Disgyblion yng Nghymru yn derbyn y wobr gyntaf mewn cynllun newydd Cymdogion Byd-eang

Mae disgyblion yng Nghymru yn dathlu ar ôl derbyn y wobr gyntaf mewn cynllun newydd sydd â’r nod o helpu pobl ifanc i leisio barn ar faterion byd-eang.
Mae Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru y Wig a Marcroes wedi cyflawni lefel efydd y wobr Cymdogion Byd-Eang – Global Neighbours Cymru – gan Cymorth Cristnogol.
Mae’r cynllun achredu yn bartneriaeth rhwng yr asiantaeth ddatblygu rhyngwladol Cymorth Cristnogol a’r Eglwys yng Nghymru. Mae’r cynllun ar gael i bob ysgol gynradd yng Nghymru, ac mae tair lefel – Efydd, Arian ac Aur – gyda nifer o fentrau i annog plant i feddwl am bobl eraill ledled y byd.
Mae disgyblion Ysgol y Wig a Marcroes wedi bod yn archwilio materion byd-eang o gyfiawnder hinsawdd i dlodi, ac wedi cael cyfleoedd i weithredu ar eu dysgu yn lleol yn ogystal â mewn cyd-destunau ehangach, drwy gynnal hwb bwyd lleol, sefydlu llwybr ‘Bws Beic’ i’r ysgol a bod yn rhan o brosiect Colegau’r Byd Unedig ar ddyfodol cynaliadwy.
Fel rhan o’r prosiect Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd, creodd y plant waith celf a’u rhannu gyda’u cymuned yn gyntaf, ac yna mewn arddangosfa yn Senedd Cymru ac yn San Steffan.
Maent hefyd wedi bod yn cydweithio gyda’r cyngor lleol, eu Aelod Seneddol DU, busnesau lleol ac eu Aelodau Senedd Cymru, gan rannu eu pryderon a’u syniadau ar gyfer newid.
Dywedodd Rebecca Elliott, Swyddog Ieuenctid ac Addysg Cymroth Cristnogol yng Nghymru:
“Rydyn ni’n hynod falch o gyflwyno’r wobr Cymdogion Byd-Eang gyntaf. Cafodd Ysgol y Wig a Marcroes ganmoliaeth am ei rhagoriaeth wrth ddangos sut y gellir gosod dinasyddiaeth fyd-eang wrth galon ysgol fach wledig, gan ei thrawsnewid yn esiampl o ffydd, dathlu a gweithredu.”
Dywedodd y pennaeth, Ceri Thomas, fod pawb wrth eu bodd bod eu gwaith wedi cael ei gydnabod. Ychwanegodd:
“Rydym yn hynod falch o bob aelod o’n cymuned ysgol. Cafodd pob agwedd ar waith yr ysgol – arweinyddiaeth, addysgu a dysgu, addoliad ar y cyd, datblygiad ysbrydol, cyfranogiad disgyblion ac ymgysylltiad cymunedol – ei hasesu’n annibynnol. Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym wedi’i wneud i godi ymwybyddiaeth o’r anghydraddoldebau eithafol sydd ar draws y byd, ac efallai’n bwysicach fyth, y camau y gallwn eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhain. Mae’r disgyblion yn dysgu’n rheolaidd am faterion byd-eang ac yn meithrin dealltwriaeth o anghyfiawnder yn ein byd. Yn bwysicach fyth, fel Cristnogion, maent yn gweithredu’n hyderus fel dinasyddion byd-eang i greu byd mwy teg. Roedd bod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr hon yn llwyddiant ychwanegol i bawb yma yn y Wig.”
Dywedodd y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf, fod hwn yn foment arbennig, gan ychwanegu:
“Rwy’n hynod falch o’u cyflawniad, ac mae’n wych eu bod yn arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru. Mae’r wobr Efydd Cymdogion Byd-Eang hon yn dathlu camau cadarn a hollbwysig i fynd i’r afael ag anghyfiawnder tlodi byd-eang, ac yn adlewyrchu gwerthoedd craidd urddas, cydraddoldeb, cyfiawnder a chariad ym mywyd yr ysgol.”
Nod y fenter achredu ‘Cymdogion Byd-eang’ yw cynyddu dealltwriaeth dysgwyr Cymraeg o achosion sylfaenol tlodi ac anghyfiawnder, ac ymgysylltu a grymuso disgyblion fel asiantau newid yn y gwaith o drawsnewid ein byd. Yn ogystal â dysgu am faterion fel tlodi byd-eang, mae'n cynnwys cymryd camau’n lleol fel casglu sbwriel, cyfnewid dillad, ymgysylltu â busnesau lleol am blastig untro, a gwahodd arweinwyr cymunedol i wneud gwahaniaeth hefyd. Gan gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, mae'r cynllun yn annog dysgwyr i archwilio sut mae dylanwadau, penderfyniadau a gweithredoedd yn effeithio arnom ni ac ar eraill, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Ynglŷn â’r cynllun Cymdogion Byd-eang | Christian Aid