Datganiad gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar Eglwys Gadeiriol Bangor
Cyfarfu Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ddydd Mawrth Mehefin 24 i ystyried, ymhlith materion eraill, y sefyllfa yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Cyhoeddwyd datganiad cyhoeddus byr yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw:
“Cyfarfu Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru heddiw i ystyried materion yn ymwneud ag Eglwys Gadeiriol Bangor. Ar ôl trafodaethau helaeth a manwl, mae'r cyfarfod wedi gohirio, a bydd datganiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.”
Mae'r datganiad llawn hwnnw bellach yn cael ei gyhoeddi. Y mae'n cynnwys testun llawn y cynnig a gymeradwywyd gan Gorff y Cynrychiolwyr.
Cynnig wedi'i gymeradwyo gan Ymddiriedolwyr Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru
Mae Ymddiriedolwyr Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn cydnabod gyda phryder dwys y materion difrifol a godwyd mewn adroddiadau a gohebiaeth ddiweddar ynghylch arweinyddiaeth, diogelu, rheoli ac ymddygiad yn strwythurau canolog Esgobaeth Bangor ac yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Fel y corff Ymddiriedolwr elusennol sy'n gyfrifol am stiwardio asedau a dosbarthu cyllid i'r esgobaeth a'r eglwys gadeiriol, rydym yn cymryd ein dyletswydd o ofal ac atebolrwydd i'r Eglwys a'r gymuned ehangach gyda'r difrifoldeb mwyaf.
Ein Pryder a'n Cyfrifoldeb
Mae'r datgeliadau o fethiannau diogelu, ffiniau aneglur, ymddygiad amhriodol, amgylchedd rheoli gwan a diffyg tryloywder mewn rheolaeth yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn peri gofid mawr. Mae Ymddiriedolwyr yn gyfreithiol rwymedig i sicrhau bod yr elusennau y maent yn eu goruchwylio yn cynnal y safonau uchaf o lywodraethu, diogelu a chadw cofnodion. Mae'n hanfodol bod y cyhoedd y medru ymddiried mewn unrhyw elusen sy'n rhan o deulu yr Eglwys yng Nghymru. Mae stiwardiaeth asedau elusennol yn mynnu bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo cenhadaeth yr Eglwys ac er budd y cyhoedd mewn modd sy'n gyson â'n gwerthoedd a'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae'n ddyletswydd ar yr Ymddiriedolwyr Corff y Cynrychiolwyr i sicrhau bod y cymorth ariannol y maent yn ei ddarparu yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac mewn modd atebol.
Argymhellion a Disgwyliadau Allweddol
Yng ngoleuni'r pryderon hyn, mae Corff y Cynrychiolwyr yn nodi ei ddisgwyliadau a'i gyfarwyddiadau clir ar gyfer Esgobaeth Bangor a'i Bwrdd Cyllid Esgobaethol, Ymddiriedolaeth Esgobaethol Bangor ac Eglwys Gadeiriol Bangor:
- Bod Ymddiriedolwyr Bwrdd Cyllid Esgobaethol Bangor, Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Esgobaeth Bangor a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn gwneud ymrwymiadau ffurfiol i ymgysylltu'n llawn â'r Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn adroddiad yr Ymweliad ac adroddiad thirtyone:eight i weithredu'n llawn yr holl argymhellion yn yr adroddiadau ac i gydymffurfio â chyfarwyddiadau canllawiau a gyflwynwyd iddynt gan y Bwrdd Goruchwylio.
- Y byddant yn cydweithredu'n llawn ag archwiliad ariannol annibynnol a gomisiynwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr sy'n ymwneud â gwaith y Bwrdd Cyllid Esgobaethol, Ymddiriedolaeth Esgobaeth Bangor, a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol. Rhoddir sylw arbennig i briodoldeb llywodraethu, systemau ariannol, a goruchwyliaeth a pha mor effeithiol mae'r endidau cyfreithiol gwahanol hyn yn gweithredu ac yn ymwneud â'i gilydd. Rhennir yr adroddiad archwilio, yn llawn, gyda Phwyllgor Cyllid Corff y Cynrychiolwyr a'r Pwyllgor Archwilio a Risg.
Bydd y cyflenwad o gyllid yn y dyfodol i gefnogi Esgobaeth Bangor a'i Heglwys Gadeiriol yn gwbl ddibynnol ar fod Corff y Cynrychiolwyr yn fodlon bod strwythurau rheoli priodol a gweithdrefnau ariannol a gweinyddol ar waith i ddangos llywodraethu effeithiol. Yn benodol:- Effeithiolrwydd rheolaethau ariannol a strwythurau llywodraethu i sicrhau stiwardiaeth gyfrifol o cronfeydd arian elusennol.
- Gweithredu gweithdrefnau diogelu ac Adnoddau Dynol cadarn yn effeithiol.
- Sefydlu sianeli tryloyw ar gyfer adrodd pryderon, gyda sicrwydd o ddiogelwch ar gyfer chwythwyr chwiban.
- Bod Uwch Arweinwyr yr Esgobaeth, y Bwrdd Cyllid Esgobaethol, a Chabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd rhan mewn ymarfer dan arweiniad allanol lle mae pob carfan yn cytuno i ymgysylltu, dirnad a myfyrio ar y digwyddiadau sydd wedi arwain yr Esgobaeth i'r sefyllfa hon. Bydd ymarfer o'r fath yn holi am y gwersi a ddysgwyd ac yn hwyluso cyfeiriad cyffredin ar gyfer y dyfodol.
- Bod Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn comisiynu ymchwiliad allanol i ymddygiad, diwylliant a gweithgareddau Côr yr Eglwys Gadeiriol gan roi sylw dyledus i'r materion a nodwyd yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â'r Côr.
- Y byddant yn cydweithredu â thasglu arweinyddiaeth a sefydlir gan Gorff y Cynrychiolwyr, ac a fydd yn atebol i Ymddiriedolwyr Corff y Cynrychiolwyr, i weithio gyda swyddogion Esgobaeth Bangor i gynnig mwy o gapasiti a gyrru newid strwythurol. Bydd tasglu o'r fath yn cael yr awdurdod i gyflawni a gweithredu'r newidiadau system sydd eu hangen i greu seilwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd aelodau'r tasglu yn cael mynediad llawn at wybodaeth, a chaniateir iddynt fynychu cyfarfodydd bwrdd a rheoli.
Yn ogystal, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn comisiynu Archwiliad Diogelu Taleithiol o'r holl Eglwysi Cadeiriol yng Nghymru i sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd. Bydd hefyd yn comisiynu, mewn partneriaeth â Phwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol, archwiliad diwylliannol o'r Eglwys yng Nghymru.
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos ac yn cadw'r hawl i adolygu ac, os oes angen, addasu trefniadau cyllido yn unol â'n cyfrifoldebau diwydrwydd dyladwy fel Ymddiriedolwyr. Rydym yn annog yr Esgobaeth a'r Eglwys Gadeiriol i weithredu'n gyflym ac yn dryloyw i adfer ymddiriedaeth a sicrhau amgylchedd diogel ac atebol ar gyfer pawb.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru ym Mangor a ledled Cymru, gan gael ein harwain bob amser gan ein dyletswydd i ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed ac i stiwardio ein hadnoddau er lles cyffredin yr Eglwys yng Nghymru. Felly, rydym hefyd yn galw am newid mewn arweinyddiaeth, gweithdrefnau a llywodraethu yn Esgobaeth Bangor.