Y Brenin a’r Frenhines i Fynychu Gwasanaeth y Cablyd Brenhinol

Bydd y Brenin a'r Frenhines yn mynychu Gwasanaeth y Cablyd Brenhinol yng Nghadeirlan Llanelwy, ddydd Iau 2 Ebrill, sef y tro cyntaf i’r achlysur gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru, a dim ond yr ail dro erioed yng Nghymru, mewn 800 mlynedd.
Yn ystod y gwasanaeth, bydd y Brenin yn cyflwyno rhoddion y Cablyd Brenhinol i tua 77 o ddynion a 77 o fenywod, yn bennaf o Gymru ond hefyd o esgobaethau ledled y DU. Mae Arian y Cablyd yn rhodd symbolaidd a roddir i gydnabod gwasanaeth Cristnogol rhagorol y derbynwyr ac am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eu cymunedau lleol. Bydd Ei Fawrhydi yn cyflwyno dau bwrs i’r derbynwyr, yn cynnwys yr Arian Cablyd unigryw. Yn y pwrs gwyn bydd set o ddarnau arian Cablyd, sef arian wedi’u bathu’n arbennig, yn gyfanswm o 77 ceiniog, i gyfateb i oedran y Brenin, ac yn y pwrs coch bydd darn arian £5 i goffáu 100 mlynedd ers geni’r Frenhines Elizabeth II, a darn 50c sy’n dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth y Brenin.
Dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol Llanelwy, y Tra Pharchedig Nigel Williams: “Rydym yn hynod falch o gael cynnal y Gwasanaeth y Cablyd hwn. Mae staff yr Eglwys Gadeiriol, y gwirfoddolwyr a’r gynulleidfa yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr achlysur yn brofiad cofiadwy i’r holl dderbynwyr a’r gwesteion. Edrychwn ymlaen at groesawu Eu Mawrhydi, y Brenin a’r Frenhines, i’r ddinas ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwn.”
Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron: “Mae’r Cablyd Brenhinol yn anrhydeddu gorchymyn Crist y dylem wasanaethu ein gilydd. Mae hyn yn cael ei fynegi yn y rhoddion y bydd y Brenin yn eu rhoi i’r 154 o bobl sydd wedi gwasanaethu eu cymunedau oherwydd eu ffydd Gristnogol. Mae’n achlysur hynod ystyrlon yr ydym yn falch o’i groesawu i Lanelwy.”
Bydd y Cablyd Brenhinol eleni yn cydnabod ac yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol mewn gwasanaeth i’r Eglwys a’u cymunedau, a bydd hefyd yn nodi’r cyfarfod cyntaf rhwng Ei Fawrhydi y Brenin a’r Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru.
Dywedodd y Parchedicaf Fwyaf Cherry Vann, Archesgob Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn bresennol ochr yn ochr â’r menywod a’r dynion a fydd yn derbyn darnau arian Cablyd eleni, ac i’w gweld yn cael eu hanrhydeddu yn y modd hwn am eu gwasanaeth i’r eglwys a’u cymunedau. Mae cael y gwasanaeth hwn yng Nghymru yn destun llawenydd mawr a bydd yn sicr yn brofiad cofiadwy i bawb sy’n cymryd rhan.”
Bydd y gwasanaeth eleni yn cynnwys cerddoriaeth a gomisiynwyd yn arbennig gan gyfansoddwyr a cherddorion Cymreig, gan ddathlu dychweliad y Cablyd Brenhinol i Gymru. Yn ogystal, bydd y gwasanaeth yn gweld defnydd o Groes Cymru yn yr orymdaith, rhodd gan Ei Fawrhydi y Brenin i Gristnogion Cymru. Defnyddiwyd y Groes hon i arwain yr orymdaith yn Abaty Westminster ar gyfer ei Goroni yn 2023, ac mae’n cynnwys darn o’r Wir Groes, rhodd i’r Brenin gan Ei Sancteiddrwydd Pab Ffransis, y credir ei fod yn rhan o’r groes y croeshoeliwyd Iesu arni.
Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd Eu Mawrhydi yn ymuno â Pharti y Cablyd Brenhinol ar gyfer ffotograff y tu allan i Ddrws Gorllewinol yr Eglwys Gadeiriol cyn cwrdd ag aelodau o gymuned yr eglwys.
Am y Cablyd Brenhinol
Mae Dydd Iau Cablyd yn ddydd sanctaidd Cristnogol sy’n digwydd ar y dydd Iau cyn y Pasg. Mae’n coffáu Swper Olaf Iesu Grist gyda’r Apostolion. Mae dosbarthu elusennau a golchi traed ar y dydd Iau yn Wythnos Sanctaidd yn draddodiad hynafol.
Gellir olrhain y Cablyd Brenhinol yn Lloegr yn ôl i’r 13eg ganrif, gyda’r cofnod cyntaf o ddosbarthiad Brenhinol yn Knaresborough, Gogledd Swydd Efrog, gan y Brenin Ioan yn 1210. Ers y 15fed ganrif, mae nifer y derbynwyr wedi bod yn gysylltiedig ag oedran y Sofran.
Mae derbynwyr y Cablyd Brenhinol yn cael eu dewis o esgobaethau Eglwys Loegr, a phartneriaid Anglicanaidd ac ecwmenaidd ledled y DU. Eleni, dewiswyd y derbynwyr o chwe esgobaeth yng Nghymru (Abertawe ac Aberhonddu, Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandaf a Mynwy) ynghyd â phedair esgobaeth yn Lloegr sy’n agos at Gymru neu sy’n ffinio â hi (Caer, Henffordd, Lichfield, Sodor a Manaw).
Bob blwyddyn mae’r Frenhiniaeth yn cael ei chynorthwyo i ddosbarthu Arian Cablyd gan yr Arglwydd Uchel Elusennydd, sef Esgob Norwich ar hyn o bryd.
Mae rhagor o wybodaeth am y Cablyd Brenhinol ar gael yn: www.royal.uk/royal-maundy-service
Am Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Mae Llanelwy yn golygu’r fangre grefyddol sanctaidd ar lannau Afon Elwy. Mae addoli wrth galon bywyd a gwaith yr eglwys gadeiriol hynafol hon, lle mae gweddïau wedi cael eu hoffrymu’n ddyddiol ers 1,450 o flynyddoedd.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy yw’r eglwys gadeiriol hynafol leiaf yn y DU. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r 14eg ganrif ac y mae ganddo gysylltiad cryf gyda’r ymdrech i gadw’r Gymraeg. Mae’n arddangos copi gwreiddiol o Feibl William Morgan o 1588. Daeth William Morgan yn Esgob Llanelwy yn 1601.
Mae’r eglwys gadeiriol yn un o brif atyniadau treftadaeth ar hyd coridor yr A55 yng Ngogledd Cymru ac yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau rheolaidd, digwyddiadau, cynadleddau, cyngherddau a gwyliau.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy yw sedd Esgob Llanelwy, un o chwe esgob yr Eglwys yng Nghymru, talaith annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang.