Datganiad ar weithredu Adroddiad Ymweliadau Eglwys Gadeiriol Bangor

Mae'r ddau grŵp a gafodd eu creu mewn ymateb i Adroddiad Ymweliad Eglwys Gadeiriol Bangor a’r archwiliad diogelu gan yr elusen arbenigol thirtyoneeight bellach wedi dechrau cwrdd yn rheolaidd.
Mae'r grŵp gweithredu, dan gadeiryddiaeth yr Archddiacon David Parry, wedi cyfarfod dair gwaith ac mae'n gwneud cynnydd da wrth ymgysylltu'n ofalus â'r argymhellion a gynhwysir yn y ddau adroddiad. Fel sy'n ofynnol yn ôl eu cylch gorchwyl, maent wedi adrodd ar gynnydd i Fwrdd Goruchwylio Eglwys Gadeiriol Bangor, i Gabidwl yr Eglwys Gadeiriol, ac i Bwyllgor Archwilio a Risg y Corff Cynrychioliadol ac wedi derbyn adborth defnyddiol gan bob un o'r grwpiau hyn.
Cyfarfu'r Bwrdd Goruchwylio am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf a dechreuodd y broses o osod eu cynllun gwaith a fydd yn cynnwys ymarferion plymio dwfn i agweddau ar weithgarwch yr Eglwys Gadeiriol a’r dasg o ddal y grŵp gweithredu i gyfrif.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, cadeirydd y Bwrdd Goruchwylio:
"Mae llawer i'w wneud i sicrhau bod newidiadau parhaol yn cael eu gwneud a'u hymgorffori'n drylwyr ym mywyd a diwylliant Eglwys Gadeiriol Bangor. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Bwrdd ac am yr ystod o sgiliau a phrofiad y maent yn dod â nhw i'r dasg bwysig hon."
Datganiad Personol gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John
Mae'r Bwrdd Goruchwylio a'r Grŵp Gweithredu yn Eglwys Gadeiriol Bangor bellach wedi cyhoeddi eu diweddariad cyntaf, ac mae'n dda gwybod bod cynnydd eisoes yn cael ei wneud wrth adfer bywyd a thystiolaeth yr eglwys gadeiriol.
Gyda'r gwaith hwn bellach mewn llaw, y mae’r amser yn awr yn addas i mi siarad yn uniongyrchol gyda theulu cyfan yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd, a’r hyn sydd wedi cael ei ddweud, ynglŷn â’r sefyllfa yn Eglwys Gadeiriol ac Esgobaeth Bangor.
Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am y camgymeriadau barn yr wyf i wedi'u gwneud ac sydd wedi achosi pryder a phoen. Mae fy ymddiheuriad i chi oll yn ddiffuant, yn ddiamod, ac yn ddiamwys.
Yn ystod yr hydref y llynedd, comisiynais ddau adroddiad annibynnol i Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae fersiynau cryno o'r ddau bellach ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefannau ac maen nhw’n datgelu diffygion ac arferion sefydliadol gwael na ddylai fod wedi digwydd. Rwy'n difaru'n fawr eu bod wedi digwydd yn ystod fy amser fel esgob ac rwy'n cydnabod y dylwn fod wedi gwneud mwy i atal methiannau o'r fath. Rwyf hefyd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am beidio mynd i'r afael â'r materion hyn yn ddigon cyflym. Rwy'n cydnabod bod ein tystiolaeth i Iesu Grist a’n cenhadaeth i Gymru wedi'u niweidio. Rwy'n edifarhau ac nid wyf yn cynnig unrhyw esgusodion na chyfiawnhad. Rwy'n ymrwymedig i broses barhaus o fyfyrio er mwyn sicrhau nad yw'r methiannau annerbyniol hyn yn digwydd eto.
Rwy'n ddiolchgar bod yr Eglwys yng Nghymru yn ceisio cynorthwyo'r eglwys gadeiriol a'r esgobaeth i ailsefydlu trefniadau llywodraethiant priodol ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'm cydweithwyr esgobol am eu her, eu cariad a'u cefnogaeth.
Datganiad gan yr Athro Medwin Hughes
Mewn ymateb i ddatganiad personol diffuant Archesgob Cymru am y sefyllfa yn Eglwys Gadeiriol Bangor, rwyf am sicrhau pawb sy'n gysylltiedig â’r mater y bydd Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu i ddod â'r canlyniad gorau posibl o'r prosesau sydd bellach ar y gweill.
Fel Cadeirydd Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru, ac chyda'n dyletswydd fel ymddiriedolwyr mewn cof, byddaf yn ceisio sicrhau bod yr holl gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei ddarparu gan ein timau a'n strwythurau Taleithiol er mwyn datrys y materion yn eglwys gadeiriol Bangor yn gyflym ac yn drylwyr. Bydd y Corff Cynrychioliadol yn talu’r sylw manylaf wrth inni ystyried pa gamau, a pha gefnogaeth sydd eu hangen nesaf.
Yn ogystal, yr wyf yn cadeirio Bwrdd Goruchwylio'r eglwys gadeiriol sydd yn gwerthuso sut i weithredu'r argymhellion niferus a gyflwynwyd yn y ddau adroddiad y mae'r Archesgob wedi comisiynu i drefniadau’r eglwys gadeiriol, ac sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar ffurf gryno.
Er mwyn adeiladu ymddiriedaeth, atebolrwydd a gwytnwch wrth i ni ddatrys y materion anodd hyn, y mae’r Bwrdd yn gallu holi heb unrhyw rwystr am faterion sy'n ymwneud â'r Esgobaeth a'r Eglwys Gadeiriol.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol i aelodau’r eglwys gadeiriol a'r esgobaeth, ac i bawb sy'n gofalu am fywyd yr Eglwys yng Nghymru. Rwy'n hyderus, gyda'r gweithdrefnau sydd bellach ar y gweill, a chyda chefnogaeth a gwaith caled pawb sydd wedi ymrwymo i'r broses hon, y byddwn yn gallu sicrhau y bydd bywyd yr eglwys yn cael ei adfer i’r hyn y dylai fod.