Dinas hynaf Cymru yn nodi 1500 mlynedd gydag arddangosfa o lawysgrifau prin

Bydd arddangosfa Prifysgol Bangor yn nodi 1500 mlynedd o Gadeirlan Bangor gyda llawysgrifau prin a thrysorau o’r archif.
Wedi'i churadu gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, mae'r arddangosfa fawr hon yn nodi 1500 mlynedd ers i Deiniol Sant sefydlu ei fynachdy ym Mangor yn 525 OC. Daw enw'r ddinas o 'bangor,' enw’r ffens a adeiladodd Deiniol i amgáu ei gymuned weddi. 1500 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r gadeirlan yn parhau i wasanaethu'r ddinas a dyfodd o amgylch yr anheddiad gwreiddiol hwn.
Yn yr arddangosfa ceir eitemau prin ac arwyddocaol o gasgliad archifol y Brifysgol ochr yn ochr â deunyddiau gwerthfawr o Lyfrgell y Gadeirlan. Mae'r casgliad rhyfeddol hwn wedi bod yng ngofal Prifysgol Bangor ers sawl degawd. Bydd ymwelwyr yn gweld llawysgrifau goliwiedig, llyfrau prin wedi eu hargraffu, a dogfennau archifol sy'n adrodd hanes y ganolfan eglwysig hynafol hon yng Nghymru.
Mae'r arddangosfa bellach ar agor a bydd yn cael ei chynnal tan 19 Rhagfyr 2025 ar-lein ac ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
"Mae'r arddangosfa hon yn cynnig cyfle unigryw i archwilio 1500 mlynedd parhaus o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol," meddai Elen Wyn Simpson, Rheolwr Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. "Mae'r deunyddiau yr ydyn ni'n eu harddangos yn amlygu rhan bwysig Cadeirlan Bangor yn hanes Cymru a stori ehangach Cristnogaeth ym Mhrydain."
"Mae'n anrhydedd cael bod yn rhan o ddathliadau Cadeirlan a Dinas Bangor ac mae’n gyfle gwych i arddangos yr eitemau prin ac arwyddocaol yn Llyfrgell y Gadeirlan."
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf