Datganiad ar adroddiadau newyddion diweddar
Mewn ymateb i raglen BBC Wales Investigates, ac adroddiadau newyddion cysylltiedig, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru:
Mae'r materion a godwyd, yn hanesyddol ac yn fwy diweddar, yn peri’r gofid dwysaf i'r Eglwys yng Nghymru. Nid oes lle yn yr Eglwys ar gyfer camdriniaeth, camymddwyn na chuddiad, ac rydym yn benderfynol y bydd y materion a nodwyd yn cael eu datrys yn llawn, ac y bydd arferion yn cael eu gwella fel y gall pob aelod o'r eglwys, a'r gymdeithas ehangach, fod yn hyderus bod yr eglwys, fel y dylai fod, yn amgylchedd diogel a chefnogol i bawb.
Lle rydym wedi syrthio’n brin o’r safonau hynny, boed yn y gorffennol neu'r presennol, y mae’n wirioneddol ddrwg gennym, ac rydym yn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi dioddef neu wedi cael ei gadael i lawr gan y methiannau hynny.
Mae'n bwysig nodi bod y materion a godwyd yn y cwestiynau hyn yn ymwneud â chyfnod o fwy na 40 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r broses o ymdrin â phryderon diogelu o fewn yr Eglwys yng Nghymru wedi cael ei hadolygu a'i gwella'n barhaus, fel bod y gweithdrefnau presennol yn llawer mwy annibynnol, proffesiynol a chadarn nag yn y degawdau blaenorol.
Nid yw hynny'n golygu na ellir gwella'r system ymhellach, ac mae pawb sy'n gweithio yn y maes hynod bwysig hwn wedi ymrwymo i welliant parhaus yng ngoleuni'r arfer gorau cyfredol.
Rydym yn gobeithio y bydd y ffaith bod y camau cyflym a phenderfynol a gymerwyd gan yr Eglwys yn achos Anthony Pierce, ers i'r adroddiad diweddaraf o'i drosedd ddod i'r golwg yn 2023, yn mynd rhywfaint o ffordd i ddangos ein penderfyniad i fynd i'r afael â'r materion hyn. Gellir gweld manylion y gweithredoedd hynny yma ac yma.
Yn yr achos hwnnw, ac yn yr achos mwy diweddar o faterion yn eglwys gadeiriol Bangor, comisiynwyd adolygiadau ffurfiol pan ddaeth pryderon i’n sylw, ac, er budd tryloywder, rhoddwyd y canlyniadau (mewn crynodeb oherwydd rhwymedigaethau cyfrinachedd) yn y parth cyhoeddus mewn ffordd ragweithiol. Gellir gweld manylion yma.
Mae'r datganiad pellgyrhaeddol a wnaed gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar Fehefin24ain yn dystiolaeth bellach o'n penderfyniad o ddatrys y materion hyn.
Yn y cyfarfod hwnnw, galwodd Corff y Cynrychiolwyr – y corff ymddiriedolwr elusennol sy'n gyfrifol am stiwardio asedau a dosbarthu cyllid i'r esgobaeth a'r eglwys gadeiriol – ar i awdurdodau’r gadeirlan a’r esgobaeth gydymffurfio ag ystod eang o ddiwygiadau sylfaenol gan gynnwys ym meysydd rheoli ariannol, diogelu, adnoddau dynol a prosesau ar gyfer chwythwyr chwiban.
Yn ogystal, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn comisiynu Archwiliad Diogelu Allanol o holl Gadeirlannau Cymru i sicrhau ei hun bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd. Bydd hefyd yn comisiynu, mewn partneriaeth â Phwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol, archwiliad diwylliannol allanol o'r Eglwys yng Nghymru.
Mae'r mesurau hyn, y gellir eu gweld yn llawn yma, yn dangos y bydd ein hymrwymiad i gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru bob amser yn cael ei arwain gan ein dyletswydd i amddiffyn unigolion bregus.