heddiw ddathlu coroni Charles ein Brenin,
diolchwn i ti am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth didwyll i bobl y genedl hon fel Tywysog Cymru:
am ei barch tuag at ein diwylliant a’n treftadaeth gyfoethog
am ei weledigaeth a’i gefnogaeth i’r diwydiant amaeth a chefn gwlad,
ac am ei egni a’i feiddgarwch yn amlygu pryderon amgylcheddol.
Corona ef â’th ddaioni a’th rasol ffafr
a dyro iddo’r doethineb i ddefnyddio ei ddoniau
i wasanaethu pobl y Deyrnas Unedig [a’r Gymanwlad]
fel trwy feithrin y cymdeithasgarwch hwnnw sy’n adeiladu dy bobl
y bydd yn dilyn esiampl
yr un a ddaeth nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu;
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddi dros Dywysog a Thywysoges Cymru
Hollalluog Dduw
a greodd amrywiaeth o genhedloedd, ieithoedd a diwylliannau
yn ein byd i’n cyfoethogi ni oll:
tywys William a Catherine, Tywysog a Thywysoges Cymru,
i gyflawni eu dyletswyddau er budd ein cenedl,
trwy daflu goleuni ar bopeth sy’n dda, yn rhinweddol
ac adeiladol ynddi.
Bydded i ninnau hefyd
barhau yn y gwaith o greu Cymru decach,
ac ymfalchïo yn yr amrywiaeth gyfoethog sy’n rhan o wead ein cymunedau;
trwy yr hwn a roes ei fywyd dros iachawdwriaeth yr holl fyd,
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Bendith (o Amserau a Thymhorau (Rhan 3), Adran 3.3.3)
Rhodded Duw ei ras i’r byw
a gorffwys i’r ymadawedig;
i’r Eglwys, y Brenin,
y Gymanwlad, a’r holl ddynoliaeth
rhodded hedd a chytgord;
ac i ni a’i holl weision, fywyd tragwyddol,
a bendith …
Neu:
Bydded i Dduw a wnaeth y byd, sefydlu cyfiawnder a heddwch ymhlith teyrnasoedd y ddaear. Amen.
Bydded i Grist, Tywysog Tangnefedd, roi i chwi ei dangnefedd ef ei hun; tangnefedd na all y byd ei roi. Amen.
Bydded i’r Ysbryd Glân roi doethineb, dewrder a dealltwriaeth i bawb sydd mewn awdurdod a’n hysbrydoli ni, ynghyd â hwy, i wasanaethu lles y cyffredin. Amen.
a bendith….