Gŵr a gwraig o Dywyn ymhlith derbynwyr Arian Dydd Iau Cablyd

Mae gŵr a gwraig o Dywyn ymhlith y rhai o Esgobaeth Bangor a gaiff eu cydnabod gan y Brenin yng Ngwasanaeth Cablyd Brenhinol eleni.
Bydd Susan a Roger Whitehouse yn derbyn Arian y Cablyd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Iau 2 Ebrill, y tro cyntaf i’r achlysur gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru, a dim ond yr ail dro erioed yng Nghymru yn ei hanes 800 mlynedd.
Mae Susan wedi gwasanaethu ers blynyddoedd lawer fel Darllenydd yn Ardal Gweinidogaeth Bro Ystumanner, gan arwain addoliad a chynnal angladdau ar draws y gymuned, yn ogystal â chefnogi’r eglwys drwy ei rôl fel swyddog diogelu. Mae ei gweinidogaeth wedi dod â hi ochr yn ochr â phobl ar adegau arwyddocaol yn eu bywydau, yn aml mewn cyfnodau o golled.
Er nad yw Roger yn weinidog trwyddedig, mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol yng nghynnal bywyd yr eglwys, yn enwedig yn ystod cyfnod hir o salwch ymhlith y clerigwr. Bu’n helpu i sicrhau bod addoliad a gweinidogaeth yn parhau, gan gefnogi bywyd yr eglwys a galluogi eraill i wasanaethu.
“Dim ond ceisio gwasanaethu lle bynnag yr oedd angen yr ydym ni,” meddant. “Mae ein ffydd yn llywio’r hyn a wnawn a’r rheswm dros ei wneud, ac mae hynny wedi ein dwyn yn nes at fywyd yr eglwys, gan ein hannog hefyd i edrych tuag allan at y gymuned ehangach.”
Mae Susan wedi datblygu gweinidogaeth arbennig wrth arwain angladdau a chefnogi teuluoedd ar adegau o alar. Dywedodd fod y rôl wedi rhoi cyfle iddi “gyrraedd y mannau na all ficeriaid bob amser eu cyrraedd”.
“Yr hyn sy’n fy nghadw’n ymrwymedig yw’r cyfle i rannu llawenydd adnabod cariad Duw a pherthnasedd Iesu,” meddai.
Disgrifiodd Roger ei gyfraniad fel ymateb i alwad, yn enwedig yn ystod cyfnod hir o salwch ymhlith y clerigwyr, pan helpodd i gefnogi bywyd a threfniadaeth yr eglwys.
“Weithiau mae Duw yn eich galw i gyfeiriad na fyddech yn dewis mynd iddo,” meddai, “ond rydych yn dod i sylweddoli bod Duw yn gweld ymhellach nag y gallwn ni.”
“Yr hyn y byddem yn ei ddweud wrth ein cymuned yw diolch,” meddant. “Ni fyddem wedi tyfu mewn ffydd a hyder heb gadarnhad a chefnogaeth nifer fawr o bobl sydd wedi dod yn deulu o gyfeillion eglwys dros y degawdau diwethaf.”
Ymhlith y rhai eraill a gaiff eu cydnabod mae’r hanesydd lleol Christopher Medley o Gaergybi. Fel Trysorydd ac Ymddiriedolwr Eglwys Sant Cybi, mae wedi bod yn rhan o’r gwaith adfer yn yr eglwys ac yn parhau i oruchwylio prosiectau, digwyddiadau ac allgymorth cymunedol, gan helpu i gadw’r adeilad yn agored ac yn weithgar yng nghanol y gymuned.
Maent ymhlith nifer o dderbynwyr o bob rhan o Esgobaeth Bangor y mae eu gwasanaeth yn adlewyrchu eu hymrwymiad gwirfoddol i eglwysi lleol.
Yn ystod y gwasanaeth, bydd y Brenin yn cyflwyno rhoddion Brenhinol Dydd Iau Cablyd i tua 77 o ddynion a 77 o ferched, yn bennaf o Gymru ond hefyd o esgobaethau ar draws y DU. Mae Arian y Cablyd yn rhodd symbolaidd a roddir i gydnabod gwasanaeth Cristnogol eithriadol y derbynwyr a’u cyfraniad at fywydau pobl yn eu cymunedau lleol. Bydd Ei Fawrhydi yn cyflwyno dau bwrs i’r derbynwyr yn cynnwys yr Arian y Cablyd unigryw. Yn y pwrs gwyn bydd set o ddarnau arian arian y Cablyd wedi’u bathu’n arbennig, yn gyfanswm o 77 ceiniog, i gyfateb â oed y Brenin, ac yn y Pwrs Coch bydd darn £5 sy’n coffáu 100 mlynedd ers geni’r Frenhines Elizabeth II, a darn 50c sy’n dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth y Brenin. Dyma’r rhai fydd yn derbyn yr anrhydedd:
- Mrs Susan Whitehouse, Bro Ystumanner
- Mr Roger Whitehouse, Bro Ystumanner
- Mrs Mary Hughes, Bro Moelwyn
- Mr Edwin Evans, Bryncroes
- Mrs Norah Davies, Bro Peblig, Caernarfon
- Mr John Jones, Penmaenmawr
- Mrs Michele Bathers
- Mr James Boughton, Bro Gwydyr, Betws-y-Coed
- Mrs Elinus Rogers, Eglwys Sant Llonio
- Ms Nia Heledd Hall, Bro Dwynwen
- Ms Carys Lloyd-Griffith, Bro Cybi
- Mrs Sally Thomas, Bro Padrig, Llanfechell
- Mr Trevor Jones
- Mr Alan Roberts, Bro Deiniol, Eglwys y Groes, Maesgeirchen
- Mr Paul Handby, Sant Cybi a Sant Garmon
- Mr J Richard Williams, Bro Cyngar, Llangefni
- Mr Christopher Medley, Bro Cybi
- Mrs Angela Swann
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf