Datganiad Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru ar ddyfarniad y Goruchaf Lys ynglŷn â'r diffiniad cyfreithiol o fenyw

Mae Mainc yr Esgobion yn credu bod pob bod dynol yn blentyn gwerthfawr i Dduw, yn haeddu urddas a pharch. Mae gan bob un ohonom hunaniaeth fewnol sy'n hysbys i Dduw yn unig. Ein pwrpas yw i ddarganfod yr hunaniaeth hon yn ei realiti dyfnaf.
Rydyn ni fel esgobion i gyd yn adnabod pobl drawsrywiol sydd yn aml wedi profi brwydr anodd a chostus er mwyn dod o hyd i'w gwir hunaniaeth.
Gyda hynny mewn cof, ac mewn ymateb i ddyfarniad diweddar y Goruchaf Lys, sydd wedi ysgogi pryderon mor ddwfn ar sawl ochr, rydym am gydnabod a chadarnhau ein hunaniaeth gyffredin fel plant Duw, beth bynnag yw ein rhywedd ar enedigaeth, beth bynnag yw ein hunaniaeth rhywedd, a beth bynnag yw ein barn ar y mater sensitif hwn.
Wrth i gymdeithas ddechrau prosesu dyfarniad y Llys, rydym yn galw am dosturi ymarferol i'r rhai sy'n teimlo bod y dyfarniad wedi eu gwneud yn agored i niwed, ac am haelioni gan y rhai sy'n cytuno â'r dyfarniad.
Rydym i gyd yn adnabod unigolion sy'n teimlo'n ofidus gan y dyfarniad, ac rydym yn ymwybodol bod hyn yn arbennig o heriol i bobl ifanc, sy'n wynebu digon o anawsterau wrth drafod cymhlethdodau hunaniaeth rhywedd mewn cymdeithas o amrywiaeth eang. Iddyn nhw, ein neges yw: mae'r Eglwys yn eich croesawu, fel yr ydych chi, bob amser.
Gyda'n gilydd, rydym yn ymrwymo i weddïo dros bawb sy'n cael eu cyffwrdd gan y mater hwn, gan gynnwys y deddfwyr a'r awdurdodau cyhoeddus sy'n wynebu'r dasg anodd o ddod o hyd i ffordd ymarferol a chyfiawn ymlaen. Ac rydym yn galw am fwy o dosturi, mwy o ddealltwriaeth, a mwy o haelioni fel y gall holl blant Duw ganfod croeso yn yr Eglwys, ac yn y gymdeithas gyfan, er mwyn byw eu hunaniaeth yn gyflawn.